Llun o'r Athro Guy ar y llwyfan yn y CxO Executive Summit i dderbyn gwobr SEMI Academia Impact.

Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi cael ei anrhydeddu drwy ddyfarnu gwobr nodedig iddo, Gwobr Effaith SEMI Academia, er mwyn cydnabod ei gyfraniadau rhagorol at ymchwil, arloesi a chydweithredu rhwng diwydiant a'r gymuned academaidd yn sector lled-ddargludyddion Ewrop.

Cyflwynwyd y wobr i'r Athro Owen Guy yn ystod Uwchgynhadledd Gweithredwyr CxO yn SEMICON Europea 2025 a gynhaliwyd ym Munich, yr Almaen. Dyma un o ddigwyddiadau mwyaf blaenllaw'r diwydiant, sy'n dathlu unigolion y mae eu gwaith yn cyfuno rhagoriaeth wyddonol ag effaith ar y byd go iawn yn yr ecosystem lled-ddargludyddion.

Ac yntau'n Gyfarwyddwr Canolfan NanoIechyd Prifysgol Abertawe ac yn aelod o'i Chanolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol (CISM), mae'r Athro Guy wedi chwarae rôl allweddol wrth hyrwyddo addysg ac ymchwil ym maes lled-ddargludyddion.

Mae wedi cyfrannu at raglenni cydweithredol megis Fforymau Doniau SEMI a ChipQuest Challenge, ac mae'n gweithio fel aelod o gonsortia Ewropeaidd ar silicon carbid, graffîn a gweithgynhyrchu uwch.

Meddai'r Athro Guy, Pennaeth Cemeg ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae'n anrhydedd mawr gen i dderbyn Gwobr Effaith SEMI Academia. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu ymdrech gyfunol ein cymuned i hyrwyddo addysg, allgymorth a sgiliau ym maes lled-ddargludyddion - o ymchwil arloesol i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ddoniau lled-ddargludyddion. Rwy'n falch o'n gwaith gyda SEMI a'n rôl wrth lunio tirwedd arloesi Ewrop."

Mae Prifysgol Abertawe'n arweinydd cenedlaethol ym maes ymchwil lled-ddargludyddion, wedi'i hangori gan ei chyfleuster CISM y buddsoddwyd £29.9 miliwn ynddo ar Gampws y Bae. Gyda'i hystafelloedd glân, ei labordai tyfu deunyddiau a'i galluoedd pecynnu dyfeisiau o'r radd flaenaf, mae CISM, ar y cyd â'i phartneriaid proffil uchel ym myd diwydiant, yn cefnogi datblygiadau arloesol mewn dyfeisiau cwantwm, synwyryddion a systemau ynni.

Wrth siarad am effaith yr Athro Guy, meddai Laith Altimime, Llywydd SEMI Europe: "Mae gwydnwch sector lled-ddargludyddion Ewrop yn dibynnu ar arweinwyr sydd â gweledigaeth, fel yr Athro Guy. Yn ogystal â datblygu technoleg, maen nhw hefyd yn meithrin y doniau a fydd yn mynd â’n diwydiant i'r lefel nesaf.

"Mae ei ymroddiad i arweinyddiaeth, mentora a chydweithredu yn adlewyrchu'r rhinweddau sydd eu hangen ar Ewrop i gryfhau ei phiblinell doniau a'i gallu i gystadlu'n fyd-eang. Rydyn ni'n falch o anrhydeddu mentor sy'n parhau i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ym maes lled-ddargludyddion.

Rhagor o wybodaeth am Adran Gemeg Prifysgol Abertawe.

Rhannu'r stori