Yr Athro Perumal Nithiarasu

Cadair Bersonol, Civil Engineering

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 513267

Cyfeiriad ebost

A_107
Llawr Cyntaf
Adeilad Canolog Peirianneg
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Perumal Nithiarasu (PN) yn Athro ac yn Gyfarwyddwr Ymchwil yng Ngholeg Peirianneg, Prifysgol Abertawe. Ef hefyd yw Dirprwy Bennaeth y Coleg Peirianneg ac ar hyn o bryd ef yw Deon Arweiniad Academaidd (Effaith Ymchwil) Prifysgol Abertawe. Roedd PN hefyd yn Bennaeth Canolfan Zienkewicz ar gyfer Peirianneg Gyfrifiannol am bum mlynedd. Mae PN wedi bod yn aelod o nifer o bwyllgorau Prifysgol Abertawe yn cynnwys Gweithgor Ymchwil AD fel cadeirydd yn arwain y cais ar gyfer gwobr ragoriaeth AD ac aelod o bwyllgorau effaith ac apêl REF14. Mae PN wedi cynnig a gweithredu darlith gyhoeddus wedi’i henwi ar ôl tad y dull elfen feidraidd, yr Athro O.C. Zienkiewicz. Cryfhaodd y ddarlith hon berthynas Peirianneg Abertawe gyda nifer o gymdeithasau yn cynnwys LSW, SWIEET, RAEng ac IACM. Mae rhai o siaradwyr gwadd y ddarlith hon wedi cynnwys y Fonesig Anne Dawling, yr Arglwydd Kumar Bhattacharya a Syr Martyn Poliakoff.

Wedi’i hyfforddi fel Peiriannydd Mecanyddol, mae gan PN brofiad helaeth o ddysgu disgyblaethau amrywiol i fyfyrwyr peirianneg. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys dynameg hylif cyfrifiannol, peirianneg fiofeddygol ac yn ddiweddar deallusrwydd artiffisial. Mae e wedi bod yn gweithio o fewn y meysydd hyn ers dros bum mlynedd ar hugain ac wedi cyhoeddi nifer o erthyglau a llyfrau. Yn adnabyddus yn rhyngwladol am ei waith, dyfarnwyd medal arian Zienkiewicz ICE Llundain i PN yn 2002, gwobr Archwiliwr Ifanc ECCOMAS yn 2004 a’r Gymrodoriaeth Uwch EPSRC fawreddog yn 2006. Ar hyn o bryd, mae’r grŵp a arweinir gan PN yn cynnwys deg aelod o staff academaidd, dros 20 myfyriwr ymchwil ac ôl-ddoethurol. Mae PN yn gyd-gadeirydd dwy gynhadledd ryngwladol, yn cynnwys y gyfres adnabyddus Peirianneg Fiofeddygol Mathemategol a Chyfrifiannol (CMBE, www.compbiomed.net) a sylfaenwyd gan PN. PN yw prif olygydd a sylfaenydd y cylchgrawn International Journal for Numerical Methods in Biomedical Engineering, a gyhoeddir gan Wiley-Blackwell. Etholwyd PN i gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru 2018.

Meysydd Arbenigedd

  • Peirianneg Gyfrifiannol
  • Peirianneg Fiofeddygol
  • Gefell Digidol
  • Llif Gwaed
  • Dynameg Hylif Cyfrifiannol
  • Dull Elfen Feidraidd
  • Deallusrwydd Artiffisial

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Dynameg Hylif Cyfrifiannol
Dull Elfen Feidraidd
Peirianneg Fecanyddol

Prif Wobrau Cydweithrediadau