-
2 Mawrth 2021Astudiaeth o effaith Covid-19 ar weithgarwch corfforol ac iechyd meddwl plant
Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe yn archwilio effaith Covid-19 ar weithgarwch corfforol, iechyd meddwl a lles plant yng Nghymru.
-
2 Mawrth 2021Adroddiad Prifysgol Abertawe yn gwneud argymhellion swyddogol i Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng ail gartrefi yng Nghymru
Mae awdur adroddiad newydd a gafodd ei gomisiynu gan Weinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg Llywodraeth Cymru wedi gwneud 12 o argymhellion polisi i Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng ail gartrefi yng Nghymru a'i effaith ar gymunedau Cymraeg.
-
1 Mawrth 2021Prifysgol Abertawe yn ymuno yn yr ymgyrch i leihau gwastraff bwyd
Mae Prifysgol Abertawe yn cefnogi'r Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd gyntaf erioed yn y DU.
-
26 Chwefror 2021Prif Weinidog Cymru yn agor Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan Prifysgol Abertawe
Gwnaeth y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru, agor Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM) yn swyddogol heddiw (dydd Gwener, 26 Chwefror) yn ystod seremoni rithwir.
-
26 Chwefror 2021Astudiaeth newydd yn tynnu sylw at bwysigrwydd cyd-destun i ddamcaniaethau ffisegol
Tynnir sylw at ymchwil gwyddonydd o Brifysgol Abertawe i nodweddion geometregol damcaniaethau ffisegol mewn papur newydd.
-
23 Chwefror 2021Gwyddonwyr yn datgan bod dull nofio pysgodyn yn datgelu cryn wybodaeth am ei bersonoliaeth
Mae personoliaeth wedi cael ei disgrifio ar gyfer mathau gwahanol o rywogaethau anifeiliaid, o forgrug i epaod. Mae rhai unigolion yn swil ac yn sefydlog, ond mae eraill yn fentrus ac yn fywiog. Nawr, mae astudiaeth newydd a gyhoeddir yn Ecology and Evolution wedi datgelu bod dull nofio pysgodyn yn rhoi llawer o wybodaeth am ei bersonoliaeth.
-
22 Chwefror 2021Ymchwil fyd-eang i effaith ymateb llywodraethau i Covid-19 ar bobl ddiamddiffyn
Mae academyddion o Brifysgol Abertawe'n cyfrannu at astudiaeth ryngwladol sy'n archwilio effaith ymatebion llywodraethau i Covid-19 ar grwpiau diamddiffyn.
-
22 Chwefror 2021Ymchwil newydd yn awgrymu y gallai deietau llawn ffrwctos niweidio'r system imiwnedd
Mae ymchwil newydd gan wyddonwyr o Brifysgol Abertawe mewn cydweithrediad â gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bryste ac yn Sefydliad Francis Crick yn Llundain wedi awgrymu y gallai deietau sy'n cynnwys llawer o'r siwgr ffrwctos atal systemau imiwnedd pobl rhag gweithredu'n gywir, mewn ffyrdd a fu, hyd yn hyn, yn anhysbys i raddau helaeth.
-
18 Chwefror 2021Myfyrwyr nyrsio yn rhoi cymorth technolegol i gleifion ysbyty
Mae rhai o fyfyrwyr nyrsio Prifysgol Abertawe wedi helpu cleifion mewn ysbyty yng ngorllewin Cymru i gadw mewn cysylltiad â'u hanwyliaid.
-
17 Chwefror 2021Galw am wirfoddolwyr i gyfrannu at ymchwil i chwistrell i'r trwyn a allai helpu yn erbyn Covid-19
Mae Prifysgol Abertawe'n chwilio am wirfoddolwyr o Dde Cymru i fod yn rhan o ymchwil hollbwysig i weld a allai chwistrell i'r trwyn sydd ar gael i'w phrynu helpu i amddiffyn pobl yn erbyn Covid-19.
