Ein Harbenigedd Ymchwil

Male scientist turning distiller cog

Prosesau Uwch

Mae'r ymchwil yn cynnwys:

Hylifau Cymhleth: Nodweddu rheolegol, Microhylifeg, technolegau gofal iechyd, patrymau llif aml-gam, gronynnog a chymhleth.

Systemau Proses: Dwysáu prosesau, modelu/rhaglennu mathemategol.

Lightbulb with tree inside, water drop and CO button

Adnoddau Cynaliadwy

Mae'r ymchwil yn cynnwys:

Ynni: Storio ynni trydanol, ailgylchu batris, celloedd solar, hydrogen fel fector ynni, hydrocarbonau cynaliadwy, dargludyddion trydan y genhedlaeth nesaf.

Dŵr: Pilenni ar gyfer trin a phuro dŵr, hidlo micro a nano, trin Osôn, rhyngweithiadau coloidaidd mewn systemau pilenni.

Datgarboneiddio: Dal carbon a'i ddefnyddio, bioburfa, arsugno amnewidiadau mewn gwasgedd, electrolysis CO2.

Gwastraff a'r Amgylchedd: Cymwysiadau gwastraff diwydiannol, nodweddu microblastigion ac ailgylchu, bioadfer.

Microscopic particle image

Deunyddiau Cymhwysol

Mae'r ymchwil yn cynnwys:

Technolegau Deunyddiau a Gweithgynhyrchu: Pilenni, Caenau, Arsugnyddion, Polymerau a Serameg.

Gwyddor Arwynebau a Thechnolegau Gronynnau: Gwlychwyr, Coloidau, Nodweddu gronynnau, Bioffilmiau, Biogyrydu, Biolygru.

Catalyddu, Synwyryddion, Cemeg Gynaliadwy: Synwyryddion electrogemegol, Electrogatalyddion, Thermogatalyddion, Cemeg werdd.