Sgip i brif cynnwys Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Menu Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Swyddfa'r Wasg
  3. Newyddion a Digwyddiadau
  4. Newyddion
  5. Newyddion Diweddaraf 2022
  • Astudio
    • Diwrnodau Agored yn Abertawe
      Three students walking through Bay Campus in the Sun

      Rydyn ni'n disgwyl ymlaen at eich crosawu chi!

      Ymweld â ni
    • Israddedig
      • Cyrsiau
      • Llety
      • Canllaw Rhieni a Gwarcheidwaid I'r Brifysgol
      • Diwrnodau Agored
      • Sut i wneud cais
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cadwch mewn cysylltiad
      • Clirio ym Abertawe
    • Ôl-raddedig
      • Cyrsiau
      • Rhaglenni Ymchwil
      • Diwrnod Agored
      • Sut i Wneud Cais
      • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
      • Y Brifysgol
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cadwch mewn cysylltiad
    • Bywyd Myfyriwr
      • Astudio
      • Pam Abertawe
      • Bywyd y campws
      • Chwaraeon
      • Cynaliadwyedd - Cymrwch Ran
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
      • Taith Rhithwir
      • Beth yw Pythefnos y Glas?
    • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
      • Llyfrgelloedd ac Archifau
      • BywydCampws
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
      • Menter Myfyrwyr
      • Canolfan Llwyddiant Academaidd
      • Academi Hywel Teifi
      • Llesiant myfyrwyr
  • Rhyngwladol
  • Ein Ymchwil
    • Gwnewch Ymchwil Gyda Ni
      • Cefnogi eich taith ymchwil ôl-raddedig
      • Dod o hyd I raglan ymchwil ol-raddedig
      • Sut i wneud cais am raglen ymchwil Ôl-raddedig
      • Hyfforddiant a Datblygiad i Oruchwylwyr a Myfyrwyr Ymchwil
    • Archwiliwch ein hymchwil
      • Uchafbwyntiau Ymchwil
      • Ymchwil yn y cyfadrannau
      • Momentum - ein cylchgrawn ymchwil
      • Archwilio Problemau Byd-eang
    • Darganfyddwch ein hymchwil
      • Cyfeiriadur Arbenigedd
      • Dod o hyd i bapur ymchwil
      • Manteisio ar ein Harbenigedd ym maes Ymchwil a Datblygu
    • Ein Hamgylchedd Ymchwil
      • Uniondeb Ymchwil: Moeseg a Llywodraethu
      • Effaith ymchwil
      • Hyfforddiant a datblygiad
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
    • Ein Cenhadaeth Ddinesig
      • Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe
      • Gŵyl Bod yn Ddynol
      • Oriel Science
      • Byd Copr Cymru
  • Busnes
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
    • Swyddfa'r Wasg
      Female student working with steel

      Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

      Darllenwch y newyddion diweddaraf yma
    • Y Brifysgol
      • Amdanom ni
      • Sut i ddod o hyd i ni
      • Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
      • Ein Cyfadrannau
      • Swyddfa'r Wasg
      • Swyddi a Gweithio yn Abertawe
      • Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe
      • Teithio i’r campws ac oddi yno
      • Cysylltu â ni
    • Chwaraeon
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Iechyd a Ffitrwydd
      • Perfformiad ac Ysgoloriaethau
      • Chwaraeon i fyfyrwyr - Chwaraeon Myfyriwr
    • Bywyd y campws
      • Llety
      • Llefydd i fwyta ar gampws
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Y Neuadd Fawr
      • Taliesin
      • Creu Taliesin
      • Ein Tiroedd
      • Cerddoriaeth
      • Rhithdaith
    • Ein Cyfadrannau
      • Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
      • Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
      • Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
      • Y Coleg
    • Academïau
      • Academi Iechyd a Llesiant
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
      • Academi Hywel Teifi
      • Academi Cynwysoldeb a Llwyddiant Dysgwyr Abertawe (SAILS)
  • Newyddion a Digwyddiadau
  • Cefnogaeth a Lles
  1. Hafan
  2. Swyddfa'r Wasg
  3. Newyddion a Digwyddiadau
  4. Newyddion
  5. Newyddion Diweddaraf 2022

Newyddion Diweddaraf 2022

Tudalennau cysylltiedig
  • Newyddion a Digwyddiadau
    • Newyddion
      • 2022
        • Mai
        • Ebrill
        • Mawrth
        • Chwefror
        • Ionawr
      • 2021
      • 2020
      • 2019
      • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
  • Gwybodaeth i newyddiadurwyr
  • Gwybodaeth i Staff

Gweld ein Straeon diweddaraf

  • 26 Mai 2022
    Prifysgol Abertawe’n cyhoeddi arlwy'r GwyddonLe yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022

    Mae Prifysgol Abertawe yn falch o noddi un o brif atyniadau maes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, sef pafiliwn y GwyddonLe, eto eleni, gan gynnig wythnos lawn o weithgareddau addysgiadol difyr i blant a phobl ifanc.

