Ein Harbenigedd Ymchwil

Ynni a'r Amgylchedd

wave image

Ein harbenigedd mewn Ynni a'r Amgylchedd

Mae ein hymchwilwyr yn defnyddio modelu cyfrifiadol newydd, y cyfleusterau arbrofol diweddaraf ac offer maes i ymchwilio i brosesau arfordirol, hydrometeoroleg, deinameg afonydd, llifogydd, a rhyngweithiadau amgylcheddol systemau ynni morol, gan gwmpasu ymchwil sylfaenol a chymhwysol.  

Peirianneg Gyfrifiadurol

Peirianneg Gyfrifiadurol

Ein Harbenigedd Peirianneg Gyfrifiadurol

Mae ein hymchwilwyr yn datblygu dulliau cyfrifiadol blaengar i efelychu amrywiaeth o ffenomenau ffisegol, gan gynnwys hylifau, solidau, symudiad tonnau a phroblemau aml-ffiseg.  Mae'r ymchwil yn ymwneud â datblygiadau sylfaenol mewn dulliau rhifiadol, cynhyrchu rhwyllau, modelau wedi’u symleiddio (‘reduced order models’) a dysgu peirianyddol yn ogystal â'u defnydd wrth ddelio â phroblemau diwydiannol.

Solidau, Strwythurau a Systemau Cypledig

Graphic showing structures

Ein Harbenigedd mewn Solidau, Strwythurau a Systemau Cypledig

Mae ein hymchwilwyr yn datblygu strategaethau cyfrifiadol arloesol i efelychu ystod eang o broblemau ffisegol a chymwysiadau peirianneg sy'n cynnwys yn fras meysydd solidau, strwythurau a systemau cypledig. Mae'r prif bynciau yn cynnwys mecaneg solidau cyfrifiadol, modelu deunyddiau, mecaneg torri, cyswllt ffrithiannol, cyfryngau gronynnog, geomecaneg a rhyngweithiadau rhwng strwythur a hylif.

Deunyddiau Peirianneg Sifil ac Ymarfer Cynaliadwy

Water tap

Ein Harbenigedd mewn Deunyddiau Peirianneg Sifil ac Ymarfer Cynaliadwy

Rydym yn defnyddio ein cyfleusterau labordy a'n harbenigedd traws-ddisgyblaethol sylweddol i weithio mewn partneriaeth â diwydiant er mwyn ymchwilio i ystod amrywiol o ddeunyddiau adeiladu newydd a chynaliadwy, gan ganolbwyntio ar ddeunyddiau carbon-isel a chynaliadwy. 

Peirianneg Drafnidiaeth

Bridge structure

Ein Harbenigedd mewn Peirianneg Drafnidiaeth

Mae isadeileddau trafnidiaeth yn cynnig sylfeini hanfodol i'n cymdeithas. Mae ein hymchwilwyr yn defnyddio technolegau arloesol i ddatblygu peirianneg drafnidiaeth wydn a chlyfar i fynd i'r afael â'r problemau sylweddol mae'r argyfwng hinsawdd yn eu hachosi. Mae'r ymagweddau hyn yn cynnwys synhwyrydd clyfar sy’n pweru ei hun, rhwydwaith synhwyro diwifr ar gyfer monitro trafnidiaeth, dysgu peirianyddol ar sail ffiseg, a chywain ynni o isadeileddau trafnidiaeth

Peirianneg Sifil, Cenhadaeth Ddinesig a Chymdeithas

Children learning on a beach

Ein Harbenigedd mewn Peirianneg Sifil, Cenhadaeth Ddinesig a Chymdeithas

Gan weithio mewn partneriaeth ar brosiectau amlddisgyblaethol gyda busnesau, awdurdodau lleol, ysgolion, sefydliadau cymunedol a grwpiau eraill, ein nod yw darparu mewnwelediad ac arbenigedd ar sail peirianneg sifil i gynorthwyo prosiectau sydd o bwys i gymdeithas.