Chemistry

Astudio Cemeg

Mae gan yr Adran Gemeg, sydd wedi'i lleoli ar Gampws Parc Singleton, labordai rhagorol, pwrpasol sy'n ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Mae integreiddio rhwng yr adran a'r Coleg Peirianneg, yr Ysgol Feddygaeth ac adrannau eraill yn y Coleg Gwyddoniaeth yn darparu amgylchedd o ragoriaeth ymchwil. Mae hyn yn caniatáu i fyfyrwyr a staff ddyfeisio, arloesi a datblygu cynhyrchion mewn ffordd sy'n effeithio ar yr heriau byd-eang presennol.

Mae'r adran yn cyflwyno cwricwlwm cemeg modern gydag addysgu arloesol. Bydd myfyrwyr israddedig yn dysgu o efelychu cyn-labordy ar-lein, gan ganiatáu mwy o amser ymarferol yn y labordy.

Mae ein graddau wrthi'n cael eu hachredu gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i weithio ar brosiectau ymchwil gyda'n tîm ymchwil gweithredol, gan ennill sgiliau ymchwil y mae cyflogwyr yn galw amdanynt.

Mae diddordebau ymchwil yn cynnwys Ynni, Iechyd, Moleciwlau a Deunyddiau Newydd ac Uwch; a Dŵr a'r Amgylchedd.