  • 25 Mai 2022
    Safleoedd Effaith Times Higher Education 2022

    Mae Prifysgol Abertawe ymysg y 200 prifysgol orau yn Safleoedd Effaith Times Higher Education 2022.

  • 24 Mai 2022
    Prosiect ffilmiau dogfen yn uno'r Brifysgol a'r gymuned i dynnu sylw at benrhyn Gŵyr

    Caiff prosiect ffilmiau unigryw a ddaeth â myfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe a'r gymuned ynghyd i arddangos harddwch Gŵyr ei lansio'n swyddogol fis nesaf. 

  • 24 Mai 2022
    Gwobrau Ymchwil ac Arloesi'n gyfrifol am ddathliad mawr cyntaf Prifysgol Abertawe ers 2020

    Amlygwyd ehanger ymchwil Prifysgol Abertawe sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang yng Ngwobrau Ymchwil ac Arloesi 2022 wrth i 14 o brosiectau gael eu gwobrwyo.

  • 20 Mai 2022
    Astudiaeth newydd yn chwilio am siaradwyr Cymraeg sy'n byw mewn cartrefi gofal

    Mae ymchwilydd o Brifysgol Abertawe'n chwilio am help i gynnal astudiaeth unigryw o brofiad siaradwyr Cymraeg hŷn o ofal.

  • 19 Mai 2022
    Cynhadledd ymchwil i hybu partneriaeth Prifysgol Abertawe â Grenoble a'i chysylltiadau Ewropeaidd

    Bydd cysylltiadau Ewropeaidd ac ymchwil Prifysgol Abertawe ym mhob rhan o'r sefydliad yn cael eu cryfhau pan fydd ymchwilwyr sy'n gweithio yn Abertawe a Ffrainc yn cwrdd ym mis Gorffennaf, fel rhan o bartneriaeth ffyniannus ag Université Grenoble Alpes (UGA).

  • 18 Mai 2022
    Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe ar restr fer gwobrau gyrfaoedd a chyflogadwyedd mawreddog

    Mae Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe wedi cael ei henwebu am bum gwobr yng Ngwobrau Rhagoriaeth AGCAS (Association of Graduate Careers Advisory Services) 2022.

  • 18 Mai 2022
    Diogelu plant rhag yr haul – bydd ymchwil newydd yn archwilio rôl ysgolion cynradd wrth atal canser y croen

    Wrth i gyfraddau canser y croen gynyddu, gan gynnwys llawer o achosion y gellir eu hatal, bydd prosiect ymchwil newydd yn archwilio rôl ysgolion cynradd yng Nghymru ac yn asesu effeithiolrwydd polisïau diogelwch rhag yr haul wrth amddiffyn plant. Bydd y canlyniadau'n helpu i atal canser y croen yn well yng Nghymru a'r tu hwnt.

  • 18 Mai 2022
    Carol Vorderman yn cefnogi naw bwrsariaeth i fyfyrwyr sy'n astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe

    Bydd Bwrsariaethau Mynediad at Fathemateg Carol Vorderman yn galluogi naw myfyriwr i gyrraedd addysg uwch ym Mhrifysgol Abertawe drwy gymorth ariannol ychwanegol.

  • 18 Mai 2022
    Profion iechyd yn gwneud gwahaniaeth wrth achub bywydau pobl sydd ag anabledd dysgu

    Mae ymchwilwyr o Gymru wedi canfod bod profion iechyd yn helpu pobl sydd ag anabledd dysgu i oroesi, yn enwedig y rhai sy'n dioddef o awtistiaeth neu syndrom Down. 

  • 16 Mai 2022
    Cyllid i helpu prosiect arloesol ym maes lled-ddargludyddion i gyflawni uchelgeisiau sero net

    Mae cyfleuster ymchwil ac arloesi newydd ym Mhrifysgol Abertawe wedi derbyn hwb cyllid gwerth bron £2.5m i gynnal prosiect a fydd yn treialu strategaethau arloesol i leihau allyriadau fel y bydd y diwydiant lled-ddargludyddion yn helpu'r sector i gyflawni ei uchelgeisiau sero net.

  • 12 Mai 2022
    Nofel gyntaf Patricia Lockwood yn ennill Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2022

    Mae bardd, nofelydd ac ysgrifydd o America, Patricia Lockwood, wedi ennill un o'r gwobrau llenyddol mwyaf yn y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – am ei nofel gyntaf, No One Is Talking About This (Bloomsbury Publishing).

