Argraffiad diweddaraf llyfr yn archwilio problemau twristiaeth allweddol yr oes

Mae'r problemau y mae atyniadau i ymwelwyr ledled y byd yn eu hwynebu bellach yn cael eu harchwilio yn argraffiad diweddaraf llyfr a olygwyd gan arbenigwr twristiaeth o Brifysgol Abertawe

Mae trydydd argraffiad Managing Visitor Attractions wedi cael ei addasu a'i ddiweddaru'n llawn i ymgorffori cynnwys newydd ar y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr; cyrchfannau ac atyniadau newydd; y cyfryngau cymdeithasol; gormod o dwristiaeth; ymwybyddiaeth o'r amgylchedd; a'r economi sy'n seiliedig ar brofiadau.

Meddai'r Athro Brian Garrod, o'r Ysgol Reolaeth: “Mae'r argraffiad newydd hwn yn cynnwys y materion hynny sy'n berthnasol i'r broses o ddatblygu a rheoli atyniadau i ymwelwyr, yn ogystal â chyfuno cydbwysedd da o wersi academaidd ac ymarferol â chasgliad o astudiaethau achos amserol manwl er mwyn helpu darllenwyr i'w rhoi ar waith.”

Mae'r astudiaethau achos yn amlygu pynciau megis yr atyniadau newydd sy'n cael eu datblygu yn yr Aifft, twristiaeth dywyll yn America Ladin, atyniadau sy'n deall dementia, a rheoli lleoliadau chwaraeon fel atyniadau.

Mae'r Athro Garrod a'i gyd-olygyddion, Alan Fyall, Anna Leask a Stephen Wanhill, bellach yn gobeithio y bydd y llyfr yn parhau i fod yn destun hanfodol i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig sy'n astudio cyrsiau rheoli atyniadau i ymwelwyr.

Meddai: “Ces i ac Alan y syniad am y llyfr hwn rhwng sesiynau mewn cynhadledd academaidd yn ôl yn 2002. Roedden ni'n gwybod bod angen help arnon ni, felly gwnaethon ni recriwtio Anna yn gyflym ar gyfer yr argraffiad cyntaf ac, wrth i ni ehangu cwmpas yr ail argraffiad, gwnaethon ni recriwtio Stephen hefyd.

“Ugain mlynedd yn ddiweddarach, dyma'r trydydd argraffiad, ac ni fydden ni byth wedi dychmygu'r fath beth. Pan ofynnodd y cyhoeddwyr am drydydd argraffiad, gwnaethon ni wrthod i ddechrau. Fodd bynnag, pan glywon ni fod mabwysiadwyr y llyfr hwn, sef academyddion prifysgol fel ni ein hunain, wir eisiau argraffiad newydd a oedd wedi cael ei ddiweddaru, ni allwn ni wrthod. Felly, rydyn ni'n gobeithio'n wir y bydd y llyfr hwn yn bodloni disgwyliadau addysgwyr a'u myfyrwyr.”

Mae trydydd argraffiad Managing Visitor Attractions, wedi'i olygu gan Alan Fyall, Brian Garrod, Anna Leask a Stephen Wanhill a'i gyhoeddi gan Routledge, ar gael nawr

Rhannu'r stori