Computer Science students with VR equipment

Yn Abertawe, bydd gennych fynediad at gyfleusterau addysgu ac ymchwil o'r radd flaenaf yn ein hadeilad Ffowndri Gyfrifiadol £32.5 miliwn. Mae'r cyfleuster hwn yn cynnwys Labordy Seiberddiogelwch a Rhwydweithio lle rydym yn ymchwilio ac yn addysgu diogelwch a gwendidau mewn rhwydweithiau a dyfeisiau’r Rhyngrwyd Pethau (IoT); Ein Labordy Technolegau Rhyngweithio’r Dyfodol (Labordy FIT) lle rydym yn creu ac yn profi robotiaid a systemau rhyngweithiol yn ogystal ag arddangos ein hymchwil i Realiti Rhithwir (VR) a Realiti Estynedig (AR); dau Labordy Gwneuthurwr gyda thorwyr laser, sganwyr 3D, argraffwyr 3D a mwy; Labordy Damcaniaeth; dau Labordy Profiad Defnyddiwr lle rydym yn edrych ar sut mae datblygiadau mewn technoleg yn effeithio ar gymunedau mewn gwledydd llai datblygedig yn gymdeithasol ac yn economaidd; Lab Golwg a Biometreg lle gallwn gipio actorion mewn 3D; ac Ystafell Ddelweddu lle gallwn edrych ar fodelau gweledol manwl iawn o ddata.

students in computer lab

LABORDY SEIBERDDIOGELWCH

  • Defnyddir y labordy hwn ar gyfer ymchwilio ac addysgu pynciau sy'n gysylltiedig â diogelwch. Gellir rhwydweithio'r cyfrifiaduron pwrpasol gyda'i gilydd (a'u gwahanu oddi wrth brif rwydwaith y brifysgol) ar gyfer arbrofi (e.e gydag offer hacio ac o bosibl maleiswedd).
  • Mae Labordy Diogelwch Abertawe wedi’i leoli yn Ffowndri Gyfrifiadol Abertawe ac mae’n cynnwys cyfleusterau da. Mae'r labordy'n darparu offer ac adnoddau ar gyfer tri phrif faes ymchwil: diogelwch rhwydweithiau, diogelwch a phrofion hacio  ffonau symudol / IoT. Mae'r labordy yn caniatáu i ymchwilwyr a phartneriaid yn y diwydiant sefydlu rhwydweithiau a gweinyddion ad-hoc er mwyn archwilio'r gwendidau, y bygythiadau a'r atebion diweddaraf.
  • Dadansoddi dyfeisiau loT i ddod o hyd i wendidau a datrysiadau posibl

LABORDY TECHNOLEGAU RHYNGWEITHIO’R DYFODOL

  • Gofod llawr, bwrdd a wal ar gyfer profi prototeipiau (robotiaid, systemau rhyngweithiol, tafluniadau, dyfeisiau graddfa fawr ac ati)
  • Gofod i greu a phrofi ar y cyd, gyda seddi ac ardal ryngweithiol
  • Bwth lluniau ar gyfer creu delweddau a fideos grymus, graenus, o ansawdd uchel
  • Ardal arddangos ar gyfer storio ac arddangos systemau presennol lle gall ymwelwyr â'r adran brofi amgylcheddau a syniadau bywiog a diddorol
  • Offer clyweledol (e.e. offer tracio llygaid, camerâu SLR, trybeddau, taflunyddion, camerâu fideo ac ati)
  • Ardal VR/AR  sy'n arddangos ymchwil adrannol yn y maes, gan gynnwys prosiect Hololec - menter sy'n ymchwilio i botensial realiti estynedig ym maes addysg.
  • Offer gwneuthurwr (argraffwyr 3D, sganiwr 3D, torwyr laser, peiriannau CNC (dan reolaeth cyfrifiadur))
  • Offer labordy electroneg (e.e. heyrn sodro, amlfesuryddion, osgilosgopau, ac ati)
  • Llyfrgelloedd cydrannau electronig a dyfeisiau (e.e., pecynnau Arduino, ffonau/llechi, cydrannau prototeipio, synwyryddion, ac ati)
  • Gofod cydosod a phrofi tymor hir

LABORDAI GWNEUTHURWYR 1 & 2

  • Datblygu prototeipiau sgriniau cyffwrdd sy'n darparu adborth cyffyrddiadol (teimlo wrth gyffwrdd)
  • Defnyddir y labordy hwn gan fyfyrwyr a staff sydd angen creu pethau go iawn. Er enghraifft, prototeipiau diriaethol o systemau. Mae gennym dorrwr laser, argraffwyr 3D, offer gwaith coed, ac ati. Un prosiect oedd creu prototeip ar gyfer gêm Monopoy i bobl ddall. Byddai sgwariau'r bwrdd yn llythrennol yn codi ac yn disgyn. Byddai'r person dall yn gallu teimlo pa sgwâr y mae arni ac i ble i symud darnau (y sgwariau wedi codi).

 Computational Foundry PC Lab

LABORDY DAMCANIAETH

Mae hwn yn ofod cydweithredol i unrhyw beth sy'n ymwneud â damcaniaeth. Gwirio Rheilffyrdd: system modelu rheilffyrdd ar gyfer profi cywirdeb.Defnyddir hwn mewn gweithgareddau allgymorth i ddangos ERTMS (System Rheoli Traffig Rheilffyrdd Ewropeaidd). Yn y bôn, nid oes mwyach signalau ac mae’r trenau yn gofyn am ganiatâd yn ddi-wifr i symud i lawr y traciau. Rydym yn cysylltu’r teclynnau rheoli ac yna gall y cyhoedd (plant ac oedolion) yrru'r trenau a bydd y system yn eu hatal rhag gwrthdaro.

LABORDAI DEFNYDDWYR 1 A 2

  • Deall sut mae datblygiadau technolegol yn effeithio ar gymunedau mewn gwledydd yn y trydydd byd
    • gan edrych ar yr effaith gymdeithasol ac economaidd
  • Labordy Seiberddiogelwch a Rhwydweithio
  • Labordy Technolegau Rhyngweithio’r Dyfodol
  • Swît Delweddu

LABORDY DELWEDDU A BIOMETRIG

Modelu a delweddu toriadau diogelwch data

Mae gan y labordy hwn rig goleuadau a'i nod yw gallu cipio actorion mewn 3D. Meddyliwch amdano fel y cyflwyniadau tywydd ar y teledu gyda sgrîn werdd, ond nid delwedd 2D yw’r data ond llun o’r person wedi’i gipio mewn 3D.

EWCH AR DAITH RHITHWIR