Trosolwg
Ar ôl derbyn fy ngraddau BSc ac MSc yn 2002 o Brifysgol Tsinghua, China, symudais i Abertawe, Cymru, i ymgymryd â swydd cymrawd ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe tra’n cyflawni fy ymchwil PhD ym Mheirianneg Gyfrifiannol. Rwyf wedi bod yn gweithio ym Mhrifysgol Abertawe ers hynny ac ar hyn o bryd rwy’n athro cadeiriol ym Mheirianneg Gyfrifiannol. Mae fy ngwaith ymchwil
(http://engweb.swan.ac.uk/~cfli/) yn canolbwyntio’n bennaf ar Beirianneg Gyfrifiannol a Chloddio Data yn seiliedig ar Ffiseg, Ynni, Peirianneg Sifil a Strwythurol, a Deunyddiau Heterogenaidd. Mae llawer o fy ngwaith ymchwil yn golygu fy mod yn cydweithio’n agos â diwydiannau yn enwedig y sectorau adeiladu ac isadeiledd, yn cynnwys ARUP Ltd., Costain Ltd., Bauer Ltd. a Soletanche Bachy Ltd. Yn ogystal â fy ngwaith academaidd ym Mhrifysgol Abertawe, rwy’n Brif-olygydd Engineering Computations (https://www.emerald.com/insight/publication/issn/0264-4401).