Arbenigwyr yn rhannu syniadau ar gyfer gwella profiadau trychedigion

Mae arbenigwyr o Brifysgol Abertawe'n dweud y gallai trawsnewid y bwlch rhwng gwybodaeth, technoleg chwyldroadol a seicoleg cleifion, er mwyn gwella profiadau trychedigion (amputees) a chlinigwyr. 

Drwy ddigwyddiad unigryw a gyflwynwyd gan Adran Peirianneg Fecanyddol y Brifysgol, daeth amrywiaeth o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, academyddion o gefndiroedd amrywiol (gan gynnwys seicoleg, dysgu peirianyddol a pheirianneg ddylunio), biomecanyddion, modelwyr cyfrifiadurol ac arbenigwyr o fyd diwydiant ynghyd.

Nod y digwyddiad oedd trafod a deall yn well ddisgwyliadau defnyddwyr traed prosthetig a chlinigwyr.

Meddai trefnydd y digwyddiad, Dr Rajesh Ransing, Athro Cysylltiol Peirianneg Fecanyddol: “Mae gan Abertawe weledigaeth uchelgeisiol i fod yn ganolbwynt creadigol ar gyfer academyddion, clinigwyr, diwydiannau a'r defnyddwyr terfynol (cleifion unigol/cymdeithasau) at ddiben datblygu technolegau cynorthwyol y genhedlaeth nesaf.

“Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle i ddod â'r arbenigedd ynghyd a allai ein helpu i gyflawni'r uchelgais hwnnw.”

Dywedodd mai uchafbwynt y diwrnod oedd cyflwyniad gan Rainer Schultheis, Rheolwr Gyfarwyddwr Saphenus Medical Technology, a ddangosodd sut gellir defnyddio technoleg er mwyn gwneud i'r ymennydd deimlo bod bys troed ar ddiwedd y troed prosthetig.

Meddai Dr Ransing: “Rydyn ni'n falch ein bod wedi gallu cyflwyno'r dechnoleg hon am y tro cyntaf yn y DU yn ogystal â Chymru.
“Rydyn ni'n credu bod hyn yn rhoi mantais amlwg i Abertawe wrth weithio gyda'r GIG a chyrff cyllido er mwyn gwella gofal cleifion.”

Yn ystod y digwyddiad, cafwyd cyflwyniad hefyd gan yr Athro Rick Neptune, arbenigwr mewn modelu biomecaneg niwrogyhyrol o Brifysgol Texas yn Austin, ar y defnydd o fodelu cyfrifiadurol a data arbrofol i ymdrin â cherddediad pobl. Bu Paul McIntyre, sy'n defnyddio troed prosthetig, yn bresennol yn y digwyddiad ac roedd yn cytuno â'r sylwadau ar reoli cydbwysedd.

Darparodd Dr Nick Owen daith o'i labordy cerddediad yn Adran Gwyddor Chwaraeon y Brifysgol, a chyflwynodd Dr Ben Morgan droed prosthetig wedi'i raddnodi a ddyluniwyd ganddo fel rhan o ymchwil ei raglen EngD. Roedd Dr Philippa Stewart, meddyg niwrolawdriniaeth, yn rhagweld budd y troed hwn fel dull asesu hynod gymwysadwy.

Rhoddodd Dr Ransing gyflwyniad ar ran y myfyrwyr Dr Turki Al Qalmas a Megan Morris. Roedd gwaith Dr Al Qalmas yn canolbwyntio ar gategoreiddio llwythi nad ydynt yn iach o ddata cerddediad, ac optimeiddio paramedrau stiffrwydd, gan ddefnyddio modelau efelychu rhifiadol. Roedd cyflwyniad Ms Morris yn seiliedig ar syniadau wedi'u hysbrydoli gan fyd natur am adeileddau dylunio dellt cyfnerthedig y gellir eu hargraffu ar ffurf 3D â dau ddeunydd.

Dangosodd y myfyriwr PhD mewn peirianneg fecanyddol Philip Pe sut gellir defnyddio algorithmau gweledigaeth gyfrifiadurol i nodi marcwyr cerddediad ar gorff dynol, gan ddefnyddio gwe-gamerâu a chamerâu ffonau symudol. Mae'n gobeithio y gall y dull hwn, ochr yn ochr â'i ymchwil i ddeallusrwydd artiffisial a modelau dysgu dwfn, wella profiadau trychedigion a chlinigwyr. Creodd ei gyflwyniad argraff arbennig ar y ffisiotherapydd Luke Tobin a'r prosthetydd Paul Drayton, a oedd ill dau'n credu y gallai'r dull hwn weddnewid profiad cleifion.

Rhoddwyd cyflwyniadau eraill gan yr Athro Philip Sewell, o Brifysgol Bournemouth, a'r Athro Phil Reed, o Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe, a esboniodd sut mae seicoleg cleifion yn gwneud cyfraniad hollbwysig at asesu canlyniadau llwyddiannus technoleg gynorthwyol.

Meddai: “Mae cleifion yn fodau ymdeimladol, sy'n addasu yn ôl eu hamgylchedd ac yn ymateb i'w disgwyliadau, ac mae eu hanghenion yn newid dros amser.

“Mae hyn i gyd yn effeithio ar eu cyflwr seicolegol. Mae'r agweddau newidiol a deinamig hyn ar berson yn effeithio ar ei allu i asesu'r dechnoleg gynorthwyol mewn modd goddrychol. Yn ogystal, mae rhwystrau seicolegol i ddefnyddio technolegau cynorthwyol.”

Roedd yr holl glinigwyr a oedd yn bresennol yn cytuno â'i farn, gan gynnwys y meddyg fasgwlaidd ymgynghorol Mr David Bosanquet a Dr Pooja Mukul, meddyg ymgynghorol yn sefydliad Jaipur Foot yn India. Cymerodd y ddau ohonynt ran yn y gweithdy drwy Zoom.

Mae Dr Ransing a'i gydweithwyr bellach yn gobeithio adeiladu ar lwyddiant y digwyddiad a thrafod sut gallant hyrwyddo a meithrin arbenigedd yn Abertawe.

 

Rhannu'r stori