dau fyfyriwr mewn cotiau labordy yn gwneud arbrawf gemegol

Yn rhan o’n bywyd bob dydd

Mae’n debygol bod y rhan fwyaf o’r pethau rydych chi’n eu defnyddio bob dydd wedi bod trwy ryw fath o broses gemegol cyn iddynt eich cyrraedd. Pe na bai hyn yn digwydd, ni fyddwch chi’n gallu eu defnyddio.

Er enghraifft: Mae setiau teledu, systemau cerddoriaeth a chyfrifiaduron yn dod yn wreiddiol o olew crai a mwynau. Defnyddir y rhain i gynhyrchu metelau, lled-ddargludyddion, gwydr a phlastigion, ar raddfa fawr, drwy beirianneg gemegol. Dosberthir y deunyddiau hyn i beirianwyr disgyblaethau eraill er mwyn iddynt gynhyrchu cydrannau ar gyfer y cynnyrch terfynol rydych chi’n eu gweld a’u defnyddio, ynghyd â’u cydosod.

Mae bron popeth rydych chi’n ei gadw yn yr oergell wedi bod drwy ryw fath o broses beirianegol hefyd. Mae cynnyrch llaeth a sudd ffrwythau wedi bod yn destun peirianneg gemegol. Er enghraifft, mae gan iogwrt byw facteria o’r math cywir ynddo ac mae sudd ffrwythau’n faethlon iawn er ei bod hi’n debygol ei fod wedi’i gynhyrchu o dewsudd. Os oes siocled yn yr oergell, yna bydd hwn hefyd yn ganlyniad peirianneg prosesau a reolir yn fanwl.

Mae’r oergell yn gynnyrch peirianneg prosesau. Mae’n ymestyn ‘oes silff’ bwyd drwy ei gadw ar dymereddau lle mae prosesau biolegol naturiol, megis twf ffyngoedd a bacteria, bron wedi darfod. Mae hyn yn ein helpu i wneud defnydd gwell o’r bwyd rydym yn ei brynu neu’n ei dyfu ac felly, rydym yn gwastraffu llai ohono. Mae llawer o’r bwyd hwn wedi’i reweiddio pan gaiff ei gludo a’i storio mewn siopau ac archfarchnadoedd. Ni waeth pa eitemau rydych chi’n eu defnyddio yn yr ystafell ymolchi (sebon, siampŵ, gel ymolchi, past dannedd), mae’n debygol bod y rhain wedi bod drwy broses beirianegol hefyd.

P’un a ydych yn darllen yr wybodaeth hon ar bapur neu ar sgrîn arddangos, mae peirianneg gemegol wedi’n helpu i greu’r cyfryngau hyn.

Dyma ychydig enghreifftiau yn unig – sawl enghraifft arall a allwch chi feddwl amdani?

Mae peirianwyr cemegol yn chwarae rôl bwysig wrth bennu ein safon byw a’n hansawdd bywyd. Mae eu gweithgareddau’n ymwneud â defnyddio cysyniadau gwyddonol a pheirianegol i ddylunio prosesau effeithlon, gan droi deunyddiau craidd yn nwyddau gwerthfawr i bobl eu defnyddio.

Mae peirianwyr cemegol yn defnyddio’u sgiliau i optimeiddio’r prosesau hyn. Defnyddir adnoddau naturiol yn gynaliadwy a chynhyrchir ein cynnyrch bob dydd yn economaidd. Mae peirianwyr cemegol yn creu ac yn gweithgynhyrchu’r deunyddiau a’r cynnyrch rydym yn eu defnyddio bob dydd. Mae’r rhain yn cynnwys plastigion, deunyddiau fferyllol, cynnyrch gofal personol, petrocemegion, agrocemegion, bio-ddeunyddiau a sment.