Yr olygfa ar draws anialwch Gobi â thywod yn y tu blaen a mynyddoedd yn y pellter.

Mae arbenigwyr o Brifysgol Abertawe wedi helpu i nodi sawl rhywogaeth newydd o facteria sy'n tyfu ym mhridd cras Asia a allai wneud cyfraniad allweddol at y frwydr yn erbyn ymwrthedd i wrthfiotigau. 

Yn 2019, bu farw 1.2 filiwn o bobl ledled y byd o heintiau a achoswyd gan facteria a oedd yn gallu gwrthsefyll y gwrthfiotigau diweddaraf, yn ôl The Lancet.

Rhagwelir y bydd problem ymwrthedd i wrthfiotigau'n gwaethygu'n sylweddol. Bydd goblygiadau difrifol i driniaethau meddygol yr ystyrir eu bod yn arferol ar hyn o bryd, a bydd pobl yn marw o heintiau cyffredin y bu'n bosib eu trin yn flaenorol. O ganlyniad i'r gorddefnydd o nifer cymharol fach o wrthfiotigau gwahanol, mae bacteria niweidiol wedi meithrin ymwrthedd i'r cyffuriau hyn.

Mae'r mwyafrif o'r gwrthfiotigau hyn yn deillio o facteria pridd disymud o'r enw Streptomysesau. Mae gwyddonwyr bellach yn ceisio darganfod ffordd o annog y bacteria hyn i greu gwrthfiotigau newydd, sef cynhyrchion yr hyn a elwir yn llwybrau biosynthetig llonydd neu gryptig. Gallai hyn gynyddu'r cyflenwad o wrthficrobau a ddefnyddir ar hyn o bryd ym maes meddygaeth, sy'n lleihau.

Un ffordd bosib yw chwilio ym myd natur am rywogaethau newydd o Streptomysesau a allai greu mathau gwahanol o wrthfiotigau. Mae cydweithrediad rhwng Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac Academi'r Gwyddorau yn Lanzhou yng ngogledd-orllewin Tsieina bellach wedi darganfod sawl rhywogaeth newydd yn tyfu mewn pridd cras iawn mewn rhanbarthau megis anialwch Gobi a llwyfandiroedd Tibet.

Meddai'r Athro Paul Dyson, sy'n arwain y tîm o Abertawe: “Rwy'n credu'n gryf fod hon yn strategaeth syml iawn i'w hintegreiddio ym mhob rhaglen newydd i ddarganfod gwrthfiotigau. Dyma adnodd arall yn ein harlwy ar gyfer darganfod gwrthfiotigau newydd.”

Dywedodd fod y darganfyddiad hwn, sydd wedi cael ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn Nucleic Acids Research, yn paratoi'r ffordd i ddod o hyd i wrthfiotigau newydd mawr eu hangen.

Ychwanegodd yr Athro Dyson fod un o'r rhywogaethau newydd hyn yn ddiddorol oherwydd y gwrthfiotigau y gallai eu creu, yn ogystal â'r ffaith ei bod yn tyfu'n llawer cyflymach na Streptomysesau confensiynol.

Er mwyn ymchwilio i'r ffenomen hon, canolbwyntiodd yr ymchwilwyr ar y ffordd y mae'r bacteriwm hwn yn ‘darllen’ ei wybodaeth enetig, gan arwain at ddarganfod math o RNA (asid riboniwcleig) trosglwyddo, neu tRNA, sy'n newydd ym myd gwyddoniaeth.

Mae tRNA yn galluogi celloedd i drosglwyddo eu gwybodaeth enetig i'r holl broteinau sy'n gwneud i'r celloedd hyn weithredu a thyfu. Mae'r tRNA newydd yn galluogi'r wybodaeth enetig i gael ei throsglwyddo'n fwy effeithlon, a'i darllen yn gyflymach, gan fod yn sail i allu'r bacteria i dyfu'n gyflym.

Yn bwysicach na hynny, pan ychwanegodd yr ymchwilwyr y genyn tRNA hwn at Streptomysesau confensiynol, gwnaethant greu eu gwrthfiotigau hysbys yn gyflymach ac mewn symiau mwy, yn ogystal â gwrthfiotigau newydd – sef cynhyrchion y llwybrau a fu gynt yn llonydd. 

Arloesi ym maes iechyd

Rhannu'r stori