Animeiddiad newydd i gadw plant yn ddiogel ar-lein rhag perthnasoedd rhywiol amhriodol

Bydd animeiddiad newydd ac argymhellion adroddiad, a ddatblygwyd gan brosiect diogelwch ar-lein DRAGON-S Prifysgol Abertawe, yn darparu adnoddau hanfodol i gynorthwyo â hyfforddiant rhag meithrin perthnasoedd rhywiol amhriodol â phlant ar-lein. 

Dan arweiniad Yr Athro Nuria Lorenzo-Dus, mae prosiect DRAGON-S (Datblygu Gwrthwynebiad Rhag Meithrin Perthnasoedd Rhywiol Amhriodol Ar-lein - Gweld a Gwarchod) yn mynd i’r afael â meithrin perthnasoedd rhywiol amhriodol â phlant ar-lein trwy ddau declyn sy’n cyd-berthyn: Canfodydd Meithrin Perthynas Rywiol Amhriodol Ar-lein (DRAGON-Spotter) a Phorth Atal Meithrin Perthynas Rywiol Amhriodol Ar-lein (DRAGON-Shield).

Mae’r animeiddiad What’s in a Word? yn cynnig cyflwyniad syml a difyr i ganfyddiadau’r ymchwil i’r ffordd y mae cyfathrebu ystrywgar yn gweithio wrth feithrin perthynas rywiol amhriodol â phlant ar-lein.

Ochr yn ochr ag argymhellion adroddiad Strong at the Broken Places, a wnaed gan Grŵp Arbenigwyr Profiad Bywyd y prosiect, yr animeiddiad oedd ffocws digwyddiad allgymorth prosiect DRAGON-S, Placing Children’s Voices at the Heart of Technology-Enabled Support. Cynhaliwyd y digwyddiad hwn ar-lein ac yng Nghanolfan Techniwm Digidol Prifysgol Abertawe ddydd Iau, 30 Mehefin 2022.

Mae’r prosiect arloesol, a ddatblygwyd yn 2021-2022, yn cael ei ariannu gan Gronfa End Violence Against Children ac fe’i cefnogir gan bartneriaid y prosiect, sef Llywodraeth Cymru, Tarian ROCU a Sefydliad Marie Collins. Mae’r animeiddiad yn rhan graidd o DRAGON-Shield, sef platfform hyfforddi rhyngweithiol y prosiect yn erbyn meithrin perthynas rywiol amhriodol, a fydd yn cael ei gyflwyno ar draws y DU ac yn rhyngwladol.

Meddai’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan: “Bydd amddiffyn plant a phobl ifanc rhag niwed bob amser yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Rhaid i ni helpu plant a phobl ifanc i deithio’r byd ar-lein yn ddiogel a’u helpu i atal pethau rhag mynd o le.

“Rwy’n teimlo’n gryf iawn am osod lleisiau plant yn ganolog i’n gwaith. Mae prosiect DRAGON-S yn hanfodol i amddiffyn ein plant a’n pobl ifanc rhag niwed a chamdriniaeth ar-lein a sicrhau bod gan leisiau’r rhai y mae meithrin perthynas rywiol amhriodol ar-lein wedi effeithio arnynt le blaenllaw yn ein gwaith i gynyddu diogelwch ar-lein.”

Dywedodd cynrychiolwyr y Grŵp Arbenigwyr Profiad Bywyd, a gefnogir gan yr Athro Tink Palmer MBE: “Mae cyfraniadau’r grŵp wedi bod yn ysbrydoledig. Fodd bynnag, mae gwneud y gwaith hwn yn dda yn heriol ac rydyn ni gyd wedi dysgu ar hyd y daith. Nod yr argymhellion a’r adroddiad yw dal a rhannu’r dysgu hwnnw i wreiddio gwaith gyda phobl â phrofiad bywyd yn well fel ymarfer safonol.

"Dylai sefydlu’r mathau hyn o grwpiau fod yn fater o arfer wrth weithio ar brosiectau neu gynhyrchion neu ddatblygu polisi ynghylch cam-drin plant yn rhywiol. Ond er mwyn i hyn ddigwydd, mae angen dealltwriaeth lawer mwy systematig o’r hyn sydd angen bod ar waith. Mae angen neilltuo cyllid a gallu digonol i ddarparu’r adnoddau sy’n angenrheidiol i ymrymuso pawb sy’n gysylltiedig.”

Ychwanegodd Ruth Mullineux-Morgan, Cyd-arweinydd Prosiect DRAGON-Shield ac Ymchwilydd Cyswllt Prifysgol Abertawe mewn Polisi Cyhoeddus ac Ieithyddiaeth: “Mae DRAGON-Shield yn dangos sut gall cymorth wedi’i alluogi gan dechnoleg gael ei harneisio er mwyn gwreiddio lleisiau plant a dioddefwyr yn well wrth galon datblygu atebion. Defnyddir y teclynnau i gefnogi plant sy’n cael eu cam-drin yn rhywiol, yn benodol, plant y ceisiwyd meithrin perthynas rywiol amhriodol â nhw ar-lein.

“Rydym yn hynod falch o’n prosiect cydweithredol gydag arbenigwyr profiad bywyd a rhoi lle blaenllaw i leisiau plant wrth ddatblygu DRAGON-Shield. Ni ddylai fod yr un seilo yn achos cadw plant yn ddiogel ar-lein. Mae Prosiect DRAGON-S wedi ymroi’n llwyr i gyd-greu technoleg atal ddilys gydag ymchwilwyr, ymarferwyr diogelu plant, y diwydiant a defnyddwyr yn fyd-eang yn arbennig.”

Yn ogystal â gweithio’n agos gyda’r Grŵp Arbenigwyr Profiad Bywyd (sydd wedi sicrhau bod llais goroeswyr cam-drin plant yn rhywiol wedi’i gynnal trwy gydol y prosiect), mae DRAGON-S hefyd wedi gweithio gyda’r animeiddwyr o Gymru, Sleeping Giant, i greu llais a datblygu sgôr gwreiddiol ar gyfer What’s in a Word?

Gwybodaeth bellach am waith arloesol Prosiect DRAGON-S Prifysgol Abertawe

Rhannu'r stori