  • 12 Mai 2022
    Cynnydd yn ymchwil y Brifysgol sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang ac sy'n rhagori'n rhyngwladol

    Mae canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 (REF2021) a gyhoeddwyd heddiw (12 Mai) yn dangos bod cyfran Prifysgol Abertawe o ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang ac sy'n rhagori'n rhyngwladol wedi gwella. Yn asesiad 2021, barnwyd bod 86% o ymchwil gyffredinol y Brifysgol yn 4* (yn arwain y ffordd yn fyd-eang) neu'n 3* (yn rhagori'n rhyngwladol) – i fyny o 80% yn REF2014.

  • 11 Mai 2022
    Canfod feirysau drwy bigiad pin

    Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe, Biovici Ltd ac yn y Labordy Ffisegol Cenedlaethol wedi datblygu dull i ganfod feirysau mewn cyfeintiau bach iawn.

  • 11 Mai 2022
    Academi'r Gwyddorau Meddygol yn enwi Athro Iechyd Cyhoeddus yn Gymrawd

    Mae arbenigwr iechyd cyhoeddus o Brifysgol Abertawe wedi cael ei anrhydeddu gan Academi'r Gwyddorau Meddygol.

  • 11 Mai 2022
    Gweld mwy o rywogaethau ar yr arfordir yn gwella lles – ymchwil newydd yn tanlinellu buddion bioamrywiaeth

    Mae gweld nifer mawr o rywogaethau ar arfordiroedd trefol – o anifeiliaid morol i wymonau – yn debygol o wella lles pobl leol ac ymwelwyr, yn ôl ymchwil newydd gan dîm ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r canfyddiadau'n darparu rhagor o dystiolaeth bod bioamrywiaeth yn creu buddion pellgyrhaeddol.

  • 9 Mai 2022
    Addysg a photensial ennill yn allweddol i boblogrwydd wrth chwilio am gariad ar-lein

    Ni all arian brynu cariad ond mae'n gwneud eich proffil yn fwy atyniadol wrth chwilio am gariad ar-lein. Mae ymchwil newydd wedi datgelu bod lefel addysg ac incwm yn arbennig o bwysig, yn enwedig yn achos dynion. 

  • 9 Mai 2022
    Prifysgol Abertawe yng Ngŵyl y Gelli

    Mae straeon byrion cwiar o Gymru, lleisiau pob dydd o bandemig Covid-19, a chyfrol fuddugol Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe eleni ymhlith y pynciau'n sy'n barod i ddifyrru cynulleidfaoedd yng Ngŵyl y Gelli wrth iddi gael ei chynnal am y 35ed tro  rhwng 26 Mai a 5 Mehefin.

  • 8 Mai 2022
    Astudiaeth newydd yn awgrymu na chyrchwyd gwasanaethau gan bedwar o bob 10 person roedd angen gofal cymdeithasol arnynt yn ystod y pandemig

    Ni chyrchwyd gwasanaethau gan gynifer â phedwar o bob 10 person yng Nghymru roedd angen gofal cymdeithasol arnynt o bosib yn ystod pandemig Covid-19, yn ôl adroddiad newydd.

  • 4 Mai 2022
    Ymchwil newydd yn dangos sut gall syrffio hybu lles y rhai sy'n goroesi anafiadau i'r ymennydd

    Mae cenedlaethau o syrffwyr yn gwybod nad oes unrhyw beth tebyg i ddal y don berffaith, ond mae ymchwil newydd bellach wedi archwilio pa mor llesol y mae pŵer y môr.

  • 3 Mai 2022
    Cymdeithas Ddysgedig Cymru'n anrhydeddu academyddion o Brifysgol Abertawe

    Mae wyth academydd o Brifysgol Abertawe ymhlith y newydd-ddyfodiaid i Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

  • 29 Ebrill 2022
    Myfyriwr o Brifysgol Abertawe'n ennill dwy wobr mewn cystadleuaeth gwyddoniaeth seneddol

    Mae ymchwilydd PhD mewn cemeg wedi ennill dwy wobr yn STEM for BRITAIN, sef cystadleuaeth posteri gwyddonol fawr a gynhelir yn Senedd y DU, sydd â'r nod o roi dealltwriaeth i wleidyddion o'r gwaith ymchwil rhagorol y mae ymchwilwyr gyrfa gynnar yn ei wneud ym mhrifysgolion y DU.

  • 29 Ebrill 2022
    Sefydliad Cymru gyfan yn gweithio i hyrwyddo iechyd a lles y genedl: Adolygu'r flwyddyn

    Mae'r heriau unigryw sy'n wynebu iechyd a lles wrth i ni gyrraedd cyfnod newydd ar ôl y pandemig wedi cael eu hamlygu mewn adroddiad blynyddol a lansiwyd heddiw. 

  • 28 Ebrill 2022
    Partneru i ddarparu cyfleoedd ymchwil ac arloesi

    Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Abertawe yn cydweithio i helpu i wella iechyd a lles cymunedau yn y tair sir o dan gytundeb newydd.