-
17 Chwefror 2021Grant sylweddol i ddatblygu ceirch fel cynnyrch bwyd iach
Mae grant Ewropeaidd sylweddol wedi cael ei ddyfarnu i bartneriaid yng Nghymru ac Iwerddon, gan gynnwys Prifysgol Abertawe, i wneud gwaith ymchwil ar ddatblygu ceirch fel cynnyrch bwyd iach a chnwd sy'n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd.
-
16 Chwefror 2021Myfyrwyr parafeddygol yn cael brechiad wrth iddynt barhau i gefnogi gwasanaethau
Mae myfyrwyr parafeddygol Prifysgol Abertawe wedi cael brechiad yn erbyn coronafeirws wrth iddynt barhau i weithio ar reng flaen y GIG.
-
16 Chwefror 2021Teyrnged i'r Athro Hywel Francis
Mae ffrindiau di-rif Hywel Francis – yr addysgwr oedolion, yr hanesydd, yr ymgyrchydd a'r seneddwr – ym Mhrifysgol Abertawe a'r tu hwnt yn galaru ar ôl iddo farw'n 74 oed.
-
16 Chwefror 2021Penodi Llysgenhadon Addysg Uwch newydd i’r Coleg Cymraeg o Brifysgol Abertawe
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi penodi pum llysgennad newydd ar gyfer 2021 o Brifysgol Abertawe i rannu Sŵn y Stiwdants ac annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i ymddiddori ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg.
-
15 Chwefror 2021Pobl mewn ardaloedd tlawd 50% yn fwy tebygol o farw o asthma na phobl mewn ardaloedd mwy cyfoethog
Mae pobl sy'n dioddef o asthma yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru 50% yn fwy tebygol o gael eu derbyn i ysbyty ac o farw o asthma na'r rhai sy'n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig, yn ôl astudiaeth newydd dros bum mlynedd o fwy na 100,000 o bobl.
-
12 Chwefror 2021Ymchwil yn datgelu bod angen cefnogaeth iechyd meddwl a chymorth ariannol ar bobl sy'n hunanynysu
Roedd mwy na hanner y bobl y bu'n rhaid iddynt hunanynysu yn teimlo bod hynny wedi effeithio ar eu hiechyd meddwl a dywedodd mwy na chwarter ohonynt ei fod wedi effeithio'n negyddol ar eu hincwm, yn ôl ymchwil Prifysgol Abertawe.
-
12 Chwefror 2021Arbenigwyr yn cydweithio i gadw plant yn ddiogel ar-lein
Mae Prifysgol Abertawe'n arwain y frwydr yn erbyn camfanteisio'n rhywiol ar blant ar-lein ar ôl cael cyllid sylweddol am brosiect arloesol newydd sy'n canolbwyntio ar atal perthnasoedd amhriodol ar-lein.
-
12 Chwefror 2021Prosiect newydd ar y cyd yn ceisio CYSYLLTU myfyrwyr mewn prifysgolion
Mae prosiect newydd ar y cyd sydd am gefnogi myfyrwyr sy'n teimlo'n unig ac yn ynysig wedi cael ei lansio gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).
-
11 Chwefror 2021Cyfarwyddwr Gwyddor Data Poblogaeth wedi ei gydnabod am ei ddylanwad ar faes data
Mae rhestr DataIQ 100 ar gyfer 2021 yn cydnabod bod yr Athro David Ford, Cyfarwyddwr y Grŵp Gwyddor Data Poblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe, ymhlith y bobl fwyaf dylanwadol ym maes data a dadansoddeg.
-
10 Chwefror 2021Ymchwil Hydrogen Gwyrdd yn Helpu Diwydiant i Leihau Allyriadau Carbon
Fel rhan o drefniant cydweithio rhwng ymchwilwyr yn y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI) ym Mhrifysgol Abertawe a’r cynhyrchydd sment, Hanson UK, mae uned arddangos newydd ar gyfer hydrogen gwyrdd wedi cael ei gosod yng ngwaith Regen GGBS y cwmni ym Mhort Talbot, De Cymru.
