Ymchwilwyr yn defnyddio dronau i asesu safleoedd ynni adnewyddadwy

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe'n cymryd rhan mewn prosiect i dreialu dull newydd o fesur ceryntau llanw a allai weddnewid y diwydiant nwyddau adnewyddadwy morol. 

Bydd y prosiect, a arweinir gan Brifysgol Ucheldiroedd ac Ynysoedd yr Alban, yn defnyddio dronau i ffilmio dŵr yn symud cyn defnyddio algorithmau i fesur ei gyflymder.

Y gobaith yw y gallai'r dechneg fod yn ffordd syml ac effeithiol o nodi lleoliadau ar gyfer tyrbinau llanw tanddwr a fydd yn lleihau costau i ddatblygwyr ynni adnewyddadwy ac yn creu cyfleoedd i wledydd sy'n datblygu. Mae'r dulliau presennol o fesur ffrydiau llanw'n dibynnu ar ddefnyddio llongau arolygu neu osod synwyryddion yng ngwaelod y môr, a all fod yn broses hir a drud.

Mae Dr Benjamin Williamson yn arwain y prosiect 12 mis ochr yn ochr â chydweithwyr o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor. Bydd y tîm yn cynnal profion mewn tywydd amrywiol yn Aber Pentland yn yr Alban a Swnt Dewi oddi ar arfordir Sir Benfro.

Meddai Dr Williamson: "Mae mesur cyflymder ffrydiau a symudiad dŵr yn hanfodol er mwyn datblygu ynni adnewyddadwy ar y môr. Mae angen cael y mesuriadau hyn er mwyn proffwydo perfformiad a llywio lleoliad tyrbinau ffrydiau llanw tanddwr neu optimeiddio angorau a dyluniadau tyrbinau nofiol. Fodd bynnag, mae casglu'r mesuriadau hyn fel arfer yn ddrud ac yn llawn risg.

"Mae ein techneg awyrol yn cynnig ffordd gost-effeithiol o gefnogi'r broses o ddatblygu ynni adnewyddadwy morol mewn modd amgylcheddol gynaliadwy. Rydym yn gobeithio helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd drwy ddatblygu ein gallu i gynhyrchu ynni dibynadwy a glân."

Ychwanegodd Dr Iain Fairley, o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe: "Mae'r gwaith yn adeiladu ar ddatblygiad adnoddau blaenorol ym mhrosiect Selkie, a ariannwyd gan yr UE. Bydd y prosiect yn dilysu, a hynny'n gynhwysfawr, fesuriadau dronau o geryntau ar wyneb y môr ac yn darparu cysylltiad pwysig rhwng y ceryntau hynny a cheryntau yn y dyfnderoedd lle gosodir y tyrbinau.

"Mae hyn yn hanfodol er mwyn rhoi'r cyfle i ddatblygwyr ddefnyddio'r adnodd cyfoes hwn."

Meddai Dr Jared Wilson, Rheolwr Rhaglen Nwyddau Adnewyddadwy ac Ynni Marine Scotland Science: "Drwy gasglu data hydrodynamig eglur iawn ar safleoedd ynni adnewyddadwy ar y môr, bydd y prosiect yn gwella ein dealltwriaeth o effeithiau posib y fath dechnolegau ac yn helpu i sicrhau eu bod yn dal i gael eu cyflwyno mewn modd amgylcheddol gynaliadwy."

Caiff y prosiect i ddilysu ceryntau ar yr wyneb ar safleoedd ynni adnewyddadwy ar y môr, sef V-SCORES, ei ariannu drwy raglen ynni adnewyddadwy ar y môr Supergen y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol, prosiect gwerth £9m a arweinir gan Brifysgol Plymouth.

 

Rhannu'r stori