  • 28 Ebrill 2022
    Ymchwilwyr Abertawe'n datblygu dull newydd i atal moleciwl rhag cylchdroi drwy ddefnyddio ynni isel iawn

    Mae ymchwilwyr Abertawe wedi datblygu dull newydd i atal moleciwl rhag cylchdroi drwy ddefnyddio ynni isel iawn, gan daflu goleuni newydd ar ryngweithiadau rhwng moleciwlau ac arwynebau.

  • 26 Ebrill 2022
    Derw hynafol i daflu goleuni ar hinsawdd y 4,500 o flynyddoedd diwethaf

    Bydd ymchwilwyr cyn bo hir yn gallu ail-lunio hinsawdd gogledd-orllewin Ewrop, gan gynnwys y DU, dros y 4,500 o flynyddoedd diwethaf, a dyddio adeiladau a gwrthrychau pren mewn modd mwy cywir, drwy ddadansoddi cemeg hen dderw. Gwneir hyn drwy brosiect newydd a arweinir gan Abertawe sydd newydd gael ei ddewis i dderbyn cyllid Ewropeaidd gwerth €3m.

  • 26 Ebrill 2022
    Ymchwilydd yn ennill cyllid rhyngwladol i helpu i arloesi gofal ym maes diabetes

    Mae gwaith arloesol ymchwilydd o Brifysgol Abertawe ym maes diabetes wedi'i helpu i gael hwb mawr o ran cyllid.

  • 26 Ebrill 2022
    Ysgolion y DU yn darparu addysg annigonol am y gylchred fislifol, yn ôl astudiaeth

    Mae addysg am y gylchred fislifol yn ysgolion y DU yn anghyson ac yn annigonol, ac mae athrawon yn teimlo bod ganddynt ddiffyg amser, hyder a gwybodaeth am y pwnc, yn ôl ymchwil newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe.

  • 25 Ebrill 2022
    Prifysgol Abertawe ar restr fer Gwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni 2022

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd rhestr fer y categori Allgymorth ac Ehangu Cyfranogiad yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni eleni.

  • 22 Ebrill 2022
    Castell Howell ac Arena Abertawe i noddi Prifysgol Abertawe ar gyfer Varsity Cymru

    Castell Howell, y cyfanwerthwr bwyd o Gymru, ac Arena Abertawe, y lleoliad digwyddiadau newydd, fydd prif noddwyr Prifysgol Abertawe wrth i Varsity Cymru ddychwelyd eleni. 

  • 13 Ebrill 2022
    Myfyrwyr entrepreneuraidd Abertawe yn hybu eu syniadau busnes drwy The Big Pitch

    Cafodd syniadau busnes myfyrwyr entrepreneuraidd hwb mawr yng nghystadleuaeth flynyddol The Big Pitch Prifysgol Abertawe, wedi'i noddi gan Santander Universities.

  • 12 Ebrill 2022
    Adolygiad newydd yn canfod bod mamau awtistig yn wynebu rhwystrau ychwanegol i fwydo ar y fron

    Mae adolygiad newydd gan Brifysgol Abertawe, gan weithio gyda Phrifysgol Caint ac Autistic UK, y sefydliad nid-er-elw, wedi canfod nad yw cymorth bwydo ar y fron gan fydwragedd ac ymwelwyr iechyd yn addas i ddiwallu anghenion menywod awtistig yn aml. 

  • 8 Ebrill 2022
    Partneriaethau Prifysgol Abertawe'n cefnogi ymchwil i ddiogelu ac adfer coedwigoedd glaw

    Mae ymchwilwyr blaenllaw yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn parhau â phartneriaeth lwyddiannus â rhaglen ymchwil flaenllaw i goedwigoedd glaw ym Morneo yn dilyn grant ymchwil newydd gwerth £330,000.

  • 6 Ebrill 2022
    Gwobrau uchel eu bri'n cydnabod cydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe ac Aspire2Be

    Mae Prifysgol Abertawe ac Aspire2Be wedi cael cymeradwyaeth uchel yng Ngwobrau Cenedlaethol Cyflogadwyedd Israddedigion o ganlyniad i'w prosiect ar y cyd, iBroadcast.

  • 6 Ebrill 2022
    Tablau QS o Brifysgolion y Byd fesul Pwnc 2022: Prifysgol Abertawe'n perfformio'n well nag erioed

    Mae Prifysgol Abertawe wedi perfformio'n well nag erioed yn un o'r tablau mwyaf blaenllaw o brifysgolion y byd fesul pwnc a gyhoeddwyd heddiw.

  • 5 Ebrill 2022
    Prosiect ymchwil newydd yn cymryd camau tuag at economi gylchol

    Mae prosiect ymchwil â’r nod o ddod ag economi wirioneddol gylchol un cam yn agosach wedi derbyn grant ymchwil gwerth £1.2m gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (ESPRC).

