Dr William Bennett

Tiwtor Addysgu, Civil Engineering

Cyfeiriad ebost

Swyddfa Academaidd - A_122
Llawr Cyntaf
Adeilad Canolog Peirianneg
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr William Bennett yn Diwtor Addysgu yn Adran Peirianneg Sifil Prifysgol Abertawe. Cwblhaodd radd MEng mewn Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Abertawe, ac yna PhD mewn Peirianneg Sifil, yn ymchwilio i effeithiau newid yn yr hinsawdd ar lifogydd arfordirol ac erydu. Mae ei ymchwil yn cwmpasu modelu prosesau hydrodynamig a morffolegol mewn cyd-destunau arfordirol, gan gynnwys rhyngweithio â'r byd natur, newidiadau o ran defnydd tir, a rheoli risg llifogydd. Mae William yn dysgu myfyrwyr peirianneg ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig ac mae'n angerddol am wreiddio a datblygu sgiliau trwy'r rhaglenni gradd.

Meysydd Arbenigedd

  • Modelu cyfrifiadol
  • Rheoli risg arfordirol a llifogydd
  • Effaith newid hinsawdd ar amgylchedd yr arfordir
  • Hydrodynameg a morffodynameg arfordirol ac aberol
  • Peirianneg arfordirol sy'n seiliedig ar natur