Chemistry student looking down a microscope in the chemistry lab

Cafodd ein cyfres newydd sbon o labordai addysgu cemeg eu dylunio a’u hadeiladu i fod y labordai addysgu gorau yn y DU sy’n cynnwys offer o’r radd flaenaf. 

LABORDAI GWLYB

Yn ein prif labordai gwlyb israddedig, mae gennym 40 o gypyrddau gwyntyllu pwrpasol ar gyfer sesiynau ymarferol ar lefel israddedig, sy’n ein galluogi i addysgu sgiliau sylfaenol ac ymarferol allweddol i hyd at 80 o fyfyrwyr cemeg. Ochr yn ochr â'r offer y byddech yn disgwyl eu gweld mewn labordy gwlyb cemeg (ymdoddbwyntiau, anweddyddion cylchdro ac ati) mae hefyd gan ein labordy gyseiniant magnetig niwclear (NMR) pen bwrdd diweddaraf. Mae’r system glyweledol ddiweddaraf, ac offer sy’n gallu ffrydio arbrofion yn fyw o unrhyw fan yn y Brifysgol i unrhyw ran o’r labordy gwlyb, yn gwella amgylchedd dysgu’r labordy ymhellach. Mae pob gweithfan myfyriwr yn cynnwys cyfrifiadur sgrîn gyffwrdd, sy’n galluogi’r myfyriwr i ailedrych ar ei efelychiad o’r arbrawf cyn dod i’r labordy, ynghyd â gwybodaeth ar-lein, yn ystod yr arbrawf ymarferol.  Mae efelychiadau a chwisiau cyn mynd i’r labordy yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymchwilio i dechnegau ac ymgyfarwyddo â'r dulliau a'r asesiadau risg cyn iddynt fynd i mewn i'r labordy.

LAB OFFERYNNAU

Mae’r adran gemeg hefyd yn cynnwys labordy offerynnau o'r radd flaenaf, a ddefnyddir ar gyfer addysgu a chydweithio ar draws colegau/y brifysgol a chyda diwydiant. Yn y labordy hwn, mae gan fyfyrwyr fynediad at gyfres o sbectroffotomedrau UV-Vis a sbectromedrau FTIR. Mae gan y labordy hwn hefyd ddadansoddwr thermol, sbectromedrau màs cromatograffeg nwy (GC-MS), sbectromedr màs cromatograffeg hylif perfformiad uchel (HPLC) a sbectromedr allyriadau optegol plasma wedi'i gyplysu'n anwythol (ICP-OES). Ein huchelgais yw tyfu ac ehangu'r cyfleusterau dadansoddol hyn, a adlewyrchir yn y buddsoddiad parhaus yn ein labordai ymchwil ar y llawr uchaf.

Mae’r adran gemeg hefyd yn ffodus i gael labordy cyfrifiadurol newydd sbon. Lle addysgu gwastad a hyblyg sy’n ddelfrydol ar gyfer dysgu mewn grŵp. Mae grwpiau o sgriniau cyffwrdd a chyfrifiaduron personol hollgynhwysol  yn hwyluso gweithdai rhyngweithiol arloesol ar gyfer grwpiau bach, ble mae sgrîn fawr yng nghanol pob grŵp o weithfannau yn galluogi dysgu cydweithredol.