Yn y llun mewn trefn glocwedd o’r ochr chwith uchaf: Anthony Shapland, Bethan James, Carys Shannon, Daniel Patrick Luke Strogen, Eryl Samuel, Jonathan Page, Laura Morris, Lindsay Gillespie, Matthew David Scott, Matthew G. Rees, Meredith Miller and Satterday Shaw.

Mae athro ysgol dan hyfforddiant, rhywun sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobr Stori Fer Costa ac awdur y darlledwyd ei waith ar BBC Radio 4 ymhlith y 12 o awduron ar restr fer Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2022.

Mae'r gystadleuaeth yn cydnabod y straeon byrion gorau oll nas cyhoeddwyd yn Saesneg mewn unrhyw arddull ac ar unrhyw bwnc hyd at 5,000 o eiriau ar y mwyaf gan lenorion 18 oed neu'n hŷn a anwyd yng Nghymru, sydd wedi byw yng Nghymru am o leiaf ddwy flynedd, neu sy'n byw yng Nghymru ar hyn o bryd.

Sefydlwyd Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies yn wreiddiol ym 1991 ac fe'i cynhaliwyd naw gwaith hyd yn hyn. Yn 2021, ail-lansiwyd y gystadleuaeth gan Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe ar ran Ymddiriedolaeth Rhys Davies ac mewn cydweithrediad â Parthian Books.

Y rhestr fer:

  • Splott Elvis and the Sundance Kid gan Lindsay Gillespie
  • The Space Between Pauses gan Bethan James
  • Close in Time, Space or Order gan Meredith Miller
  • Cree gan Laura Morris
  • Fear and Trembling gan Jonathan Page
  • Endgame gan Matthew G. Rees
  • Ghost Songs, 1985 gan Eryl Samuel
  • An Intervention gan Matthew David Scott
  • Angel Face gan Carys Shannon
  • Foolscap gan Anthony Shapland
  • My How To Guide gan Satterday Shaw
  • Cracked/Duck gan Daniel Patrick Strogen

Bydd yr enillydd cyffredinol yn derbyn £1,000 a bydd ei gynnig buddugol yn cael ei gynnwys yn The Rhys Davies Short Story Award Anthology 2022, a gyhoeddir gan Parthian Books ym mis Hydref 2022.

Bydd Parthian yn cyhoeddi pob un o'r 12 o straeon yn yr antholeg. Bydd y casgliad, a olygir gan Dr Elaine Canning, Pennaeth Prosiectau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe, hefyd yn cynnwys cyflwyniad gan Rachel Trezise, y llenor arobryn a'r beirniad gwadd. Bydd pob un o'r llenorion ar y rhestr fer hefyd yn derbyn £100.

Meddai Rachel Trezise, y beirniad gwadd: “Bu'n dalcen caled iawn dethol 12 stori yn unig ymhlith ymgeiswyr Gwobr Stori Fer Rhys Davies eleni gan fod y safon yn uchel iawn. Yn y diwedd, mae'r straeon sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn dangos y grefft o ysgrifennu straeon byrion ar ei gorau – cymeriadau pryfoclyd, cynlluniau clyfar, iaith bwerus a themâu sy'n ennyn diddordeb – sef nodweddion a oedd yn perthyn i Rhys Davies, gan ennill enwogrwydd ac edmygedd iddo. Gosodir llawer o'r straeon yng nghymoedd de Cymru Davies, ond ceir lleoliadau trefol hefyd a themâu sy'n amrywio o hunaniaeth a pherthyn i ynysu, dieithrio a galar.”

Roedd Rhys Davies, a anwyd ym Mlaenclydach yng Nghwm Rhondda ym 1901, yn un o ysgrifenwyr rhyddiaith Saesneg mwyaf ymroddedig, toreithiog a dawnus Cymru. At ei gilydd, ysgrifennodd dros gant o straeon, 20 nofel, tair nofel fer, dau lyfr topograffaidd am Gymru, dwy ddrama a hunangofiant.

Meddai Richard Davies o Parthian Books: “Gwobr Stori Fer Rhys Davies yw'r brif wobr am ysgrifennu straeon byrion yng Nghymru. O Leonora Brito i Tristan Hughes i Kate Hamer, mae'r enillwyr bob amser wedi bod yn llenorion o'r safon uchaf a bydd yn anrhydedd cyhoeddi gwaith y rhai sydd ar y rhestr fer mewn antholeg arbennig i ddathlu'r gystadleuaeth hon.”