  • 1 Ebrill 2022
    Myfyriwr o Brifysgol Abertawe'n ennill £1,000 drwy gystadleuaeth Dealer Tech

    Mae myfyriwr o Brifysgol Abertawe wedi ennill £1,000 mewn cystadleuaeth am ei syniad i greu cronfa ddata ar-lein ar gyfer cyflenwyr, gwneuthurwyr a delwriaethau cerbydau.

  • 1 Ebrill 2022
    Academydd o Brifysgol Abertawe'n ennill gwobr am y traethawd ymchwil gorau

    Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi ennill gwobr Agronomy am y traethawd ymchwil PhD gorau o ganlyniad i'w ymchwil i sefydlu cyfuniad newydd o ddulliau o ganfod clefydau mewn cnydau bwyd, a allai gael effaith economaidd ac amgylcheddol fyd-eang.

  • 31 Mawrth 2022
    Y Brifysgol yn ymuno mewn dathliad arbennig o gefnogaeth Abertawe i fudwyr

    Mae Prifysgol Abertawe'n gwneud cyfraniad allweddol at helpu i lywio gwybodaeth pobl ifanc am fudo mewn arddangosfa newydd unigryw yn y ddinas. 

  • 31 Mawrth 2022
    Lleisiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn flaenllaw ar restr fer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2022

    Mae'r rhestr fer ar gyfer un o'r gwobrau llenyddol mwyaf yn y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – wedi cael ei chyhoeddi. O Sri Lanka i Trinidad, Tecsas, ac Iwerddon drwy'r Dwyrain Canol, mae'r rhestr fer eleni'n cynnwys casgliad pwerus o lenorion rhyngwladol sy'n rhoi llais i rai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

  • 29 Mawrth 2022
    Gwella palmentydd ffordd asffalt gan ddefnyddio nanogyfansoddion mwynol wedi’u peiriannu

    Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Dechnegol Braunschweig wedi datblygu rhwymydd asffalt newydd ac ecogyfeillgar ar y lefel nano.

  • 25 Mawrth 2022
    Bysedd yn dangos cysylltiad rhwng testosteron isel a derbyniadau i'r ysbyty oherwydd Covid-19

    A allai hyd bysedd rhywun awgrymu pa mor sâl y gallai fod ar ôl dal Covid-19?

  • 23 Mawrth 2022
    Prifysgol Abertawe'n llofnodi’r Ymrwymiad i Dechnegwyr

    Mae Prifysgol Abertawe wedi llofnodi’r Ymrwymiad i Dechnegwyr, gan ymuno â thros hanner prifysgolion y DU a sawl sefydliad ymchwil wrth gefnogi addewid i gefnogi eu technegwyr.

  • 21 Mawrth 2022
    Gwarchod coed anferth yr Amason – ymweliad gan ddaearyddwraig o Abertawe'n casglu data allweddol ac yn sicrhau ymrwymiad gan lywodraeth

    Mae daearyddwraig o Abertawe wedi dychwelyd o'r Amason yn ddiweddar ar ôl casglu data allweddol am goed anferth dros 80 metr o uchder, a ddarganfuwyd yn gyntaf gyda'i chymorth hithau yn 2018. O ganlyniad i'r gwaith hwn, mae llywodraeth y dalaith ym Mrasil wedi ymrwymo i gyhoeddi Bil i'w gwarchod hwythau a'u hamgylchoedd.

  • 18 Mawrth 2022
    Y Brifysgol yn taflu goleuni ar bwysigrwydd ailgylchu

    Dangosodd Prifysgol Abertawe ei hymrwymiad i gynaliadwyedd drwy droi'n wyrdd i ddathlu Diwrnod Ailgylchu Byd-eang.

  • 17 Mawrth 2022
    Myfyrwyr yn teithio dros yr Iwerydd i rannu ymchwil i ddeallusrwydd artiffisial

    Mae myfyrwyr PhD o Brifysgol Abertawe wedi bod yn rhannu eu hymchwil arloesol i ddeallusrwydd artiffisial â chydweithwyr yn America.

  • 13 Mawrth 2022
    Dyfarniadau Cwmni Lifrai Cymru yn hybu ymchwil i sglerosis ymledol a bywyd morol

    Mae dau ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi ennill ysgoloriaethau teithio gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, a fydd yn rhoi cyfle iddynt ddatblygu eu gwaith ymchwil a'i rannu gydag arbenigwyr eraill.

  • 11 Mawrth 2022
    Datganiad yr Is-ganghellor am Wcráin

    Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ymuno â phrifysgolion a sefydliadau academaidd ledled y byd wrth gondemnio'n ddiamwys benderfyniad gwladwriaeth Rwsia i ymosod ar Wcráin.

  • 11 Mawrth 2022
    Ymweliad brenhinol â chyfleuster ymchwil sy'n newid bywydau yn Abertawe

    Ymwelodd Ei Huchelder Iarlles Wessex, noddwr The Scar Free Foundation, â'r rhaglen ymchwil adlunio wynebau blaenllaw ym Mhrifysgol Abertawe, gan gwrdd â chleifion a allai elwa o'r astudiaethau arloesol hyn.

