Yn ystod ei amser yn y wlad, cynhaliodd Aaron Todd (ar y chwith) a'i gydweithwyr weithdy i rannu gwybodaeth rhwng ymchwilwyr o'r DU ac Ynysoedd Phillippines, yn ogystal â phartneriaid diwydiannol â diddordeb. Fel rhan o hyn, arweiniodd sesiynau ymarferol ar fesur llifoedd ar ôl gosod halen ynddynt,

Yn ystod ei amser yn y wlad, cynhaliodd Aaron Todd (ar y chwith) a'i gydweithwyr weithdy i rannu gwybodaeth rhwng ymchwilwyr o'r DU ac Ynysoedd Phillippines, yn ogystal â phartneriaid diwydiannol â diddordeb. Fel rhan o hyn, arweiniodd sesiynau ymarferol ar fesur llifoedd ar ôl gosod halen ynddynt, ei faes arbenigol

Cloddio am fetelau sy'n hollbwysig ar gyfer technolegau sero net, heb niweidio'r amgylchedd, yw nod prosiect ar y cyd rhwng y DU ac Ynysoedd Philippines sy'n cynnwys arbenigwr o Brifysgol Abertawe sydd newydd ddychwelyd ar ôl ymweliad ymchwil â'r wlad.

Mae Aaron Todd o'r Adran Ddaearyddiaeth yn ymgymryd â PhD ar reoli afonydd a mesur llifoedd ar ôl gosod halen ynddynt (salt dilution flow gauging), sef techneg ar gyfer amcangyfrif llif nant fach yn gyflym ac yn hawdd.
Yn ddiweddar, cymerodd ran mewn ymweliad ymchwil ag Ynysoedd Philippines, a oedd yn rhan o brosiect tair blynedd sydd â'r nod o feithrin dealltwriaeth lawn o effeithiau amgylcheddol ac ecolegol cloddio ar systemau afonydd y wlad.

Enw'r prosiect yw “Pamana” – gair Ffilipinaidd sy'n golygu etifeddiaeth neu dreftadaeth – ac mae'n cynnwys sefydliadau o'r DU ac Ynysoedd Philippines. Nid yw Prifysgol Abertawe'n rhan o'r prosiect yn swyddogol, ond mae Aaron wedi cymryd rhan ochr yn ochr â goruchwyliwr allanol ei PhD, Dr Patrick Byrne o Brifysgol John Moores Lerpwl, sy'n un o sefydliadau partner y prosiect.

Mae Ynysoedd Philippines yn un o'r gwledydd mwyaf cyfoethog o ran mwynau yn y byd ac yn arbennig o gyfoethog o ran metelau megis cromiwm, copr, nicel a chobalt, sy'n hollbwysig i'r broses o symud i fyd sero net.

Mae'r metelau hyn yn gydrannau allweddol o fatris a thechnolegau gwyrdd megis paneli solar, tyrbinau gwynt a cherbydau trydan.

Fodd bynnag, ni chafwyd unrhyw weithgareddau cloddio newydd yn Ynysoedd Philippines ers 10 mlynedd o ganlyniad i bryder cynyddol y cyhoedd am effeithiau ecolegol gweithgareddau cloddio yn y dyfodol, a'r effeithiau ar iechyd pobl.

Mae prosiect PAMANA yn datblygu fframwaith cenedlaethol newydd ar gyfer monitro a meintioli effeithiau amgylcheddol ac ecolegol gweithgareddau cloddio yn Ynysoedd Philippines.

Y nod yw helpu Ynysoedd Philippines i ddatblygu ac ehangu eu gweithgareddau cloddio wrth ddiogelu amgylcheddau ac ecosystemau drwy safonau rheoleiddiol a dulliau monitro newydd.

Yn ystod ei amser yn y wlad, cynhaliodd Aaron a'i gydweithwyr weithdy i rannu gwybodaeth rhwng ymchwilwyr o'r DU ac Ynysoedd Phillippines, yn ogystal â phartneriaid diwydiannol â diddordeb. Fel rhan o hyn, arweiniodd sesiynau ymarferol ar fesur llifoedd ar ôl gosod halen ynddynt, ei faes arbenigol, a ddatblygwyd ganddo drwy ymchwil wedi'i hariannu gan KESS II yng ngwaith plwm Nantymwyn yn Sir Gâr.

Yn ogystal, bu Aaron wrthi am dair wythnos yn gwneud gwaith maes gyda thîm o wyth ymchwilydd ar draws dau ddalgylch afon. Roedd aelodau'r tîm yn casglu samplau dŵr a gwaddodion, gan fesur llifoedd yr afonydd drwy amrywiaeth o dechnegau, gan gynnwys mesur llifoedd ar ôl gosod halen ynddynt. Roeddent hefyd yn mesur llifoedd afonydd mwy drwy ddefnyddio dyfais o'r enw ADCP (acoustic Doppler current profiler), gan ddefnyddio enghraifft leiaf y byd o'r ddyfais hon.

Meddai Aaron Todd o Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe:

“Roedd yn wych rhoi'r technegau rwyf wedi bod yn eu defnyddio yng Nghymru ar waith filoedd o gilometrau i ffwrdd yn Ynysoedd Philippines. Dysgais i lawer yn ystod y gweithdy ac eto yn ystod y gwaith maes, ac rwy'n gobeithio bod yr hyfforddiant a roddais i yn ddefnyddiol i'r cynrychiolwyr.

Rwy'n ddiolchgar i Dr Byrne a'r tîm ardderchog ym Mhrifysgol Ynysoedd Philippines am fy nghroesawu i'r prosiect am fis, ac i'r Sefydliad Deunyddiau, Mwynau a Mwyngloddio am gefnogi fy rôl wrth gyfnewid gwybodaeth rhwng y ddwy wlad.”

Mae Ysgoloriaethau Sgiliau'r Economi Wybodaeth (KESS II) yn fenter sgiliau uwch ledled Cymru dan arweiniad Prifysgol Bangor ar ran y sector addysg uwch yng Nghymru. Ariennir y fenter yn rhannol gan raglen gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd.

Dyfodol cynaliadwy, ynni a'r amgylchedd - ymchwil Abertawe

Rhannu'r stori