Matt Jones

Yr Athro Matt Jones

Cadair Bersonol, Computer Science

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 295259

Cyfeiriad ebost

224A
Ail lawr
Adeilad Wallace
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Matt Jones yn awdur dau lyfr a llawer o erthyglau ymchwil sydd wedi helpu i lunio maes Rhygnweithio rhwng Pobl a Chyfrifiaduron (HCI) a Phrofiad Defnyddwyr (UX) Symudol (Mobile Interaction Design - gyda Gary Marsden; a There's Not an App for That - gyda Simon Robinson a Gary Marsden).

Mae wedi siarad mewn digwyddiadau gyda ffocws ar y celfyddydau (fel Gŵyl y Gelli 2017) a'r gwyddorau (fel Gŵyl Wyddoniaeth Prydain 2016 ac Interact 2017). Mae wedi gweithio gyda grwpiau ymchwil academaidd a phartneriaid mewn diwydiant ledled y byd. Mae ei waith yn cyfuno angerdd dros ddyfeisio gydag ymrwymiad i weithio ochr yn ochr â defnyddwyr anhraddodiadol technoleg symudol.

Roedd yn Ddeiliad Gwobr Merit Ymchwil Wolfson y Gymdeithas Frenhinol (am ei waith ar ryngweithio ar gyfer cymunedau sydd wedi'u cyfyngu ar adnoddau); dyfarnwyd Gwobr Cyfadran IBM iddo (am waith gyda'r Spoken Web); ac mae'n arwain tair rhaglen fawr yn y DU sy'n canolbwyntio ar werthoedd dynol a gwyddor gyfrifiadurol (Canolfan CHERISH yr Economi Ddigidol a ariennir gan Gyngor Ymchwil y DU; y Ffowndri Gyfrifiadurol a ariennir gan Lywodraeth Cymru/UE; a Chanolfan Hyfforddi at Ddoethuriaeth EPSRC ar Ddeallusrwydd Artiffisial a Data mawr. Mae wedi mwynhau bod yn rhan o'r gymuned HCI: bu'n cyd-gadeirio ACM CHI 2014; ACM Mobile HCI 2017; ac mae ar bwyllgor llywio'r ddwy gyfres o gynadleddau. Mwy yn: www.undofuture.com

Meysydd Arbenigedd

  • Rhyngweithio rhwng Pobl a Chyfrifiaduron
  • Dylunio Profiad Defnyddiwr
  • Deallusrwydd Artiffisial a Data Mawr
  • Arloesi Heriau Byd-eang