Chemical engineering students in chemical lab

Yn yr Adran Peirianneg Gemegol, mae ein cyfleusterau'n cynnwys offer o'r radd flaenaf sy'n debyg iawn i'r tasgau a gyflawnir gan ddiwydiant. Drwy ddefnyddio ymagwedd ymarferol, rydym yn ceisio rhoi i’n myfyrwyr y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i ragori yn eu gyrfaoedd ar ôl graddio o Abertawe.

CANOLFAN BEILOT JACK RICHARDSON

Mae gennym Ganolfan Beilot Jack Richardson sy'n cynnwys amrywiaeth o offer ar raddfa beilot gan gynnwys:

  • Dwy Golofn Ddistyllu (wedi'u hadeiladu'n arbennig ar ein cyfer ni yn Abertawe)
  • Dau Anweddydd Haen
  • Nifer o fathau gwahanol o Gyfnewidwyr Gwres
  • Gwelyau llifol
  • Rig pilenni uwch-hidlad
  • Rig pilenni osmosis gwrthdro
  • Rig gwlybaniaeth a chlystyru

Rydym hefyd yn cynnal modiwl gweithrediadau uned yn y labordy (EG220) lle mae myfyrwyr yn dylunio ac yn adeiladu a phrofi eu rig graddfa beilot eu hunain o'r 'brîff' y rhoddwyd iddynt, gan ddangos iddynt y math o waith y byddant yn ei wneud mewn diwydiant unwaith byddant wedi graddio o Abertawe.

LABORDY PEIRIANNEG GEMEGOL

Yn y labordy, rydym yn cynnal 'cemeg fainc' draddodiadol ar gyfer hyd at 70 o fyfyrwyr, ac mae gennym hefyd nifer o ddarnau o gyfarpar peirianneg proses graddfa pen mainc megis gwelyau llifol, colofnau distyllu a chyfnewidwyr gwres. Caiff y rhain eu defnyddio gan fyfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf cyn iddynt 'raddio' i'r cyfarpar peilot yn B013 yn yr ail flwyddyn.

Yn C018, (yn CO18a) mae gennym labordy sy'n cynnwys cyfarpar dadansoddol ar gyfer dulliau megis:

  • Sbectrometreg UV-Vis
  • FT-IR (Sbectrometreg Is-goch) 
  • Sbectrometreg fflworoleuedd
  • Cromatograffeg Nwy (GC)
  • HPLC (cromatograffeg hylif perfformiad uchel)  
  • Sbectrometreg Allyriadau Atomig Plasma Microdon (MP-AES)
  • Cromatograffeg Ïonau