Logo Gwobrau STEM Cymru 2022

Mae Cynllun Gwyddoniaeth i Ysgolion (S4) a Technocamps Prifysgol Abertawe wrth eu boddau eu bod ymysg y busnesau a'r unigolion uchel eu bri sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Stem Cymru 2022.

Mae'r rhaglenni o Abertawe ymysg 34 o ymgeiswyr arloesol i gyrraedd rownd derfynol y gwobrau hirddisgwyliedig eleni, sy'n dathlu'r rhai sy'n gwneud gwahaniaeth i bynciau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) yng Nghymru, ac sy'n hyrwyddo'r pynciau hynny.

Yn dilyn llwyddiant y gwobrau cyntaf erioed, mae Gwobrau STEM Cymru yn dychwelyd i dynnu sylw at y sefydliadau a'r unigolion sy'n gwneud gwahaniaeth i agenda STEM yng Nghymru.

Bydd y gwobrau'n dathlu'r rhai hynny sy'n arwain y sector yng Nghymru, y busnesau hynny sy'n creu effaith ar economi Cymru, y rhai sy'n mynd i'r afael â'r bwlch amrywiaeth a'r prinder sgiliau ym maes STEM, a'r rhai sy'n ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf. Mae S4 a Technocamps wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Rhaglen Addysg STEM y Flwyddyn yn y Sector Cyhoeddus.  

Bydd yr holl ymgeiswyr terfynol yn y 12 o gategorïau bellach yn cael eu hystyried gan banel o feirniaid sy'n arwain y diwydiant, a chyhoeddir yr enillwyr yn y seremoni wobrwyo ym Mercure Cardiff Holland House Hotel ar 27 Hydref 2022.

Mae S4 yn darparu allgymorth STEM i bobl ifanc yn ne Cymru sy'n cael effaith fawr, gan weithio gyda chymunedau na chaiff eu gwasanaethu na'u cynrychioli'n ddigonol, a phlant o deuluoedd incwm isel yn benodol, mewn ardaloedd lle ceir lefel uchel o ddiweithdra hirdymor a lefel isel o gyfranogiad mewn addysg uwch. Mae mwy na 30% o'n disgyblion yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (mae'r cyfartaledd cenedlaethol yn 19.9%), ac mae 48% yn byw mewn ardal lle ceir y lefel isaf o gyfranogiad mewn addysg uwch. Rydym wedi darparu 40,748 o oriau o allgymorth i 26,105 o gyfranogwyr, ac mae ein cyfradd ddychwelyd yn 96%.

Meddai'r Athro Mary Gagen o S4:

Dyma ein degfed flwyddyn o ddarparu allgymorth gwyddoniaeth drwy brosiect S4, felly mae'n wych ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Rhaglen Addysg STEM y Flwyddyn yn y Sector Cyhoeddus. Mae S4 yn rhan o brosiect tîm go iawn yn y Brifysgol ac ar y cyd â'n hysgolion partner a'n cyfranogwyr. Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn eithriadol o anodd i bobl ifanc ac ysgolion, ac rydyn ni'n falch iawn ein bod wedi llwyddo i barhau i ddarparu allgymorth gwyddoniaeth pan oedd yr ysgolion ar gau yn ystod y pandemig. Gan ein bod bellach yn gallu treulio amser gyda'n gilydd ar y safle eto, rydyn ni wedi ailddechrau darparu gweithdai allgymorth mewn ysgolion, ac yn ein man allgymorth gwyddoniaeth penodedig ar Gampws Parc Singleton Prifysgol Abertawe. Rydyn ni'n edrych ymlaen at 10 mlynedd arall o weithio gyda gwyddonwyr y dyfodol yng Nghymru!”

Mae Technocamps, a sefydlwyd yn 2003, yn rhaglen allgymorth ysgolion, cymunedau a diwydiant ledled Cymru ym Mhrifysgol Abertawe sydd â hyb ym mhob prifysgol yng Nghymru.

Mae'n darparu gweithdai ymarferol i ysgolion cynradd ac uwchradd, hyfforddiant datblygiad proffesiynol i athrawon, a chyfleoedd gwella sgiliau digidol i oedolion sy'n ddysgwyr. Cylch gwaith y rhaglen ar gyfer ysgolion yw ennyn brwdfrydedd grwpiau penodol o bobl ifanc – yn enwedig merched a'r rhai hynny sy'n byw yn rhanbarthau anghysbell y wlad – sydd wedi colli diddordeb mewn pynciau STEM. Yna mae'n eu cefnogi ac yn eu hannog i astudio pynciau digidol a STEM ar lefel TGAU, Safon Uwch a'r tu hwnt.

Meddai'r Athro Faron Moller, Cyfarwyddwr Technocamps:

“Rydyn ni wrth ein boddau ein bod wedi cyrraedd rhestr fer y wobr hon. Mae'n fraint cael ein hystyried ochr yn ochr â rhan o'r mentrau mwyaf anhygoel yn y wlad, ac rydyn ni'n falch bod y gwaith caled rydyn ni'n ei wneud wedi cael ei gydnabod.”

Meddai Liz Brookes, cyd-sylfaenydd y gwobrau:

“Rydyn ni'n falch o gyhoeddi'r rhestr fer ar gyfer Gwobrau STEM Cymru 2022. Ar ôl i lwyddiant y gwobrau cyntaf erioed amlygu gwaith anhygoel y sefydliadau a'r unigolion mwyaf blaengar sydd wrth wraidd arloesi ym maes STEM yng Nghymru, rydyn ni'n edrych ymlaen at gydnabod a dathlu'r rhai hynny sydd wedi gwneud pethau trawiadol eleni hefyd!

“Hoffen ni longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ac rydyn ni'n edrych ymlaen at eu gweld nhw i gyd ar noson y seremoni wobrwyo ym mis Hydref.”

Meddai Dr Louise Bright, pennaeth y beirniaid a sylfaenydd rhwydwaith Menywod Cymru mewn STEM:

“Mae Gwobrau STEM Cymru yn gwneud gwaith mor bwysig wrth gydnabod a dathlu cyflawniadau sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio ym maes Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg yng Nghymru. Eleni, yn yr un modd â Gwobrau STEM cyntaf Cymru, rwyf wedi cael y fraint o ddarllen am y gwaith llawn ysbrydoliaeth sy'n cael ei wneud ledled y wlad. Rwy'n edrych ymlaen at gwrdd â'r enwebeion a dysgu mwy amdanyn nhw, a chael y cyfle, yn wahanol i'n blwyddyn gyntaf, i ddathlu eu llwyddiant wyneb yn wyneb yn y seremoni wobrwyo ym mis Hydref.”

Mae Gwobrau STEM Cymru yn cael eu trefnu ar y cyd gan Grapevine Event Management a'r asiantaeth gyfathrebu jamjar ac yn cael eu noddi gan y Ganolfan Ragoriaeth mewn Technolegau Symudol a Datblygol (CEMET), Compound Semiconductor Applications Catapult, Banc Datblygu Cymru, Business News Wales, Addysgwyr Cymru, Linea Resourcing a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Rhannu'r stori