-
10 Chwefror 2021Cyfnod ymgeisio ar gyfer ysgoloriaeth newydd er cof am gyfraniad Hywel Teifi Edwards ar agor
Mae Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe yn galw ar fyfyrwyr sydd am astudio ar gyfer gradd ymchwil ôl-radd trwy gyfrwng y Gymraeg i wneud cais am ysgoloriaeth newydd er cof am yr Athro Hywel Teifi Edwards.
-
9 Chwefror 2021Bysedd plant yn dangos lefel incwm mamau a chlefydau sy'n dechrau yn y groth
Mae mamau sy'n ennill incwm isel yn benyweiddio eu plant yn y groth drwy addasu eu hormonau, ond mae mamau sy'n ennill incwm uchel yn gwryweiddio eu plant, yn ôl astudiaeth fawr sy'n seiliedig ar hyd bysedd, dan arweiniad arbenigwr o Brifysgol Abertawe.
-
4 Chwefror 2021Hillary Clinton yn ymestyn ei rhaglen ysgoloriaethau mewn partneriaeth â Sky a Phrifysgol Abertawe
Mae cyn-ysgrifennydd gwladol yr Unol Daleithiau Hillary Clinton wedi cyhoeddi bod Rhaglen Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe wedi cael ei hymestyn i gynnwys pum ysgolhaig arall.
-
4 Chwefror 2021Cyfarwyddyd arbenigol newydd ar ymarfer corff diogel i gleifion sy'n dioddef o glefyd ar y galon a diabetes
Bydd cleifion sy'n dioddef o glefyd ar y galon ynghyd â diabetes yn gallu gwneud eu hymarferion adfer yn fwy diogel, diolch i gyfarwyddyd cyntaf y byd ar y pwnc, a gyhoeddwyd gan academydd o Brifysgol Abertawe ac arbenigwyr rhyngwladol eraill.
-
3 Chwefror 2021Cyfle newydd i rannu profiadau o fyw yn ystod pandemig
Wrth i'r pandemig barhau i reoli ein bywydau, gofynnir i bobl yng Nghymru rannu eu profiadau fel rhan o ymchwil barhaus i'r ffordd y maent yn ymdopi â'r argyfwng coronafeirws.
-
2 Chwefror 2021Arbenigwr yn profi dull newydd o arsylwi plant yn chwarae
Mae astudiaeth o’r camau y mae plant yn mynd drwyddynt wrth iddynt gyd chwarae yn cael eu hamlygu mewn ymchwil newydd gan academydd ym Mhrifysgol Abertawe.
-
1 Chwefror 2021Y Brifysgol yn helpu mwy na 250 o ddisgyblion i barhau i ddarllen
Mae disgyblion Blwyddyn 7 mewn dwy ysgol leol wedi cael eu hannog i ddarllen ac i hybu eu llythrennedd yn ystod y cyfyngiadau symud, diolch i brosiect Prifysgol Abertawe.
-
1 Chwefror 2021Angen rhoi mesurau rheoli ar waith er mwyn atal cregyn gleision rhesog rhag heidio i Brydain Fawr
Yn ôl ymchwil newydd gan wyddonwyr o Brifysgol Abertawe, mae rampiau cychod yn helpu cregyn gleision rhesog (Dreissena polymorpha) hynod ymledol i fynd ar led. Er mwyn atal y rhywogaeth hon rhag ymledu, mae Dr Marta Rodriguez-Rey a'i chyd-awduron yn awgrymu yn yr astudiaeth newydd y dylid rhoi mesurau rheoli llym ar waith a monitro rampiau cychod penodol.
-
27 Ionawr 2021Arbenigwyr yn galw am ymagwedd fwy pragmataidd at addysgu ym maes addysg uwch
Gallai miliynau o fyfyrwyr ledled y byd fod ar eu hennill pe bai eu haddysgwyr yn mabwysiadu ymagwedd fwy hyblyg ac ymarferol, yn ôl arbenigwyr o Brifysgol Abertawe.