  • 9 Mawrth 2022
    Ymweliad â swyddogion diwylliannol yn hybu cysylltiadau Abertawe ag Oman a Qatar

    Cysylltiadau cryfach ag Oman a Qatar oedd testun y trafodaethau yn ystod ymweliad gan uwch-gynrychiolwyr Prifysgol Abertawe â swyddfeydd Swyddogion Diwylliannol y ddwy wlad yn Llundain.

  • 8 Mawrth 2022
    Diwydiannau gwyrddach – peirianwyr cemegol yn canfod ffyrdd newydd o ailddefnyddio carbon er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd

    Mae peirianwyr cemegol o Brifysgol Abertawe'n dod o hyd i ffyrdd newydd o ddal ac ailddefnyddio carbon drwy greu cynhyrchion newydd er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

  • 4 Mawrth 2022
    Astudiaeth newydd yn archwilio sut gallai llygryddion dan do effeithio ar iechyd plant

    Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi lansio astudiaeth fawr i ddarganfod sut mae llygryddion pob dydd yn effeithio ar ddatblygiad ac iechyd ffetysau a phlant.

  • 3 Mawrth 2022
    Astudiaeth yn darganfod bod newyddion rhwydweithiau'r DU yn rhoi mwy o sylw i faterion datganoledig o ganlyniad i bandemig Covid-19

    Mae astudiaeth newydd a gomisiynwyd gan Ofcom wedi datgelu bod darparwyr newyddion rhwydweithiau'r DU wedi rhoi mwy o sylw i bynciau datganoledig, yn bennaf o ganlyniad i'r pandemig.

  • 3 Mawrth 2022
    Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yng nghwmni'r Farwnes Tanni Grey-Thompson

    Bydd y Farwnes Tanni Grey-Thompson yn siarad am yr heriau y mae hi wedi'u hwynebu a sut mae hi wedi'u goresgyn hwy, gan ddilyn thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022, sef #BreakTheBias.

  • 3 Mawrth 2022
    Storio gwres yn yr haf i'w ddefnyddio yn y gaeaf – gallai ymchwil newydd i ddulliau storio ynni thermol leihau biliau a hybu ynni adnewyddadwy

    Technoleg newydd a allai storio gwres am ddiwrnodau neu fisoedd hyd yn oed, gan helpu'r broses o symud tuag at sero net, yw ffocws prosiect newydd sy'n cynnwys Rhaglen Ymchwil y Ganolfan Adeiladu Gweithredol, dan arweiniad Prifysgol Abertawe, sydd newydd gael cyllid gwerth £146,000.

  • 24 Chwefror 2022
    Gwyddonydd o Brifysgol Abertawe i gyflwyno ei ymchwil yn Senedd y DU

    Bydd Thomas Spriggs, myfyriwr ymchwil PhD ym Mhrifysgol Abertawe, yn cyflwyno ei ymchwil ffiseg yn Senedd y DU, i banel llawn beirniaid arbenigol a gwleidyddion, fel un o’r ymgeiswyr yn rownd derfynol STEM for Britain 2022.

  • 23 Chwefror 2022
    Prifysgol Abertawe yn 26ain ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei henwi ymysg y 100 o gyflogwyr mwyaf cynhwysol yn y DU ar gyfer staff LGBTQ+, am y chweched flwyddyn yn olynol.

  • 22 Chwefror 2022
    Sesiynau ar-lein am ddim ar gyfer gradd ran-amser yn y dyniaethau

    Os ydych yn ystyried ailgydio yn eich addysg neu'n dymuno cael blas ar astudio, bydd Prifysgol Abertawe'n cynnig cyfres o sesiynau am ddim i roi profiad uniongyrchol i chi. 

  • 17 Chwefror 2022
    Prifysgol Abertawe'n ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines am dechnolegau ynni adnewyddadwy chwyldroadol

    Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines i gydnabod ei hymchwil Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg sy'n arwain chwyldro mewn technolegau ynni adnewyddadwy, yn benodol ynni solar a chreu a storio gwres.

  • 17 Chwefror 2022
    Ap newydd sy'n gallu helpu pobl ifanc i lywio eu cymunedau

    Mae ap newydd wedi cael ei lansio sy'n rhoi'r cyfle i bobl ifanc werthuso eu cymunedau a helpu i'w gwella. 

  • 16 Chwefror 2022
    Athletwyr elît yn defnyddio Dillad Clyfar Prifysgol Abertawe

    Mae Gweinidog Llywodraeth y DU, David TC Davies, wedi ymweld â phrosiect Campysau Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sy’n werth £132 miliwn, i weld sut datblygwyd y dechnoleg ar gyfer Dillad Clyfar - dillad yr oedd rhai athletwyr (gan gynnwys rhai a enillodd fedalau) wedi’u gwisgo yn y gemau Olympaidd yn Tokyo y llynedd.

