cynhyrchion glanhau

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi lansio astudiaeth fawr i ddarganfod sut mae llygryddion pob dydd yn effeithio ar ddatblygiad ac iechyd ffetysau a phlant.

Gall llygryddion o stofiau llosgi pren, dillad, cynhyrchion glanhau a choginio gronni dan do, yn enwedig dros y gaeaf, ochr yn ochr â llygredd awyr agored megis mygdarthau cerbydau.

Yng Nghymru, mae pobl yn treulio 90% o'u hamser dan do ar gyfartaledd, felly mae ymchwil yn y maes hwn yn allweddol er mwyn deall y cysylltiad rhwng llygredd ac iechyd pobl.

Mae astudiaethau blaenorol wedi dangos y gall llygredd aer effeithio ar faint babanod ac achosi genedigaethau cynamserol. Fodd bynnag, astudiaeth RESPIRE yw'r un gyntaf i olrhain sut mae llygredd gartref, yn y gwaith neu mewn mannau dan do eraill yn effeithio ar weithrediad organau gwahanol megis yr ysgyfaint a'r ymennydd.

Meddai'r Athro Cathy Thornton, Athro Imiwnoleg ym Mhrifysgol Abertawe:

“Ein cydweithrediad ledled y DU fydd yr un cyntaf i archwilio sut gallai menywod beichiog ymateb yn wahanol i lygredd aer fel ffordd o ddeall y goblygiadau i iechyd eu plant.

“Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn gweithio gyda menywod beichiog a'u teuluoedd, y cyhoedd, a chyrff llywodraeth leol a chenedlaethol yn ogystal â busnesau i fonitro cysylltiadau menywod beichiog â llygredd aer dan do ac awyr agored a nodi'r berthynas rhwng y rhain a chanlyniadau iechyd diweddarach y plentyn.

“Bwriedir i'r ymagwedd uchelgeisiol hon lywio polisïau a'r broses o ddatblygu ymyriadau, gan gynnwys datblygu adnoddau syml i fonitro llwyddiant ymyriad yn gyflym.”

Nod yr astudiaeth yw penderfynu sut mae cysylltiadau menywod beichiog â llygredd aer yn effeithio ar y baban a datblygiad organau, gan arwain at iechyd gwael yn ystod plentyndod.

Er mwyn cynnal yr astudiaeth, ceir samplau biolegol gan wirfoddolwyr beichiog yn ystod cyfnodau tri mis amrywiol y beichiogrwydd. Yna bydd gwyddonwyr yn dadansoddi effeithiau deunyddiau o'r awyr ar y samplau.

Bydd y rhain yn cynnwys samplau trwynol fel ffynhonnell o'r llwybrau anadlu sy'n ddiogel yn ystod beichiogrwydd, gwaed perifferol a gwaed o'r llinyn bogail, brychau a sbermau.

Bydd y samplau'n dod i gysylltiad â PM2.5 neu ddeunydd gronynnol mân, cymysgedd o halogyddion cemegol a biolegol, gan gynnwys llwch cartref a chyfansoddion organig anweddol, megis y cemegion a geir mewn cynhyrchion glanhau, ar eu pennau eu hunain a chyda'i gilydd, gan gynnwys deunyddiau eraill o'r awyr megis paill a feirysau.

Bydd y tîm hefyd yn mesur cysylltiadau naturiol yng nghartrefi’r menywod beichiog, sut mae’r fenyw'n ymateb i'r amgylchedd hwn ac iechyd y baban wrth iddo dyfu i fyny.

Mae'r prosiect pedair blynedd wedi derbyn cyllid gwerth £3.4m gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) ac Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) drwy Gronfa Blaenoriaethau Strategol y Rhaglen Aer Glân, sy'n ceisio cynyddu ymchwil amlddisgyblaethol ym meysydd allweddol ansawdd aer, gan gynnwys iechyd pobl.

Meddai'r Athro Lucy Chappell, Prif Weithredwr y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR):

“Rwy'n falch bod NIHR yn adeiladu ar ei hanes cryf o ariannu ymchwil i lygredd aer drwy bartneru ag Ymchwil ac Arloesi yn y DU i gyd-ariannu astudiaeth RESPIRE. Mae'r prosiect hwn yn rhan o grŵp pwerus o bedwar consortiwm rhyngddisgyblaethol a ariennir ar y cyd sy'n mynd i'r afael ag effeithiau allyriadau dan do ac awyr agored newidiol a phatrymau cysylltiadau ar iechyd.”

Meddai'r Athro Paul Lewis, Hyrwyddwr Aer Glân UKRI yng Nghymru ac Athro Emeritws yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe:

“Mae ansawdd aer gwael yn effeithio ar filiynau o fywydau, ond nid oes llawer o ddealltwriaeth o effeithiau llygryddion dan do. Mae ariannu ymchwil yn y maes hwn yn un o flaenoriaethau allweddol Ymchwil ac Arloesi yn y DU.

“Drwy rannu ein canfyddiadau â chyrff llywodraeth leol a chenedlaethol, busnesau, elusennau a'r cyhoedd, rydym yn gobeithio y bydd yr ymchwil hon yn lleihau effeithiau andwyol cysylltiadau â llygredd aer yn ystod beichiogrwydd ar iechyd plant.”

Ariennir y rhaglen Aer Glân ar y cyd gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol a'r Swyddfa Dywydd, ac mae'r partneriaid yn cynnwys yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Stori UKRI

Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe

Rhannu'r stori