Trosolwg grŵp

Mae ein grŵp ymchwil Cyfrifiadura Gweledol yn gweithio ar amrywiaeth eang o bynciau ym meysydd cyfrifiadura gweledol ers ei sefydlu ym 1992. Mae'r grŵp wedi tyfu i fod yn dîm o 12 o academyddion a mwy na 30 o ymchwilwyr a myfyrwyr ymchwil.

Mae'r grŵp Cyfrifiadura Gweledol wedi cyfrannu casgliad sylweddol o dechnegau newydd a darganfyddiadau pwysig ym meysydd delweddu data, golwg gyfrifiadurol, mwyngloddio data, deallusrwydd artiffisial, dysgu peirianyddol, dadansoddeg weledol, gwyddor data, graffeg gyfrifiadurol, rhyngweithio a rhaglennu GPU.

Mae'r grŵp yn dilyn rhaglen uchelgeisiol sy'n cael ei hysgogi gan chwilfrydedd er mwyn datblygu algorithmau a dulliau newydd, yn ogystal â thechnegau ac offer meddalwedd uwch ar gyfer y meysydd hyn. Mae'n cydweithredu ar nifer o brosiectau parhaus â gwyddonwyr ledled y byd, ac mae'n chwarae rôl allweddol wrth drosglwyddo gwybodaeth a chymwysiadau diwydiannol. Mae'r grŵp yn cyrchu labordai ymchwil pwrpasol (Labordy Delweddu, Labordy Gweledigaeth a Dysgu Peirianyddol) gyda gorsafoedd gwaith o'r radd flaenaf.

Ein Staff

Dr Sara Sharifzadeh

Dr Sara Sharifzadeh

Dr Su Yang

Dr Su Yang