pysgodyn fecanyddol yn nofio mewn pwll nofio

Dylunio a gweithgynhyrchu ar gyfer yr 21ain ganrif

Mae Peiriannydd Mecanyddol yn dylunio ac yn gwneud pethau y mae eu hangen ar gyfer bywyd yn yr 21ain ganrif. Mae hyn yn cynnwys nwyddau modurol, awyrofod, nwyddau ar gyfer cynhyrchu pŵer, adfer ac ailgylchu deunyddiau craidd. Maent yn chwarae rôl wrth ddylunio dyfeisiau bio-feddygol bach a nwyddau ar gyfer cludiant mewn awyren at ddefnydd y fyddin a dinasyddion.

Mae diwydiannau newydd a datblygol megis ynni adnewyddadwy, systemau ailgylchu a dylunio cyfarpar chwaraeon yn dibynnu ar Beirianwyr Mecanyddol hefyd.

Mae Peirianneg Fecanyddol yn ymdrin â'r ystod ehangaf o gynhyrchion ym mhob maes peirianneg. Mae angen i Beirianwyr Mecanyddol fod ar flaen y gad o ran technoleg felly nhw, mae'n debygol, yw'r peirianwyr proffesiynol mwyaf amryddawn ac, felly, y rhai y mae’r galw mwyaf amdanynt yn y farchnad. Mae llawer o beirianwyr yn ymgymryd â rôl fwy rheolaethol wrth i’w gyrfa ddatblygu.

Mae cynhyrchu car newydd, er enghraifft, yn cynnwys meysydd peirianneg arbenigol amrywiol.

  • Prif ddiddordebau’r Peiriannydd Ymchwil fydd ymchwil sylfaenol i agweddau megis hylosgiad tanwydd effeithlon, aerodynameg, systemau rheoli, mecaneg strwythurol a dichonolrwydd mewn gwrthdrawiadau.
  • Bydd y Peiriannydd Dylunio’n defnyddio’r wybodaeth hon, ynghyd â phecynnau cyfrifiadurol amrywiol, i greu dyluniad newydd sy’n cyfuno dull â pherfformiad ac ansawdd â dibynadwyedd.
  • Bydd y Peiriannydd Datblygu’n profi perfformiad y prototeip yn y twnnel gwynt ac ar y trac profi ac, ar y cyd â’r Peiriannydd Dylunio, bydd yn gwneud addasiadau yn ôl yr angen.
  • Bydd y Peirianwyr Gweithgynhyrchu’n datblygu systemau gweithgynhyrchu i greu’r car mewn ffordd effeithiol o ran cost, a bydd hyn yn cynnwys lefelau uchel o awtomatiaeth, gyda defnydd helaeth o systemau cyfrifiadurol, i gwblhau’r broses weithgynhyrchu a rheoli’r system weithgynhyrchu.