Y broses gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion, gan greu delweddau o freichiau robotig a haenellau silicon 3D. Credyd: Phonlamai Photo | Shutterstock.

Credyd: Phonlamai Photo | Shutterstock.

Mae arbenigwyr o Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Abertawe'n chwarae rôl allweddol mewn menter ryngwladol sy'n mynd i'r afael â risgiau seiberddiogelwch cynyddol ar draws y gadwyn gyflenwi lled-ddargludyddion - sector sy'n sylfaen i bopeth o systemau diogelwch cenedlaethol ac isadeiledd critigol i gerbydau cysylltiedig.

Mae risgiau seiberddiogelwch yn y gadwyn gyflenwi lled-ddargludyddion yn parhau i gynyddu, gan fygwth seiberwydnwch, amddiffyniad eiddo deallusol, a diogelwch cynnyrch. Wrth i'r sector ehangu, mae mynd i'r afael â'r gwendidau hyn wedi dod yn flaenoriaeth i lywodraethau a diwydiant ledled y byd.

I gefnogi'r her hon, mae Consortiwm Seiberddiogelwch Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion (SMCC) SEMI wedi cyflwyno Asesiad Seiber Safonol Lled-ddargludyddion (SSCA) - fframwaith newydd, symlach sy'n galluogi cyflenwyr i arddangos cydymffurfiaeth drwy un arolwg safonol.

Fel rhan o'r asesiad, bydd angen i gyflenwyr ddarparu tystiolaeth o ddulliau rheoli a mesurau diogelwch sydd ar waith. Mae'r sylfaen dystiolaeth hon yn hollbwysig ar gyfer deall yr hyder yn eu gallu i reoli risg a chydymffurfio â safonau perthnasol.

Mae Grŵp Diogelwch Systemau Prifysgol Abertawe (SSG), gan gydweithio'n agos â SMCC, yn mapio'r gofynion tystiolaeth sydd eu hangen i gefnogi sicrwydd ar gyfer yr SSCA.

Mae'r prosiect, Sicrwydd Diogelwch Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion (SASM), wedi'i ariannu gan Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI), drwy gyllid sbarduno ar gyfer ymchwil gydweithredol rhwng y DU, UDA a'r Almaen, ac arloesedd mewn diogelwch lled-ddargludyddion.

Mae'r tîm, sydd wedi'i arwain gan Dr Sridhar Adepu, a'r Athro Siraj Shaikh a Dr Haong Nga Nguyen fel cyd-ymchwilwyr, yn gweithio ochr yn ochr â TechWorks UK a'r Bavarian Chips Alliance.

Dywedodd Dr Adepu: "Mae seiberddiogelwch mewn gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion yn hanfodol ar gyfer gwydnwch cadwyni cyflenwi byd-eang. Drwy'r prosiect hwn, ein nod yw sicrhau bod y fframwaith a grëir yn ymarferol, yn gost-effeithiol, ac yn cyd-fynd â safonau byd-eang sy'n dod i'r amlwg, gan gefnogi'r DU, Ewrop a phartneriaid rhyngwladol wrth fynd i'r afael â heriau diogelwch a rennir."

Fel rhan o'r gwaith hwn, mae dau weithdy wedi cael eu trefnu - un yn y DU ac un yn yr Almaen - i gyflwyno'r SSCA a chasglu adborth.

  • 10 Mawrth 2026 - Bavarian Chips Alliance, Nürnberg
  • 12 Mawrth 2026 - Y Ffowndri Gyfrifiadol, Prifysgol Abertawe, Abertawe

Dywedodd yr Athro Shaikh: "Drwy gefnogi datblygiad safonau a galluogi cydweithredu byd-eang, gallwn gryfhau diogelwch ac arloesedd byd-eang. Mae'r gweithdai hyn yn hanfodol er mwyn cyrraedd y nod, oherwydd y byddant yn annog meithrin y fframwaith SSCA, gan sicrhau ei fod yn adlewyrchu anghenion y byd go iawn."

Rhagor o wybodaeth a chofrestru ar gyfer y gweithdy yn yr Almaen.

Rhagor o wybodaeth a chofrestru ar gyfer y gweithdy yn y DU.

Astudio Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe.

Rhannu'r stori