Menyw'n gwenu wrth ddal tystysgrif mewn ffrâm mewn un llaw a thusw o flodau yn y llall

Mae gwaith arloesol ymchwilydd o Brifysgol Abertawe ym maes diabetes wedi'i helpu i gael hwb mawr o ran cyllid.

Mae Dr Olivia McCarthy yn rhannu ei hamser rhwng rhaglen ymchwil Chwaraeon, Technoleg, Ymarfer Corff a Meddygaeth Gymhwysol (A-STEM) y Brifysgol ac Ymchwil Technoleg Diabetes yng Nghanolfan Diabetes Steno Copenhagen.

O ganlyniad i’w gwaith fel rhan o'r tîm sy'n ymchwilio i'r dechnoleg pancreas artiffisial ddiweddaraf a ddefnyddir gan bobl â diabetes math 1 sy'n gwneud ymarfer corff, mae hi newydd ennill grant gwerth 600,000Kr (oddeutu £67,000) gan Gymdeithas Diabetes Denmarc.

Mae pancreas artiffisial yn ddyfais sy'n cael ei dylunio i ryddhau inswlin mewn ymateb i lefelau glwcos newidiol yn y gwaed mewn ffordd debyg i bancreas dynol.

Bydd y cyllid yn galluogi Dr McCarthy, sy'n gymrawd ymchwil ôl-raddedig, i barhau â'r astudiaeth SMART sydd â'r nod o helpu i ddatblygu canllawiau fel y gall pobl sy'n byw gyda diabetes math 1 wneud ymarfer corff yn ddiogel gan ddefnyddio'r pympiau inswlin diweddaraf.

Meddai: “Rydyn ni'n gobeithio y bydd yr wybodaeth sy'n deillio o hyn yn helpu pobl i ddefnyddio eu pympiau'n ddiogel a rheoli eu glwcos yn briodol, gan eu grymuso i elwa o ymarfer corff wrth wneud hynny.

“Ar hyn o bryd, pan fydd pobl am wneud ymarfer corff gyda'u teulu neu eu ffrindiau, rhaid iddyn nhw feddwl ymhell ymlaen llaw a bod yn fathemategydd ac yn ddietegydd. Rwy'n gobeithio y byddwn yn cyrraedd sefyllfa lle gallwn ni gael gwared ar yr holl achosion straen hyn fel y gall pobl wneud ymarfer corff yn rhydd heb y beichiau a'r rhwystrau sy'n gysylltiedig â diabetes.”

Esboniodd yr Athro Richard Bracken, o'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, fod y cydweithrediad â'r ganolfan yng Nghopenhagen wedi deillio o gefnogaeth gychwynnol gan Sefydliad Meddygol Dewi Sant (SDMF), yr elusen annibynnol sy'n codi arian i gefnogi'r gwaith arloesol a wneir ym maes ymchwil ac addysg feddygol ym Mhrifysgol Abertawe.

Meddai: “Mae'r Uned Ymchwil Diabetes yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi codi arian sylweddol ar gyfer SDMF ac mae'n wych gweld ei fod yn cael ei ddefnyddio er mwyn datblygu gyrfa ymchwilydd ym maes diabetes.

“Rydym mor falch bod arbenigedd Olivia wedi cael ei gydnabod. Bydd y cyllid ymchwil pwysig hwn yn ei galluogi i barhau i fireinio ei gwaith ar integreiddio technoleg diabetes ag ymarfer corff, ar y cyd â'r Athro Kirsten Norgaard, sy'n arwain y grŵp Technoleg Diabetes yng Nghanolfan Steno, a ni ein hunain, ym Mhrifysgol Abertawe.”

Rhannu'r stori