Peirianneg Fecanyddol
Lleolir Peirianneg Fecanyddol ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe, ac mae ein swyddfeydd academaidd, ein labordai arbenigol, ein gweithdai a’n cyfleusterau addysgu wedi’u lleoli ar draws pedwar o'r saith adeilad yn y Gyfadran.
Rydym yn cynnig graddau israddedig BEng a MEng ac rydym hefyd yn cynnig opsiwn i dreulio Blwyddyn Mewn Diwydiant a Blwyddyn Dramor, yn ogystal â chwrs MSc ôl-raddedig. Mae ein holl gyrsiau wedi'u hachredu gan IMechE ac fel adran rydym ymhlith y 100 Uchaf yn y byd yng nghynghrair pynciol byd-eang QS 2023.
Mae ein gweithgareddau ymchwil sy'n newid y byd yn ymdrechu i gynnig yr wybodaeth wyddonol hanfodol sydd ei hangen ar ddiwydiant, cymdeithas ac ar gyfer heriau byd-eang. Mae arbenigedd ymchwil yr Adran Peirianneg Fecanyddol yn canolbwyntio ar ddatblygu'r sylfaen wybodaeth ym meysydd: bioneg a dyfeisiau biofeddygol, ynni gwyrdd, seiberneteg a pheiriannau deallus, argraffu a chaenu a gweithgynhyrchu haen-ar-haen.
Mae ein cyfleusterau a'n hoffer yn cynnwys Labordy Roboteg mawr, Ystafell Realiti Rhithwir, Ffatri Seiber Ffisegol, Gofod Hacio/Arloesi dan arweiniad myfyrwyr, argraffwyr 3D, Twnnel Gwynt a thechnolegau niferus ar gyfer profi deunyddiau a thechnolegau gweithgynhyrchu uwch.
Ar hyn o bryd, rydym hefyd yn gweithio ar y cyd â chynllun effaith amrywiaeth Academi Frenhinol y Peirianwyr i ddatblygu strategaeth ar gyfer y gymuned Peirianneg Fecanyddol gyfan er mwyn mynd i'r afael â’r niferoedd isel o fenywod sy'n astudio Peirianneg Fecanyddol. Ceir rhagor o wybodaeth am ein prosiect ’50% for the Future’ yma.
Fel adran rydym yn darparu cyfleoedd i academyddion, myfyrwyr a diwydiant gydweithio ar heriau'r byd go iawn i ddarparu atebion cadarnhaol fydd yn cael effaith ac sydd o fudd i gynaliadwyedd, i gymdeithas, i’r economi ac o ran newid yn yr hinsawdd, mewn amgylchedd sy’n seiliedig ar gydraddoldeb.