Grŵp o blant bach ar gae yn cicio pêl-droed

Hoffai plant gael mwy o le ac amser i chwarae gyda'u ffrindiau yn yr ysgol a gartref, yn ôl astudiaeth newydd a arweinir gan ymchwilwyr Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe.

Archwiliodd yr astudiaeth farn 20,000 o blant o ran chwarae cyn ac ar ôl i ysgolion gael eu cau oherwydd Covid-19. Roedd yr ymchwil yn cynnwys plant ysgolion cynradd rhwng 8 ac 11 oed yng Nghymru a oedd wedi cymryd rhan yn arolwg Rhwydwaith Ysgolion Cynradd HAPPEN rhwng 2016 a 2021. Mae'r arolwg wedi cynnwys amrywiaeth o wybodaeth am iechyd a lles plant, gan gynnwys cwestiynau pen agored am beth a allai eu gwneud nhw'n hapusach.

Nodwyd pum thema'n seiliedig ar ymatebion y plant. Mae'r rhain yn cynnwys lle i chwarae, argymhellion ar chwarae, cael caniatâd i chwarae, eu teimladau am iechyd a lles a chwarae, a chael amser i chwarae.

Y prif argymhelliad gan blant wrth i ni ddod allan o Covid-19 yw yr hoffent gael mwy o le i chwarae (y tu allan i gartrefi, gan gynnwys gerddi), mwy o amser gyda ffrindiau ac amser wedi'i glustnodi i chwarae gyda ffrindiau yn yr ysgol a gartref. Mae'r astudiaeth hon yn amlygu argymhellion allweddol i hyrwyddo, diogelu a hwyluso chwarae i blant. Dyma'r pethau y gwnaeth y plant eu hargymell:

  • Mannau wedi'u clustnodi ar gyfer chwarae, gan gynnwys buddsoddiad mewn gwaith cynnal a chadw a diogelwch. Sicrhau bod mannau wedi'u dylunio ar gyfer cerddwyr ac nid llif traffig trwm;
  • Hwyluso cyfleoedd i blant gymdeithasu â'u ffrindiau a'u teulu lle bynnag y bo'n bosib.

Mae'r canfyddiadau hyn yn amlygu'r angen i wrando ar blant ac ymgynghori â nhw er mwyn nodi dymuniadau ac anghenion penodol o chwarae.

Serch hynny, er bod ymchwil i’r pandemig wedi amlygu gostyngiad yng ngweithgarwch plant, ceir tystiolaeth hefyd sy'n awgrymu efallai fod y pandemig wedi bod yn gyfle da i blant chwarae a bod yn actif.

Meddai Dr Michaela James, y prif ymchwilydd: "Mae'n amlwg o'n gwaith ymchwil fod plant am i lywodraethau, awdurdodau lleol ac ysgolion wrando ar eu barn am ddarpariaeth chwarae. Drwy wrando ar farn ac argymhellion plant o ran chwarae, gallai fod yn gam enfawr ymlaen ar gyfer diogelu iechyd meddwl a lles ein plant a chenedlaethau'r dyfodol. Nhw yw'r arbenigwyr o ran yr hyn sydd ei angen arnynt.

"Rhaid i ni wrando ar yr argymhellion hyn ac eirioli dros ddymuniadau ac anghenion plant, yn enwedig o ran rhoi lle diogel i blant chwarae, hwyluso cymdeithasu, a chydnabod pa mor fuddiol a hanfodol yw chwarae i ddatblygiad, iechyd a lles plant."

Ychwanegodd Marianne Mannello, Chwarae Cymru: “Mae chwarae yn cael effeithiau cadarnhaol ar ganlyniadau iechyd tymor hir pwysig, gan gynnwys gweithgarwch corfforol cynyddol, gwella lles plant a helpu i ddatblygu gwytnwch. Mae'r pleser uniongyrchol y mae plant a'u teuluoedd yn ei gael o ganlyniad i chwarae yr un mor bwysig.

"Yn Chwarae Cymru, rydym yn croesawu'r ymchwil hon sy'n rhoi mewnwelediad gwerthfawr i ni o'r hyn sy'n bwysig i blant a'r hyn y mae angen i ni ei wneud er mwyn eu helpu i ail-gydio mewn gweithgareddau corfforol i helpu eu hiechyd a'u lles.

“Mae'n hollbwysig ein bod ni'n gwrando ar farn plant ac yn cael gwared ar y rhwystrau i chwarae. Bydd hyn yn eu helpu i gefnogi eu lles, ac i fwynhau plentyndod hapus ac iach.”

Mae'r gwaith hwn mewn partneriaeth â Chwarae Cymru ac fe'i cefnogir gan NCPHWR ac YDG Cymru.

Gallwch ddarllen y cyhoeddiad llawn yma

 

Rhannu'r stori