Clawr llyfr a llun pen ac ysgwydd o'r awdur benywaidd wrth ei ochr

Mae llyfr newydd gan academydd o Brifysgol Abertawe yn archwilio sut cafodd arddangosyn digidol arloesol ei ddefnyddio i arddangos delweddau ffotograffig hanesyddol ar draws safleoedd y ddinas ac yn archwilio ei oblygiadau ar gyfer arferion y dyfodol.

Bydd Reconfiguring the Museum: The Politics of Digital Display gan Dr Ana-Maria Herman, uwch-ddarlithydd mewn Dylunio'r Cyfryngau a Chynhyrchu mewn Diwydiannau Creadigol yng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, yn cael ei gyhoeddi ar 15 Ionawr. 

Mae'r llyfr yn cynnig astudiaeth achos technoleg-gymdeithasol o ap realiti estynedig newydd - cafodd ei ddylunio'n gyntaf i arddangos casgliadau o Amgueddfa Llundain ar draws y brifddinas, ac yn ddiweddarach cafodd ei ail-greu ar gyfer Amgueddfa McCord i arddangos casgliadau ym Montreal (Canada).  

Mae astudiaeth Dr Herman yn dadansoddi yn raddol ac yn datgelu sut roedd cyflwyno'r ap wedi galluogi cysylltiadau newydd annisgwyl rhwng yr amgueddfeydd, eu casgliadau, asiantaethau hysbysebu, noddwyr, cwmnïau technoleg, corfforaethau, gofodau trefol, a defnyddwyr. 

Yn ei dro, mae'n dangos sut y cafodd arferion amgueddfeydd o ran curadu, dylunio, adeiladu, addasu arddangosiadau ac ymweld â nhw eu trawsnewid, a sut y bu i’r hyn a ystyrid gynt fel hen wleidyddiaeth rhywedd a diwylliannol ailymddangos yn annisgwyl, ond ni wnaeth gwleidyddiaeth ddigidol newydd - sy'n gysylltiedig â data mawr, goruchwyliaeth a phrosesau awtomataidd – ddod i’r amlwg o angenrheidrwydd. 

Drwy ystyried y 'cymdeithasol' a'r 'technegol' gyda'i gilydd, mae'r llyfr hefyd yn cyfleu natur arbrofol cyflwyno technolegau cyfryngau digidol newydd i amgueddfeydd a'r ansicrwydd, yr aflerwch, yr hapddigwyddiadau a’r chymhlethdod sy'n rhan o hyn. 

Meddai Dr Herman: "Roeddwn am greu llyfr hygyrch, a fyddai’n apelio at academyddion ac ymarferwyr amgueddfa, diwylliant a threftadaeth. 

"Mae'n darparu esboniadau manwl am ddefnyddio ymagweddau technolegol-gymdeithasol ar gyfer astudiaethau'r cyfryngau digidol, a hefyd yn cynnig ystyriaethau ymarferol ar gyfer ymarferwyr sy'n creu arddangosiadau digidol ac sy'n atebol am eu llwyddiant neu eu methiant. 

"Os oes gennych ddiddordeb yng ngoblygiadau defnyddio cyfryngau digidol newydd i arddangos casgliadau digidol, mae'r llyfr hwn yn cynnig archwiliad y tu ôl i'r llenni o’r rôl y gall cyfryngau digidol arloesol ei chwarae wrth drawsnewid amgueddfeydd ac amgylcheddau trefol - a'u gwleidyddiaeth."

Gallwch archebu'r llyfr ymlaen llaw a'i brynu o McGill-Queen’s University Press ac Amazon UK  I dderbyn gostyngiad o 30 per cent gan Marston Book Services dyfynnwch y côd hyrwyddo: MQF2

 

Rhannu'r stori