  • 15 Chwefror 2022
    Prifysgol Abertawe'n helpu i wreiddio treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog Abertawe yn y cwricwlwm

    Mae Prifysgol Abertawe wedi lansio pecyn adnoddau digidol newydd ar gyfer plant rhwng 9 ac 11 oed a fydd yn helpu disgyblion i ddysgu am ddiwydiant copr rhyngwladol bwysig Abertawe wrth ddatblygu eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol.  

  • 14 Chwefror 2022
    Astudiaeth yn datgelu effaith y cyfnodau clo ar iechyd meddwl pobl ifanc

    Cafodd yr ail gyfnod clo o ganlyniad i Covid-19 yr effaith fwyaf ar iechyd meddwl a lles pobl ifanc ymhlith poblogaeth Cymru, yn ôl ymchwil newydd. 

  • 11 Chwefror 2022
    Covid-19: Astudiaeth yn chwilio am gyfranogwyr i archwilio agweddau'r cyhoedd at ofal cymdeithasol yng Nghymru

    Mae astudiaeth gan Brifysgol Abertawe'n chwilio am gyfranogwyr i archwilio agweddau'r cyhoedd at ofal cymdeithasol yng Nghymru yn dilyn pandemig Covid-19.

  • 10 Chwefror 2022
    Arbenigwyr yn dadlau bod ymagwedd y DU at Covid-19 ymhlith plant yn ‘eithriad rhyngwladol'

    Mae'r DU yn ‘eithriad rhyngwladol’ yn ei hymagwedd at ddiogelu plant rhag Covid-19, mae arbenigwyr yn dadlau yn The BMJ heddiw.

  • 9 Chwefror 2022
    Y Brifysgol yn helpu i wella diogelwch meddyginiaethau ar ddechrau mamolaeth

    Mae ymchwilwyr o Fanc Data SAIL a Phrifysgol Abertawe’n gwneud cyfraniad allweddol at brosiect rhyngwladol gwerth miliynau o bunnoedd i wella diogelwch meddyginiaethau a roddir i ddarpar famau a mamau sy'n bwydo babanod ar y fron. 

  • 3 Chwefror 2022
    Expertscape yn enwi athro o Brifysgol Abertawe yn arbenigwr mewn ymddygiad llonydd

    Mae'r Athro Kelly Mackintosh o'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi cael ei chydnabod fel un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r byd mewn ymddygiad llonydd.

  • 3 Chwefror 2022
    Lleisiau amrywiol a byd-eang yn flaenllaw ar restr hir Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe

    Cyhoeddir y rhestr hir ryngwladol ar gyfer un o'r gwobrau llenyddol mwyaf yn y byd ar gyfer llenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe heddiw, dydd Iau 3 Chwefror. O Sri Lanka i Trinidad, Tecsas, ac Iwerddon drwy'r Dwyrain Canol, mae'r rhestr hir eleni'n cynnwys casgliad pwerus o lenorion rhyngwladol sy'n rhoi llais i rai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

  • 28 Ionawr 2022
    Prifysgol Abertawe'n arwain yr ymchwil gyntaf o'i math sy'n archwilio gamblo a lles yn y Llu Awyr Brenhinol

    Cyhoeddwyd astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe a Chronfa Les y Llu Awyr Brenhinol sy'n archwilio lles gweithlu presennol y Llu Awyr Brenhinol, gan roi pwyslais allweddol ar broblemau gamblo, y defnydd o alcohol ac iechyd meddwl.

  • 28 Ionawr 2022
    Prifysgol Abertawe'n penodi Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi bod Niamh Lamond wedi cael ei phenodi'n Gofrestrydd ac yn Brif Swyddog Gweithredu, ar ôl proses recriwtio allanol gystadleuol. Mae Niamh wedi bod yn llenwi'r rôl ar sail interim ers mis Gorffennaf 2021 a bydd hi bellach yn parhau ynddi'n barhaol.

  • 27 Ionawr 2022
    Cyllid gwerth £17 miliwn ar gyfer ymchwil data cydweithredol yng Nghymru

    Bydd menter y mae Prifysgol Abertawe’n cymryd rhan ynddi sydd wedi trawsnewid sut gellir defnyddio data i roi cipolwg ar faterion cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru yn parhau, diolch i fuddsoddiad gwerth bron £17 miliwn.

  • 26 Ionawr 2022
    Canmol gwaith arloesol y Brifysgol i hyrwyddo pwysigrwydd economi gylchol

    Mae ymrwymiad Prifysgol Abertawe i hyrwyddo economi gylchol wedi sicrhau cydnabyddiaeth ryngwladol. 