-
27 Ionawr 2021Cofio trychinebau yng Nghymru ac yn Ffrainc – astudiaeth newydd yn galw am wirfoddolwyr
Mae ymchwilydd o Brifysgol Abertawe yn gofyn am wirfoddolwyr o Gymru i rannu eu hatgofion o drychinebau yn y gorffennol ar gyfer astudiaeth newydd a fydd yn edrych ar y ffordd y mae pobl sy'n byw yng Nghymru ac yn Ffrainc yn ymdrin â'r atgofion hyn.
-
27 Ionawr 2021Arbenigwyr byd-eang yn uno i drafod breuddwyd hanesyddol Dora, un o gleifion Freud
Bydd Mark Blagrove, arbenigwr cwsg Prifysgol Abertawe, yn cyflwyno digwyddiad arbennig i gofio achlysur arwyddocaol yn hanes dadansoddi breuddwydion.
-
25 Ionawr 2021Prifysgol Abertawe a Faradair Aerospace yn cryfhau eu perthynas ar gyfer adfywiad awyrofod y DU
Mae Prifysgol Abertawe wedi cryfhau eu perthynas â Faradair Aerospace, a fydd yn ailgyflwyno maes cynhyrchu awyrennau ar raddfa fawr yn y DU, gyda chynlluniau i gynhyrchu 300 o awyrennau cynaliadwy wedi'u dylunio ym Mhrydain erbyn 2030.
-
22 Ionawr 2021Bydwreigiaeth yw her nesaf Tirion ar ôl iddi fachu gwobr fawr
Roedd yr hyfforddwraig rygbi Tirion Thomas yn falch o gael ei hanrhydeddu am ei hymroddiad i chwaraeon, ond mae hi bellach yn rhoi'r un ymrwymiad i'w gyrfa hirdymor ag y mae i bob gêm.
-
22 Ionawr 2021A wnaeth cobraod poerllyd ddatblygu gwenwyn poenus i amddiffyn yn erbyn ein cyndeidiau?
Gwnaeth gallu rhai cobraod i boeri eu gwenwyn, sy'n unigryw ymysg nadroedd, ddatblygu fel mecanwaith amddiffynnol i achosi poen yn hytrach nag i ddal ysglyfaethau, yn ôl ymchwil newydd gan dîm sy'n cynnwys ymchwilydd o Brifysgol Abertawe.
-
21 Ionawr 2021Cysylltiad rhwng gordewdra ac amddifadedd a chynnydd mawr mewn anhwylder pwysedd yr ymennydd
Mae chwe gwaith cynifer o achosion o anhwylder pwysedd yr ymennydd – sy'n effeithio ar fenywod yn bennaf, gan achosi cur pen a cholli golwg yn barhaol weithiau – na'r cyfanswm 15 mlynedd yn ôl, ac mae cysylltiad rhyngddo a gordewdra ac amddifadedd, yn ôl ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe.
-
21 Ionawr 2021Pridd o Iwerddon yn cynnig gobaith yn y frwydr yn erbyn ymwrthedd i wrthfiotigau
Mae'r gwyddonwyr a dynnodd sylw at nodweddion trechu heintiau bacteria yn y pridd yng Ngogledd Iwerddon wedi gwneud darganfyddiad cyffrous arall yn yr ymdrech i ddod o hyd i wrthfiotigau newydd.
-
21 Ionawr 2021Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2021: Rhestr hir llawn llyfrau cyntaf a lleisiau benywaidd
Caiff y rhestr hir ryngwladol ar gyfer un o wobrau llenyddol mwyaf y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – ei chyhoeddi heddiw, ac mae'n cynnwys naw llyfr cyntaf, y nifer mwyaf erioed.
-
20 Ionawr 2021Profi, Olrhain a Diogelu yng Nghymru: galw am gyfranogwyr mewn astudiaeth i ddeall yn well y cymorth y mae ei angen ar bobl i hunanynysu
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe wedi cael eu comisiynu gan y Senedd i archwilio profiadau pobl o gael gwybod gan y gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu fod yn rhaid iddynt hunanynysu.
