Llun o gynrychiolwyr AIMLAC ac aelodau o IAIFI o flaen Cromen Fawr MIT.

Llun o gynrychiolwyr AIMLAC ac aelodau o IAIFI o flaen Cromen Fawr MIT.

Mae myfyrwyr PhD o Brifysgol Abertawe wedi bod yn rhannu eu hymchwil arloesol i ddeallusrwydd artiffisial â chydweithwyr yn America.

Ymwelodd grŵp o 12 o fyfyrwyr PhD a dau aelod o Ganolfan Hyfforddiant Doethurol UKRI mewn Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol ac Uwch-gyfrifiadura (AIMLAC) yn Abertawe â Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT). Cyfnewidiodd y grŵp syniadau ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol mewn ymchwil wyddonol yn ogystal â thrafod addysgu a hyfforddi arweinwyr gwyddor data/dysgu peirianyddol y genhedlaeth nesaf. 

Ymwelodd y cynrychiolwyr, dan arweiniad Cyfarwyddwr y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol, yr Athro Gert Aarts o'r Adran Ffiseg, a Chyfarwyddwr Technegol y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol, yr Athro Biagio Lucini o'r Adran Fathemateg, â'r Sefydliad Deallusrwydd Artiffisial a Rhyngweithiadau Sylfaenol (IAIFI).

Wedi'u croesawu gan yr Athro Jesse Thaler a Dr Phiala Shanahan, cyflwynodd y myfyrwyr – chwech o Abertawe a dau o brifysgolion Bangor, Bryste a Chaerdydd oll – eu hymchwil mewn dwy sgwrs hwy a 10 sgwrs fer. 

Yna cyflwynodd cymrodorion IAIFI yr un nifer o sgyrsiau, gan arwain at drafodaethau ysgogol yn ystod y digwyddiadau cymdeithasol wedyn. 

Neilltuwyd sesiwn arbennig i raglenni hyfforddiant AIMLAC ac IAIFI, gan gynnwys cyflwyniad gan AIMLAC ar leoliadau gwaith myfyrwyr gyda phartneriaid diwydiannol. 

Hwyluswyd yr ymweliad drwy gyllid gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) a neilltuwyd yn benodol i alluogi gweithgareddau cydweithredol rhwng ymchwilwyr deallusrwydd artiffisial yn y DU ac Unol Daleithiau America. 

Meddai Tabitha Lewis, myfyrwraig PhD yn ei blwyddyn gyntaf yn Abertawe: “Yn ogystal â fy helpu i drafod fy ymchwil ag eraill, gan rannu syniadau a chreu cysylltiadau, rhoddodd yr ymweliad werthfawrogiad a dealltwriaeth i fi o'r ymchwil mae pobl eraill yn ymgymryd â hi, gan helpu i feithrin perthnasoedd rhwng carfanau. Roedd y profiad yn un bythgofiadwy!”

Ychwanegodd Maciek Glowacki, myfyriwr PhD yn ei ail flwyddyn ym Mryste: “Rhagorodd MIT ar fy nisgwyliadau, a oedd eisoes yn uchel. Mae rhywbeth arbennig iawn yn yr aer yn y lle hwnnw. Roedd hi'n bleser rhannu fy ngwaith fy hun a chlywed am yr ymchwil arloesol gan gymrodorion ac ôl-raddedigion IAIFI.” 

 Meddai'r Athro Aarts: “I fyfyrwyr PhD, dyma'r daith ymchwil gyntaf ers mwy na dwy flynedd, felly roedd yn wirioneddol gyffrous. Rwyf mor falch bod EPSRC yn gallu cefnogi'r gweithgarwch hwn ac rwyf am ddiolch i aelodau tîm MIT am eu croeso ardderchog. Rwy'n arbennig o falch o'n myfyrwyr am gyflwyno ystod eang o bynciau ymchwil a oedd i gyd yn gysylltiedig drwy'r defnydd o ddulliau dysgu peirianyddol.”

 Rhagor o wybodaeth am y rhaglen AIMLAC

 

Rhannu'r stori