Grŵp o fyfyrwyr yn gweithio gan ddefnyddio gliniaduron.

Bydd carfan Research Ready Google DeepMind Prifysgol Abertawe'n gweithio yn y Ffowndri Gyfrifiadol, lle byddan nhw'n cael profiad ymarferol o weithio ar ymchwil AI sy'n torri tir newydd.

Dewiswyd Prifysgol Abertawe i gynnal Rhaglen Research Ready Google DeepMind - profiad a ariennir yn llawn dros wyth wythnos i ehangu cyfranogiad mewn ymchwil deallusrwydd artiffisial.

Mae Abertawe'n un o sawl prifysgol yn y DU a ddewiswyd i gymryd rhan yn y rhaglen, sy'n rhan o gynllun cenedlaethol Research Ready Google DeepMind, a gefnogir gan Founding Partners Google DeepMind a The Hg Foundation, ynghyd â'r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg ac Academi Frenhinol Peirianneg.

Fe'i cyflwynir gan Adran Gyfrifiadureg y Brifysgol, ac mae'r rhaglen a gynhelir rhwng 8 Mehefin a 31 Gorffennaf 2026 yn cynnig profiad ymarferol arobryn o ran ymchwil AI i fyfyrwyr israddedig o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol dan anfantais.

Bydd cyfranogwyr yn gweithio yn y Ffowndri Gyfrifiadol, y buddsoddwyd £32.5 miliwn ynddi yn Abertawe, cyfleuster ymchwil o'r radd flaenaf sy'n ymroddedig i'r gwyddorau cyfrifiadol a mathemategol.

Bydd myfyrwyr sy'n cael eu dewis ar gyfer y rhaglen yn:

  • ymgymryd â phrosiect ymchwil dan oruchwyliaeth mewn meysydd megis dysgu peirianyddol, roboteg, prosesu iaith naturiol, AI esboniadwy, biowybodeg a dysgu dwfn
  • Cael hyfforddiant gwyddor data wythnosol a gyflwynir gan Gymrawd Turing
  • Cymryd rhan mewn her datathon gyda phartneriaid o fyd diwydiant yng Nghymru
  • Cyflwyno eu canfyddiadau mewn cynhadledd ymchwil
  • Elwa o fentora PhD a chyfarfod datblygiad gyrfa unigol
  • Cael y cyfle i gyhoeddi papur ymchwil byr ar wefan Research Ready

Ochr yn ochr â'u gwaith ymchwil, bydd cyfranogwyr yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy mewn ysgrifennu academaidd, dadansoddi data, meddwl yn feirniadol a chyflwyno - oll yn werthfawr os ydynt yn dilyn astudiaethau ôl-raddedig neu'n mynd i fyd diwydiant.

Nid oes angen profiad academaidd blaenorol. Mae'r rhaglen ar gyfer ymgeiswyr sy'n chwilfrydig, yn frwdfrydig a chyda'r potensial i ffynnu mewn amgylcheddau ymchwil - nid yn unig y rhai hynny â phroffiliau academaidd traddodiadol.

I sicrhau bod y cyfle'n gwbl hygyrch, bydd cyfranogwyr yn cael:

  • £441 yr wythnos
  • Llety am ddim ar y campws
  • Costau teithio

Mae'r cymorth hwn yn galluogi myfyrwyr i ganolbwyntio'n llawn ar eu gwaith ymchwil heb orfod gofidio am yr ochr ariannol.

Meddai Dr Megan Venn-Wycherley, Cyd-arweinydd y Rhaglen: “Mae deallusrwydd artiffisial yn trawsnewid cymdeithas, ond mae mynediad at yrfaoedd ymchwil mewn deallusrwydd artiffisial yn parhau i fod yn anghyfartal. Mae'r rhaglen Research Ready yn ymwneud ag agor drysau - gan roi cyfle i fyfyrwyr talentog sydd efallai heb weld eu hunain fel 'ymchwilwyr' yn gallu gweithio gydag academyddion blaenllaw, meithrin hyder a gweld sut beth gallai dyfodol ym maes AI fod.”

Rhaid i ymgeiswyr cymwys:

  • Fod yn breswylwyr y DU
  • Bod ym mlwyddyn olaf ond un (neu wedi cwblhau) gradd israddedig mewn cyfrifiadureg neu faes technegol cysylltiedig
  • Bodloni o leiaf un o'r meini prawf ehangu cyfranogiad, megis bod yn gymwys am brydau ysgol am ddim, yn byw yn y ddwy ddengradd isaf IMD/POLAR, wedi bod yng ngofal yr awdurdod lleol neu'n cael cymorth cynhaliaeth llawn gan y wladwriaeth

Cynhelir gweminar wybodaeth ar-lein ar 25 Chwefror 2026, ac mae'r ceisiadau'n cau ar 15 Mawrth 2026.

Mwy o wybodaeth am y rhaglen a sut i gyflwyno cais.

Rhannu'r stori