Peirianneg Sifil
Mae Peirianneg Sifil wrth wraidd ein hamgylchedd adeiledig - gan gynnwys ffyrdd, rheilffyrdd, twnelau, pontydd, adeiladau, cronfeydd dŵr, porthladdoedd a llawer mwy. Mae Peirianwyr Sifil yn chwarae rôl hollbwysig wrth ddylunio, adeiladu a chynnal a chadw'r isadeiledd rydym ni i gyd yn dibynnu arno, ac mae ganddynt gyfrifoldeb allweddol am ddarparu atebion cynaliadwy i'r heriau y mae'r gymdeithas yn eu hwynebu, gan fynd i'r afael â materion fel yr argyfwng hinsawdd, y targed sero carbon net, tywydd eithafol a thrychinebau naturiol yn gyffredinol.
Os ydych chi'n unigolyn creadigol a chwilfrydig â meddylfryd technegol, sy'n mwynhau her, ac os ydych chi'n awyddus i chwarae rôl rhagweithiol wrth wella cymunedau a bywydau pobl, mae Peirianneg Sifil yn ddelfrydol i chi.
Mae ein graddau'n rhoi addysg gytbwys i fyfyrwyr, lle caiff egwyddorion sylfaenol gwyddor peirianneg eu cyfuno ag elfennau ymarferol dylunio a rheoli adeiladu. Caiff yr agweddau ymarferol eu darparu ar y cyfan drwy brosiectau realistig mewn cydweithrediad agos â pheirianwyr sy'n ymarfer ym myd diwydiant. Mae'r cyfuniad hwn o sgiliau yn rhoi mantais i'n graddedigion, gan greu galw mawr amdanynt mewn sectorau gwahanol yn y diwydiant.