Molecules

Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021: Rydym yn falch bod 97.9% o'n cyhoeddiadau ymchwil yn arwain y ffordd yn fyd-eang ac yn rhagori'n rhyngwladol – camp arbennig o ystyried ei bod yn adran newydd ag amgylchedd sydd wrthi'n cael ei greu.

Mae ymchwil cemeg ym Mhrifysgol Abertawe'n ddatblygiad technolegol amlddisgyblaethol arloesol mewn themâu allweddol megis ynni a'r amgylchedd; iechyd; moleciwlau a pholymerau newydd ac uwch; nanodechnolegau a deunyddiau uwch. Mae'r mentrau ymchwil hyn yn croesi ffiniau traddodiadol y ddisgyblaeth, yn integreiddio meysydd craidd cemegau anorganig, organig, ffisegol a dadansoddol ac yn croestorri â disgyblaethau gwyddonol eraill, meddygaeth a pheirianneg.

Mae ein hymchwil ryngwladol yn rhychwantu popeth o wyddoniaeth arwyneb, gan ddefnyddio paladrau moleciwlaidd a thechnegau sbectrosgopig, i systemau darparu cyffuriau newydd sy'n defnyddio nanoronynnau, i dechnegau ailgylchu plastig arloesol, syntheseiddio polymerau, storio ynni, dyfeisiau lled-ddargludol a deunyddiau anorganig newydd ar gyfer dyfeisiau opto-electronig. Rydym yn cydweithredu'n agos â byd diwydiant i roi ein hymchwil ar waith yn y byd go iawn a'i masnacheiddio. 

Themâu Ymchwil

Cemeg Iechyd, Bwyd a Chyffuriau

Mae datblygu cyffuriau newydd posibl, fformiwleiddiadau cyffuriau a systemau dosbarthu yn ffocws ymchwil pwysig iawn i'r Adran Gemeg. Mae arbenigedd ymchwil cyfunol y staff Cemeg sy'n ymwneud â'r maes ymchwil hwn yn cwmpasu ac yn archwilio gwahanol feysydd mawr o ddarganfod cyffuriau ac ymchwil iechyd, o ddylunio cyffuriau in silico i werthuso datrysiadau meddygol newydd mewn modelau cyn-glinigol.

Cemeg Arwynebau a Dadansoddol

Mae ein meysydd ymchwil yn cynnwys Sbectrosgopeg Raman a FTIR; Sbectrosgopeg ffotoelectron pelydr-X (XPS); Microsgopeg Grym Atomig (AFM); Delweddu Fflworoleuedd; Microsgopeg electron (SEM a TEM); Microsgopeg twnelu sganio (STM) a NMR.

Cemeg Ynni

Mae ein meysydd ymchwil yn cynnwys storio a chynhyrchu ynni; batrïau ac uwch-gynwysyddion; ffotocemeg, catalyddion a diwygio solar biomas; cemeg olew a nwy a cemeg gwyrdd.

Cemeg Deunyddiau

Cemeg Deunyddiau

Mae ein meysydd ymchwil yn cynnwys synthesis polymer; ailgylchu deunyddiau; deunyddiau 2D, 'graphene', deunyddiau electronig; bioddeunyddiau a pheirianneg meinwe; sgaffaldau clyfar; strwythurau meicro a nano; microfluidics a delweddu.

Cemeg lled-ddargludyddion

Mae ein meysydd ymchwil yn cynnwys dyfeisiau silicon a phrosesu; ffotocemeg a lithograffeg; lled-ddargludyddion Cyfansawdd; lled-ddargludyddion cenhedlaeth nesaf; nanodefnyddiau a dyfeisiau a cemeg plasma, ysgythru a dyddodiad.

Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig

Mae ein hymchwil yn cyfrannu at lwyddiant y nodau penodol hyn.