-
20 Ionawr 2021Mwy o glod i brosiect Copperopolis – cynnwys cymunedau yn hanes Abertawe
Mae prosiect Copperopolis, sydd wrth wraidd y broses o adfywio gwaith copr yr Hafod-Morfa, wedi cael ei ddewis fel esiampl o'r ffordd y mae prifysgolion ledled Cymru yn gweithio gyda'u cymunedau, gan greu manteision cymdeithasol ac economaidd.
-
20 Ionawr 2021Tîm Abertawe yn helpu cwmni i ailgylchu hen gynnyrch i greu cetris inc newydd
Mae rhaglen ASTUTE 2020, sy’n cael ei hariannu gan yr UE, ac sy’n rhan o Brifysgol Abertawe, wedi darparu cefnogaeth Ymchwil, Datblygu ac Arloesi (RD&I) diwydiannol i helpu Brother Industries (U.K) Ltd. i gynhyrchu cetrisen inc gyntaf brand Brother a gynhyrchwyd o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu a adferwyd o gynnyrch Diwedd Oes.
-
20 Ionawr 2021Ymchwilydd yn cael cydnabyddiaeth am geisio atebion cynaliadwy
Mae ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol am ei waith ym maes datgarboneiddio diwydiannol.
-
20 Ionawr 2021Adeiladau Ynni Gweithredol yn India i gyflwyno ynni solar glân i gymunedau nad ydynt ar y grid
Bydd adeiladau ynni gweithredol – sy'n cynhyrchu, yn storio ac yn rhyddhau eu hynni solar eu hunain – yn cael eu hadeiladu yn India, gan helpu rhai o'r 600,000 o bentrefi yn y wlad sy'n cael problemau gyda chyflenwad trydan.
-
13 Ionawr 2021Astudiaeth sy'n ymchwilio i alcohol yn cael grant gan elusen
Mae prosiect o Brifysgol Abertawe wedi cael cyllid i ymchwilio i'r defnydd o alcohol gan bobl o gefndiroedd sipsiwn, Roma a theithwyr.
-
12 Ionawr 2021Brechlyn clwtyn clyfar cyntaf y byd ar gyfer COVID-19 a fydd yn mesur effeithiolrwydd
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wrthi'n datblygu'r ddyfais glyfar gyntaf a fydd yn cyflwyno brechlyn COVID-19 ac yn mesur ei effeithiolrwydd drwy fonitro ymateb cysylltiedig y corff.
-
11 Ionawr 2021Gallai monitro syml leihau camddefnyddio meddyginiaeth mewn cartrefi gofal
Awgryma ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe bod system fonitro meddyginiaethau syml dan arweiniad nyrs neu ofalwr yn gallu helpu i leihau salwch yn ymwneud â meddyginiaeth ar gyfer pobl sy’n byw mewn cartrefi gofal preswyl – ac mae’r broses ond yn cymryd ychydig funudau ar gyfer pob claf.
-
7 Ionawr 2021Y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol yn achredu cyrsiau
Mae dau o gyrsiau Prifysgol Abertawe ymysg y cymwysterau ôl-raddedig cyntaf i gael eu hachredu gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol.
-
7 Ionawr 2021Penodi athro o Brifysgol Abertawe yn gyfarwyddwr canolfan ffiseg niwclear Ewropeaidd
Mae'r Athro Gert Aarts FLSW, o Adran Ffiseg Prifysgol Abertawe, wedi cael ei benodi'n Gyfarwyddwr Interim Canolfan Ewrop ar gyfer Astudiaethau Damcaniaethol mewn Ffiseg Niwclear a Meysydd Cysylltiedig (ECT*)
-
6 Ionawr 2021Damcaniaeth dulliau dysgu aneffeithiol yn parhau mewn addysg ledled y byd yn ôl adolygiad newydd
Mae adolygiad newydd gan Brifysgol Abertawe'n datgelu bod pobl ledled y byd yn glynu wrth ffordd o addysgu sy'n aneffeithiol ac a all fod yn niweidiol i ddysgwyr.