Rydym yn gwella systemau signalau rheilffyrdd

Moody railtrack

Yr her

Ar gyfer unrhyw system rheilffordd fodern, mae meddalwedd signalau yn allweddol o ran diogelwch, cynyddu capasiti a lleihau gwallau pobl.  Fodd bynnag, nid yw'n hawdd cadarnhau a gwirio bod y feddalwedd hon yn gweithredu fel y dylai, ac mae gwirio'r systemau hyn â llaw yn cymryd llawer o amser ac mae'n llafurus. 

Y Dull

Mae'r grŵp Cadarnhau Rheilffyrdd yn Abertawe wedi datblygu meddalwedd o'r radd flaenaf gan ddefnyddio dulliau ffurfiol newydd, sy'n lleihau'r amser a gymerir i wirio cywirdeb systemau signalau a chyfathrebu.

Yr Effaith

Mae Siemens Rail Automation wedi derbyn ymchwil y grŵp Cadarnhau Rheilffyrdd a'i hintegreiddio wrth ddylunio meddalwedd signalau’r dyfodol ar gyfer amgylchedd y Deyrnas Unedig.  Mae ymchwil y grŵp wedi cael ei chynnwys yn arweiniad Bwrdd Diogelwch a Safonau'r Rheilffyrdd ynghylch datblygiadau signalau’r dyfodol ac maent wedi sefydlu Fforwm Rheilffyrdd Diwydiannol Ewropeaidd newydd sy'n cynnwys partneriaid ymchwil a diwydiannol i ddatblygu dulliau ffurfiol ar gyfer signalau ar y rheilffyrdd. 

Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSDG Goal 9 Industry
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe