Rydyn ni’n meithrin piblinell gweithlu sgiliau digidol cynaliadwy yng Nghymru

Students in a classroom

Yr Her

Ers mwy nag 20 mlynedd, nid yw diddordeb mewn cyfrifiadura a sgiliau digidol, gwybodaeth amdanynt na'r gallu i'w defnyddio wedi cynyddu'n ddigonol i ymateb i dwf trawsnewidiol y gymdeithas a'r economi ddigidol. O ganlyniad i hynny, mae bylchau gwybodaeth sylweddol ym maes addysg ddigidol, a diffyg sy'n cynyddu o hyd o ran recriwtio pobl i'r gweithlu digidol, yn enwedig ymhlith menywod.

Mae Technocamps yn uned allgymorth i ysgolion a chymunedau ledled Cymru sydd am fynd i'r afael â'r problemau hyn. Ar ôl cael ein sylfaenu yn 2003 ym Mhrifysgol Abertawe, aethom ati wedyn i sefydlu hyb Technocamps yn Adran Gyfrifiadureg pob prifysgol yng Nghymru.

Y Dull

Yn Technocamps, rydym yn ymchwilio i newidiadau i gwricwla cenedlaethol, cymwysterau, prosesau cyflwyno a datblygiad proffesiynol, yn hyrwyddo'r rhain ac yn eu rhoi ar waith er mwyn meithrin cyfrwng cynaliadwy ar gyfer magu sgiliau digidol yng Nghymru. Ar y cyd â rhaglen hyfforddi athrawon yr uned, Technoteach, ei gweithrediad ymgysylltu â busnes, y Sefydliad Codio yng Nghymru, a'i changen ymchwil, EHP, rydym yn ymgysylltu â'r canlynol:

• pob ysgol yn y wlad i gefnogi athrawon a myfyrwyr cyfrifiadura
• busnesau o bob disgrifiad sydd am fynd i'r afael â bylchau yn eu sgiliau digidol
• holl brifysgolion y genedl, ynghyd ag academyddion sy'n gweithio ar y broblem yn rhyngwladol

Mae ein holl weithdai a chyfleoedd hyfforddiant am ddim i'r ysgolion, y cwmnïau a'r buddiolwyr, diolch i gefnogaeth ariannol sylweddol gan yr UE, Llywodraeth Cymru a grantiau’r cynghorau ymchwil.

Yr Effaith

Ers 2011, mae Technocamps wedi ymgysylltu â mwy na 60,000 o fyfyrwyr yng Nghymru – 8% o boblogaeth Cymru heddiw rhwng 5 a 24 oed gyda chydbwysedd rhwng y rhywiau sydd bron yn gyfartal. Drwy Technocamps, rydym yn creu diddordeb yn y pwnc, yn enwedig ymhlith merched ifanc i ddarparu ar gyfer cymuned sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o bell ffordd yn y gweithlu digidol. Yn benodol, gwnaethom gyflwyno mwy na 10 awr o weithdai yn y rhan fwyaf o ysgolion uwchradd y wlad er mwyn eu helpu i wreiddio Fframwaith Cymhwysedd Digidol newydd, menter statudol a gynigiwyd gyntaf mewn Adolygiad Cenedlaethol y gwnaethom arwain y broses o'i lunio ar gyfer Llywodraeth Cymru yn 2013.

Rydym wedi cyflwyno rhaglen hyfforddiant achrededig blwyddyn o hyd, Technoteach, i fwy na 100 o athrawon ledled Cymru heb gefndir TGCh/cyfrifiadura ffurfiol y mae angen iddynt addysgu'r pynciau hyn o ganlyniad i brinder athrawon cymwys (gan nad oes cefndir TGCh/cyfrifiadura gan 75% o'r bobl sy'n addysgu TGCh/cyfrifiadura yng Nghymru). Mae ein rhaglen sy'n canolbwyntio ar fusnes, sef y Sefydliad Codio yng Nghymru, yn cynnig cyfleoedd datblygu proffesiynol parhaus arloesol, yn enwedig Prentisiaethau Gradd blaengar.

Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSDG Goal 4 Education
UNSDG Goal 5 Gender Equality
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe