Olwyn Falkirk - enghraifft o beirianneg sifil

Mae’n cynnwys mwy nag adeiladau crand yn unig!

Wrth feddwl am beirianneg sifil, rydym yn aml yn meddwl am adeiladau crand, megis Tŵr Eiffel, Taj Mahal neu Dŷ Opera Sydney, ond mae’r maes yn cynnwys mwy nag adeiladau crand yn unig.

Ystyriwch y strwythurau sydd o’ch cwmpas ac sy’n cysylltu’r byd – ffyrdd, rheilffyrdd, pontydd, argaeau, camlesydd, systemau carthffosiaeth a chyflenwadau dŵr a phŵer – gan wneud ein pentrefi, ein trefi a’n dinasoedd yn weithredol i’r bobl sy’n byw ynddynt. Byddai’n anodd iawn i ni fyw heb y pethau hyn ac eto, mae’n debygol ein bod ni’n cymryd y pethau hyn yn ganiataol.

Ystyriwch Isambard Kingdom Brunel a Joseph Bazalgette, er enghraifft, sef y peirianwyr amlwg o oes Fictoria a achubodd Lundain rhag colera drwy adeiladu systemau newydd ac eang o garthffosydd dan y ddaear. Dyma rywbeth na all pobl Llundain oroesi hebddo ond, eto i gyd, ni ellir ei weld o gwbl.

Gellir dadlau mai hon yw’r ddisgyblaeth hynaf ym maes peirianneg (meddyliwch am y person cyntaf erioed a adeiladodd do uwch ei ben, neu a osododd foncyff coeden dros afon i gyrraedd yr ochr arall ohoni); mae peirianneg sifil yn ymdrin â dylunio, adeiladu a chynnal yr amgylchedd a adeiladir yn ffisegol ac yn naturiol. Yn ogystal â bod yn gyfrifol am adeiladu'r isadeileddau rydym yn dibynnu arnynt bob dydd, mae Peirianwyr Sifil hefyd yn sicrhau eu bod yn gweithredu'n effeithiol a'u bod yn gallu addasu yn wyneb heriau megis twf poblogaeth, newid yn yr hinsawdd a thrychinebau naturiol.

Ceir llawer o fathau gwahanol o arbenigedd ym maes peirianneg sifil, gan gynnwys: adeiladol, amgylcheddol, strwythurol, daeargrynfeydd, arfordirol, arolygu, cludiant, trefol, geo-dechnegol a mwy.

Gall peirianwyr sifil ddod o gefndiroedd gwahanol, gan gynnwys amrywiaeth eang o swyddi, ac maent yn rhan o broffesiwn cyffrous gan eu bod yn llunio’r byd rydym yn byw ynddo’n llythrennol.