Cyhoeddir yr enillydd ar 30 Medi 2022.

Cymerwch gip ar gasgliad y llynedd, Take a Bite: The Rhys Davies Short Story Award Anthology.

Gwybodaeth am yr awduron

Mae Lindsay Gillespie, a anwyd yn ne Cymru, bellach yn byw yn y Twyni Deheuol yn Lloegr. Yn y cyfamser, bu'n gweithio yn India a Japan. Yn 2021, cyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr Stori Fer Costa, rhestr fer gwobrau Fiction Factory ac Oxford Flash Fiction, a rhestr hir Gwobr Stori Fer Exeter. Cynhaliwyd cyfweliad â hi ar Storyradio ym mis Mawrth 2022 ac mae ei straeon hefyd wedi bod yn rhan o'r podlediad. Mae wrthi'n cwblhau ei chasgliad cyntaf o straeon byrion.

Mae Bethan James yn ysgrifennwr llawrydd ac yn gyn-swyddog cyhoeddusrwydd llyfrau o Fro Morgannwg. Yn 2021, fe'i dewiswyd i gynrychioli Cymru yn antholeg ailddychmygu straeon tylwyth teg ffeministaidd y Cenhedloedd Unedig, Awake Not Sleeping. Mae ei chyflawniadau eraill yn cynnwys: ennill cystadleuaeth Neil Gaiman a Word Factory, Fables for a Modern World; cyrraedd rhestr fer Bristol Short Story Prize; a chyhoeddi ei gwaith yn y cylchgrawn Litro, ymysg eraill.  Mae Bethan yn gweithio ar ei nofel gyntaf ac yn cael ei chynrychioli gan DHH Literary Agency.

Magwyd Meredith Miller yn Efrog Newydd cyn symud i Brydain ym 1997. Mae hi wedi ysgrifennu dwy nofel a gyhoeddwyd, Little Wrecks (2017) a How We Learned to Lie (2018), yn ogystal â sawl stori fer a chryn dipyn o feirniadaeth lenyddol. Mae Meredith, sy'n dysgu'r Gymraeg, yn hoff iawn o ddarllen ffuglen o Gymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae'n byw yng nghanolbarth Cymru ac mae'n addysgu ac yn goruchwylio Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae Laura Morris yn dod o Gaerffili. Mae wedi ennill MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Bangor. Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi gan wasg Honno a'i ddarlledu ar BBC Radio 4. Mae ei straeon byrion diweddar wedi ymddangos yn The Lonely Crowd a Banshee. Mae'n byw yng Nghaerdydd lle mae'n addysgu Saesneg mewn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg.

Mae Jonathan Page yn byw ym Mronllys, ger y Mynyddoedd Duon. Mae'n gweithio fel awdur technegol ac yn ysgrifennu ffuglen lenyddol yn ei amser hamdden. Mae ei straeon byrion wedi ymddangos mewn chwe antholeg ers 2015, ac enillodd ei stori Sacrifice Wobr The Hay Writers yn 2018. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Blue Woman, stori bywyd artist ffuglennol o Gymru, ym mis Ebrill 2022 gan Weatherglass Books. Mae wedi ysgrifennu am Blue Woman ar gyfer Wales Arts Review a New Welsh Review.

Magwyd Matthew G. Rees yn y Gororau mewn teulu Cymreig â gwreiddiau yn y Gymru ddiwydiannol a'r Gymru wledig. Ymysg pethau eraill, mae wedi gweithio fel newyddiadurwr, athro a gyrrwr tacsis gyda'r nos. Cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf, Keyhole, casgliad o straeon byrion a osodir yng Nghymru a'r Gororau, yn 2019. Ei lyfr diweddaraf yw The Snow Leopard of Moscow & Other Stories, casgliad o straeon a osodir ym Moscow yn ystod oes Putin lle bu Matthew yn byw ac yn gweithio am gyfnod cyn ymgymryd â PhD ac astudiaethau eraill ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae Eryl Samuel yn byw ger Caerdydd lle cafodd ei eni a'i fagu. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio fel partner gwella ysgolion yn Rhondda Cynon Taf, Caerdydd a Bro Morgannwg. Cyhoeddwyd ei gasgliad cyntaf o straeon byrion, Words are Like Birds, yn 2021. Mae hefyd wedi ysgrifennu nofel, Cat’s Eyes, a gyhoeddwyd yn 2020.  Mae ail gyfrol o straeon byrion yn yr arfaeth i'w chyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae Matthew David Scott yn hanu o Fanceinion ond ymgartrefodd yng Nghymru ryw ugain mlynedd yn ôl. Ef yw awdur dwy nofel: Playing Mercy (Parthian 2005), a gyrhaeddodd restr hir Gwobr Dylan Thomas, a The Ground Remembers (Parthian 2009). Mae gwaith Matthew, sy'n un o sefydlwyr y cwmni theatr Swing Low, wedi cael ei berfformio mewn theatrau megis The Barbican, The Almeida, The Everyman, ac mewn caeau, meysydd parcio a chanol trefi ledled y DU. Mae'n byw yng Nghasnewydd.

