Professor Rubén Sevilla

Yr Athro Rubén Sevilla

Athro, Civil Engineering

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602040

Cyfeiriad ebost

Swyddfa Academaidd - A_128
Llawr Cyntaf
Adeilad Canolog Peirianneg
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Cefais fy PhD yn 2009 gan Ysgol Beirianneg Sifil UPC-BarcelonaTech, sy’n cael ei raddio’n 23ain yn y byd ym maes Peirianneg Sifil a Strwythurol, ar ôl cael fy ngradd 5 mlynedd o Ysgol Mathemateg UPC, oedd yn y safle cyntaf yn Sbaen ers dros ddegawd. Yn ystod y cyfnod hwn, cefais dair gwobr gan y Gymdeithas Ewropeaidd ar gyfer Dulliau Cyfrifiannol mewn Gwyddorau Cymhwysol, Cymdeithas Sbaen ar gyfer Dulliau Cyfrifiannol mewn Peirianneg a'r cyhoeddwr Birkhauser-Verlag am y traethawd ymchwil gorau yn Sbaen ac Ewrop. Yn 2009 symudais i Abertawe, i weithio yng Nghanolfan enwog Zienkiewicz ar gyfer Peirianneg Gyfrifiannol fel cynorthwyydd ymchwil ôl-ddoethurol gan ddod yn aelod o’r gyfadran yn 2012. Ers hynny, rwyf wedi derbyn nifer o anrhydeddau a gwobrau gan y cyhoeddwr EMERALD a gan Lywodraeth Cymru.

Fi hefyd yw Llywydd presennol Cymdeithas Mecaneg Gyfrifiannol y DU ac rwyf hefyd yn dal nifer o swyddi yng Nghymdeithas Dulliau Cyfrifiannol Ewrop mewn Gwyddorau Cymhwysol a Chymdeithas Ryngwladol Mecaneg Gyfrifiannol.

Meysydd Arbenigedd

  • Peirianneg Gyfrifiannol
  • Elfennau Meidraidd trefn uchel
  • Dulliau Rhifiadol
  • Modelu Trefn Is
  • Dynameg Hylif Cyfrifiannol
  • Electromagneteg Gyfrifiannol
  • Dylunio drwy Gymorth Cyfrifiadur
  • Cynhyrchu rhwyllau

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae cysylltiad agos rhwng fy addysgu a'm hymchwil. Rwy'n addysgu datrys problemau mewn Peirianneg gan ddefnyddio rhaglennu i fyfyrwyr Israddedig Blwyddyn 2 Peirianneg Sifil a Dadansoddiad Cyfrifiannol Elfen Meidraidd i fyfyrwyr ôl-raddedig yn y MEng Peirianneg Sifil, MEng Peirianneg Awrofod, MSc mewn Peirianneg Sifil, MSc mewn Peirianneg Awyrofod, MSc mewn Peirianneg Gyfrifiannol a'r MSc Rhyngwladol mewn Mecaneg Gyfrifiannol.

Rwyf hefyd yn gyfrifol am fodiwl Traethawd Ymchwil yr MSc Rhyngwladol mewn Mecaneg Gyfrifiannol a'r modiwl Traethawd Hir Ymchwilwyr sy'n Ymweld sy’n cael ei gynnig i fyfyrwyr cyfnewid.

Ar hyn o bryd rwy'n gydgysylltydd yr MSc Rhyngwladol mewn Mecaneg Gyfrifiannol (Erasmus Mundus gynt) ac yn Gydgysylltydd Blwyddyn 2 y radd Peirianneg Sifil.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau
Professor Rubén Sevilla

Yr Athro Rubén Sevilla

Athro, Civil Engineering
+44 (0) 1792 602040
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig