Croeso i gyfleusterau peirianneg o'r radd flaenaf Prifysgol Abertawe lle mae arloesi'n cwrdd â rhagoriaeth! Rydym yn ymfalchïo'n fawr mewn darparu amgylchedd dynamig sy'n ysbrydoli darpar beirianwyr a gwyddonwyr i ddatgloi eu potensial llawn a llunio'r  byd o'n cwmpas.

Dewch i mewn i'n labordai sy'n cynnig yr offer a'r technolegau uwch diweddaraf sy'n bodloni safonau diwydiant. O argraffu 3D a roboteg i ddylunio ac efelychu â chymorth cyfrifiadur, cewch gyfle i ddefnyddio amrywiaeth eang o offer sy'n meithrin creadigrwydd ac yn sbarduno ymchwil sy’n torri tir newydd mewn ystod eang o ddisgyblaethau. Beth bynnag sy'n ennyn eich diddordeb - peirianneg fecanyddol, sifil, deunyddiau neu awyrofod - rydym yn cynnig adnoddau arloesol a chymorth i'ch helpu i ffynnu yn eich dewis faes.