Mae Carys Shannon yn hanu o ogledd Gŵyr yn Abertawe ac mae bellach yn gweithio o bell rhwng Sbaen a Chymru fel adroddwr straeon digidol ac ysgrifennwr cynnwys. Astudiodd Carys Ddrama ym Mhrifysgol Abertawe cyn gweithio fel cynhyrchydd ar gyfer National Theatre Wales, Cwmni Theatr Volcano a phrosiectau cymdeithasol eraill ym maes y celfyddydau. Yn 2017, graddiodd o Brifysgol De Cymru gydag MPhil mewn Ysgrifennu, ac mae ei straeon byrion wedi cael eu cyhoeddi gan wasg Honno, Parthian Books ac, yn fwyaf diweddar, y cylchgrawn Mslexia. Ar hyn o bryd, mae'n gorffen ei nofel gyntaf sydd wedi cyrraedd rhestr hir Cystadleuaeth Nofelau Mslexia a The Bath Novel Awards, a rhestr fer The Caledonia Novel Award. Mae Carys yn ymgyrchu'n frwd dros hawliau anifeiliaid, yn ogystal â bod yn fegan, ac mae'n credu bod gan ei straeon y pŵer i newid y byd.

Magwyd Anthony Shapland ym Margoed yng Nghwm Rhymni. Mae ei waith, fel awdur, artist a gwneuthurwr ffilmiau, yn cyfuno elfennau dogfennol a ffuglennol, gan adeiladu ar ei ymdeimlad bod y byd yn debyg i set ffilm – dros dro ac yn newid yn barhaus. Roedd tirwedd ei blentyndod yn llawn cynnwrf a newid mawr. Ar yr un pryd, roedd dod allan yn gymhleth mewn byd a oedd newydd ddechrau newid ei agweddau moesol a chyfreithiol, gan wneud cyd-dynnu'n strategaeth ar gyfer goroesi.

Ochr yn ochr ag ysgrifennu ac arddangos, ef yw cyd-sylfaenydd g39, man a arweinir gan artistiaid yng Nghaerdydd, lle mae'n gweithio. Yn ddiweddar, bu ar y panel beirniadu ar gyfer Artes Mundi 8, bu'n un o ddewiswyr Survey II gan Jerwood Arts, a bu'n gwasanaethu ar bwyllgor Cymru yn Fenis. Ar hyn o bryd, mae'n rhan o garfan Cynrychioli Cymru 2022 ar raglen gymorth a gynhelir gan Lenyddiaeth Cymru.

Mae gwaith Satterday Shaw wedi cael ei gyhoeddi yn Meniscus, Mslexia, The London Magazine, antholeg Chawton House, Wasafiri, The Yellow Room a chyhoeddiadau eraill*, a bydd ei straeon yn cael eu cynnwys mewn rhifyn o Stand yn y dyfodol ac antholeg Fly on the Wall. Mae ei ffuglen fer wedi ennill Cystadleuaeth Stori Fer Gŵyl Ilkley a gwobr New Writing North. Mae Shaw yn byw yn Harlech, lle mae hi’n dysgu Cymraeg.

*(Dan yr enw Sarah Shaw)

Cafodd Daniel Patrick Luke Strogen ei eni yn Abertawe a'i fagu ym Mhort Talbot. Yn ddiweddar, mae wedi ennill gradd Baglor yn y Celfyddydau o Brifysgol Abertawe. Nawr, ar ôl graddio, mae'n dechrau cael hyfforddiant i fod yn athro ysgol. Fel myfyriwr ieithyddiaeth, enillodd Gystadleuaeth Llenorion Ifanc Babel yn 2021 am ei erthygl ar y defnydd o iaith yn y cyfryngau. Bu'n ysgrifennu ers ei blentyndod, ond Cracked/Duck yw ei stori fer gyntaf.

Rhannu'r stori