Logo VOX-Pol: bydd Prifysgol Abertawe'n gwneud cyfraniad blaenllaw at rwydwaith ymchwil rhyngwladol, a sefydlwyd yn 2014 drwy gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd (UE), sy'n astudio eithafiaeth a therfysgaeth ar-lein ac ymatebion iddynt.

Bydd Prifysgol Abertawe'n gwneud cyfraniad blaenllaw at rwydwaith ymchwil rhyngwladol, a sefydlwyd yn 2014 drwy gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd (UE), sy'n astudio eithafiaeth a therfysgaeth ar-lein ac ymatebion iddynt.

Cyhoeddwyd y newyddion yn y gynhadledd Terfysgaeth a'r Cyfryngau Cymdeithasol yn Abertawe. Bydd yr Athro Stuart Macdonald o Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe'n ymgymryd â rôl cydlynydd y rhwydwaith, sef VOX-Pol.

Mae VOX-Pol yn archwilio gwleidyddiaeth eithafol dreisgar ar-lein. Ar hyn o bryd, mae 30 o sefydliadau yn y rhwydwaith, o 12 o wledydd gwahanol yn y DU, Ewrop, Gogledd America, Affrica, Asia ac Awstralasia.

Mae aelodau'r rhwydwaith yn darparu arbenigedd o amrywiaeth o ddisgyblaethau, megis: cyfathrebu, cyfrifiadureg, troseddeg, moeseg, cysylltiadau rhyngwladol a gwleidyddiaeth.

Gyda'i gilydd, maent yn gwneud gwaith ymchwil, dadansoddi, trafod a beirniadu cynhwysfawr ar y materion sy'n deillio o eithafiaeth a therfysgaeth ar-lein a'r ymatebion iddynt, megis atal pobl rhag cyfrannu at blatfformau, rheoleiddio, a naratifau ar-lein i'r gwrthwyneb.

Rhagor o wybodaeth am VOX-Pol

Mae swm y cynnwys ar-lein sy'n hyrwyddo gwleidyddiaeth dreisgar yn ddiddorol. Er bod y pryder cychwynnol am y mater hwn yn canolbwyntio ar derfysgwyr sy'n arddel rhyfel sanctaidd, megis ISIS, mae pwyslais VOX-Pol ar bob grŵp sy'n defnyddio neu'n cefnogi trais corfforol yn erbyn unigolion a grwpiau eraill er mwyn hyrwyddo eu hamcanion gwleidyddol.

Er enghraifft, mae gan ffurfiau amrywiol niferus yr asgell dde eithafol yn Ewrop hanes hir o ddefnyddio'r rhyngrwyd a hanes hyd yn oed yn hwy o drais a bygwth trais yn erbyn pobl nad ydynt yn wyn, lleiafrifoedd ethnig, lleiafrifoedd crefyddol, lleiafrifoedd rhywiol ac eraill.

Mae VOX-Pol hefyd yn mabwysiadu safbwynt eang wrth edrych ar wefannau a phlatfformau. Yn ogystal â gwefannau penodol i derfysgaeth, mae hefyd yn archwilio mathau amrywiol o wefannau rhwydweithio cymdeithasol, yn enwedig y rhai a ddefnyddir yn helaeth gan bobl ifancach.

Mae arbenigwyr Abertawe eisoes wedi cymryd rhan yn VOX-Pol ond bellach byddant yn ymgymryd â'r brif rôl o gydlynu'r rhwydwaith. Bydd yr Athro Stuart Macdonald yn olynu'r Athro Maura Conway, sylfaenydd VOX-Pol, sy'n gweithio ym Mhrifysgol Dinas Dulyn ac sydd hefyd yn dal swydd ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae Ysgol y Gyfraith yn Abertawe eisoes wedi sefydlu ei harbenigedd yn yr heriau newydd sy'n deillio o'r rhyngrwyd. Er enghraifft, mae'n gartref i'r Ganolfan Ymchwil Seiberfygythiadau, sy'n archwilio amrywiaeth o fygythiadau ar-lein: o derfysgaeth, eithafiaeth a seiberdroseddu i gamfanteisio'n rhywiol ar blant a meithrin perthnasoedd amhriodol ar-lein. Cyflwynwyd ei gwaith ledled y byd, gan gynnwys Swyddfa Gartref y DU, Adran Wladol yr Unol Daleithiau, Europol a Sefydliad Cytuniad Gogledd Iwerydd (NATO).

Mae mentrau VOX-Pol sydd yn yr arfaeth yn cynnwys:

  • cyfres o ddarlithoedd gwadd ar gyfer myfyrwyr yn yr holl brifysgolion sy'n aelodau
  • cyfres ddynodedig o adnoddau i arbenigwyr, gan gynnwys canllawiau ar gyflogadwyedd ac ar les ymchwilwyr sy'n gweithio ar bynciau sy'n anodd yn aml
  • llyfrgell ar-lein ar gyfer ymchwil i'r maes

Meddai'r Athro Stuart Macdonald o Brifysgol Abertawe:

“Rydyn ni bob amser wedi gweithio i hyrwyddo cydweithrediad rhwng sectorau ac awdurdodaethau gwahanol, felly rydyn ni wrth ein boddau i gael y cyfle i arwain y rhwydwaith hwn sydd wir yn un rhyngwladol. Mae VOX-Pol wedi ennill bri byd-eang am wneud ymchwil o'r radd flaenaf sy'n llywio polisïau ac ymarfer ar y pwnc pwysig hwn.”

Meddai'r Athro Maura Conway o Brifysgol Dinas Dulyn a Phrifysgol Abertawe, sylfaenydd VOX-Pol:

“Rwyf wrth fy modd i drosglwyddo'r cyfrifoldeb am arwain VOX-Pol i'r Athro Macdonald ym Mhrifysgol Abertawe. Byddaf yn parhau i gymryd rhan yng ngwaith y rhwydwaith, ond mae'r newid i arweinyddiaeth newydd yn gyfle gwych i adfywio ein hymdrechion o ran ymchwil, partneru, digwyddiadau a pholisïau. Rwy'n edrych ymlaen at weld effaith ysgolheigaidd ac ymarferol barhaus VOX-Pol dan arweinyddiaeth Abertawe.”

 

Rhannu'r stori