  • 26 Ionawr 2022
    Gwyddonwyr yn defnyddio GPS i olrhain symudiadau haid o fabŵns mewn mannau trefol am y tro cyntaf

    Mewn astudiaeth unigryw, mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe yn y DU a Phrifysgol Cape Town yn Ne Affrica wedi defnyddio coleri â system leoli fyd-eang (GPS) er mwyn astudio ymddygiad torfol haid o fabŵns sy'n byw ar gyrion dinas Cape Town.

  • 26 Ionawr 2022
    Varsity Cymru'n dychwelyd ar ôl bwlch o ddwy flynedd

    Ar ôl bwlch o ddwy flynedd o ganlyniad i bandemig Covid-19, mae'r dyddiad ar gyfer Varsity Cymru 2022 rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe wedi cael ei gadarnhau.

  • 25 Ionawr 2022
    Sicrhau bod y cyhoedd yn cefnogi polisïau Covid-19: ffydd mewn arbenigwyr wrth i wleidyddion bolareiddio

    Mae polisïau i fynd i'r afael â Covid-19 yn fwy tebygol o gael cefnogaeth eang y cyhoedd os bydd arbenigwyr neu glymbleidiau o bleidiau gwahanol, yn hytrach na gwleidyddion o un blaid yn unig, yn eu cynnig, yn ôl astudiaeth newydd o saith gwlad y cyfrannodd academydd o Brifysgol Abertawe ati.

  • 24 Ionawr 2022
    Arbenigwyr yn pwysleisio cyfraniad lles at iechyd pobl

    Amlygwyd pwysigrwydd lles a'i gyfraniad at iechyd mewn papur newydd gan academyddion o Brifysgol Abertawe. 

  • 24 Ionawr 2022
    Babanod i elwa o gronfa llaeth y fron gyntaf Cymru

    Mae Prifysgol Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi lansio partneriaeth newydd â'r Human Milk Foundation (HMF) a fydd yn sefydlu cronfa llaeth y fron yng Nghymru am y tro cyntaf. 

  • 19 Ionawr 2022
    Academyddion o Brifysgol Abertawe'n cefnogi ymgyrch NASA drwy fapio argaeau ar draws afonydd

    Cyhoeddwyd cronfa ddata ofodol newydd o argaeau a rhwystrau eraill a adeiladwyd yn rhannol neu'n llawn ar draws afonydd mwyaf y byd.

  • 14 Ionawr 2022
    Astudiaeth o effaith problemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau ar gyfraddau marw pobl ifanc

    Mae pobl ifanc â hanes o broblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio alcohol a chyffuriau yn fwy tebygol o farw na'r rhai sydd â phroblem iechyd meddwl yn unig neu sy'n camddefnyddio sylweddau yn unig. 

  • 12 Ionawr 2022
    Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd yn cydnabod Athro Iechyd Cyhoeddus

    Mae arbenigwr iechyd cyhoeddus a gydnabuwyd gan y Frenhines yn dweud bod ei anrhydedd yn adlewyrchu enw da Banc Data SAIL Prifysgol Abertawe. 

  • 11 Ionawr 2022
    Arbenigwyr yn datgan bod dysgu ar-lein yn ystod y cyfnodau clo wedi effeithio ar les plant

    Bu'n anodd i blant ysgol uwchradd ganolbwyntio ar eu gwaith ysgol ac ymddiddori ynddo pan gyflwynwyd dysgu ar-lein yn ystod y cyfnodau clo, gan effeithio'n negyddol ar eu hyder a'u lles, yn ôl astudiaeth newydd. 

  • 10 Ionawr 2022
    Effaith ffugiadau dwfn ar hyder mewn tystiolaeth a gynhyrchir gan ddefnyddwyr - grant gwerth €1.5m i arbenigwr o Brifysgol Abertawe

    Dyfarnwyd €1.5m i arbenigwr yn y gyfraith o Brifysgol Abertawe i archwilio sut mae canfyddiadau'r cyhoedd ynghylch ffugiadau dwfn – delweddau, fideos neu sain sydd wedi cael eu trin â deallusrwydd artiffisial – yn effeithio ar hyder mewn tystiolaeth a gynhyrchir gan ddefnyddwyr o dorri hawliau dynol.

  • 1 Ionawr 2022
    Dyfarnu CBE i'r Athro Tavi Murray yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd

    Dyfarnwyd CBE i'r Athro Tavi Murray, Athro Rhewlifeg yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg ym Mhrifysgol Abertawe, yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd am ei gwasanaethau i ymchwil i newid yn yr hinsawdd a rhewlifeg.

  • Newyddion a Digwyddiadau
    • Newyddion
      • 2022
        • Mai
        • Ebrill
        • Mawrth
        • Chwefror
        • Ionawr
      • 2021
      • 2020
      • 2019
      • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
  • Gwybodaeth i newyddiadurwyr
  • Gwybodaeth i Staff
  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Colegau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Preifatrwydd a Chwcis
  • Datganiad Caethwasiaeth Fodern
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342