Dr Yunqing Xuan

Athro Cyswllt, Civil Engineering

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 606565

Cyfeiriad ebost

113
Llawr Cyntaf
Y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rwyf wedi hyfforddi fel peiriannydd ond rydw i hefyd yn feteorolegydd hydro sydd ag ystod o ddiddordebau ymchwil rhyngddisgyblaethol ym maes modelu prosesau hydrolegol a’i berthynas â’r atmosffer a chymdeithasau. O bersbectif ymarferol, rwyf wedi bod yn gweithio fel ymarferydd ac ymchwilydd mewn sawl maes: hydroleg a hydrometeoroleg gan ddefnyddio modelu cyfrifiadurol uwch er mwyn astudio digwyddiadau eithafol; radar tywydd a ‘nowcasting’ o ran glaw (rhagolygon tymor byr iawn); rheoli risg llifogydd ac effaith newid yn yr hinsawdd/addasu yn y sector dŵr. Fel FRMetS a FIMA, rwy'n ymdrechu i gyfrannu at gymunedau proffesiynol a rhai dysgwyr. Mae hyn yn cynnwys fy nghyfrifoldebau eraill fel Is-gadeirydd Canolfan Leol Cymru'r Gymdeithas Feteoroleg Frenhinol, aelod o fwrdd golygyddol y cyfnodolyn ‘Weather’ ac wrth helpu i gynnal cynadleddau rhyngwladol i'r Institute of Mathematics and Its Applications (IMA). Rwy'n croesawu darpar fyfyrwyr PhD yn y meysydd canlynol neu feysydd perthynol agos. Mae croeso i chi gysylltu gan ddefnyddio'r wybodaeth gyswllt ar y dudalen hon: Effaith newid yn yr hinsawdd ar ddigwyddiadau hydrolegol eithafol ac addasiadau. Y defnydd o gymhwysiadau GIS/synhwyro o bell mewn modelu hydrolegol a rheoli risg llifogydd.

Radar Tywydd, NWP a'u defnydd mewn modelu hydrolegol a rheoli risg llifogydd.

Meysydd Arbenigedd

  • Hydroleg a modelu hydrolegol
  • Modelu hydrometeorolegol
  • Rheoli risg llifogydd a modelu llifogydd
  • Radar Tywydd a ‘Nowcasting’ o ran glaw
  • Effaith Newid yn yr Hinsawdd ar Adnoddau Dŵr ac Eithafion
  • GIS, Modelu ystadegol a modelu deallusrwydd artiffisial