Mae’r Adran Gyfrifiadureg yn gartref i ymchwilwyr o safon fyd-eang, cyfleusterau labordy gwych a rhaglenni addysgu adderchog.
Ethos yr Adran yw ymgymryd ag ymchwil a fydd o bwys yn y tymor hir, gan ysbrydoli myfyrwyr a'u hannog i helpu i newid y byd.
Ers dros 40 mlynedd bu ymchwilwyr yn Abertawe'n gwneud cyfraniadau diddorol a sylweddol i gyfrifiadureg ym meysydd cyfrifiadureg â ffocws ar ddata, semanteg manylebau ac ieithoedd rhaglennu, dulliau ffurfiol ar gyfer dylunio meddalwedd a chaledwedd, systemau gweithredu, graffeg gyfrifiadurol, cyfathrebu amlgyfrwng, modelu hylifau cymhleth, rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron ac effaith gymdeithasol gwyddoniaeth a thechnoleg.