O'r chwith: Rachael Kemp; Simon Hart (Cwmni Lifrai); Freja Petrie; Sylvia Robert-Sargeant a Stuart Castledine, (Cwmni Lifrai); Dr Melitta McNarry o'r adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

O'r chwith: Rachael Kemp; Simon Hart (Cwmni Lifrai); Freja Petrie; Sylvia Robert-Sargeant a Stuart Castledine, (Cwmni Lifrai); Dr Melitta McNarry o'r adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Mae dau ymchwilydd gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff o Brifysgol Abertawe wedi ennill ysgoloriaethau teithio gyda Chwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru.

Mae Freja Petrie yn ymchwilio i ffyrdd o leihau cyfergydion ym myd rygbi menywod ac mae Rachael Kemp yn ymchwilio i effeithiau ymarfer corff ar dwf a mudiad celloedd canser.

Bydd y ddwy ohonynt bellach yn gallu datblygu eu gwaith, o ganlyniad i gyllid gwerth £1,000 a ddyfarnwyd gan y Cwmni Lifrai, yn dilyn cystadleuaeth a oedd yn agored i ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe sydd ar ddechrau eu gyrfa.

Cafwyd ceisiadau o bob rhan o'r Brifysgol, ond daw'r ddau enillydd eleni o'r Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Mae ymysg yr adrannau uchaf eu bri yn y pwnc yn y DU ac mae ganddi gysylltiadau agos â sefydliadau megis Diabetes UK, y GIG, Chwaraeon Cymru ac Undeb Rygbi Cymru.

Mae ymchwil PhD Freja Petrie yn canolbwyntio ar fecanweithiau trawiadau i’r pen ym myd rygbi menywod, ac yn defnyddio gardiau ceg, cyfweliadau â chwaraewyr a phrofion cryfder gyddfau i ddeall profiadau o wrthdrawiadau i’r pen a sut gellid eu lleihau.

Esboniodd Freja, o Rydaman, yr hyn sy'n newydd am ei gwaith a sut bydd y dyfarniad gan y Cwmni Lifrai'n ei gefnogi:

“Mae ymchwil wedi dangos bod effeithiau trawiadau i’r pen yn wahanol i fenywod a dynion, a bod gyddfau menywod yn wannach, o ganlyniad i wahaniaethau o ran rhyw biolegol a rhywedd cymdeithasol. Mae menywod hefyd yn fwy tebygol o gymryd amser hwy i wella ar ôl cael cyfergyd na dynion.

“Yn Abertawe, rydyn ni wedi datblygu dyfais profi cryfder gyddfau arloesol, sydd wedi cael ei hadeiladu gan gwmni peirianneg lleol. Gall hon gofnodi data amlgyfeiriad o safon uchel am gryfder ac anghydbwysedd. Yn ogystal â helpu gyda'r ymchwil, gellir defnyddio'r data er mwyn cynnig adborth unigol i chwaraewyr.

“Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Cwmni Lifrai am y dyfarniad. Bydd yn fy ngalluogi i deithio i glybiau rygbi menywod yng Nghymru i brofi cryfder gyddfau a chynnig gweithdai i gynyddu ymwybyddiaeth o gyfergydion.”

Disgrifiodd Rachael Kemp sut mae dyfarniad y Cwmni Lifrai'n cefnogi ei hymchwil:

“Nod fy ymchwil yw deall sut gallwn ni optimeiddio'r defnydd o ymarfer corff er mwyn lleihau risg canser.

“Yn ystod fy PhD, mae hyn wedi cynnwys cymharu effeithiau serwm sy'n deillio o fathau gwahanol o ymarfer corff ar dwf a mudiad celloedd canser. Y camau nesaf fyddai ymchwilio i'r mecanweithiau sy'n gyfrifol am yr effeithiau.

“Diolch i'r dyfarniad, ces i gyfle i fynd i weithdy hyfforddiant yn Llundain i ddysgu technegau bioleg foleciwlaidd newydd. Rhoddodd y cyfle hwn brofiad ymarferol o dechnegau megis tynnu asid riboniwclëig (RNA), RT-PCR, cyflwyno asidau niwclëig estron i addasu celloedd (transfection), a blotio gorllewinol. Gallaf ddefnyddio'r rhain yn fy ngwaith yn y dyfodol i egluro'r mecanweithiau, nodi targedau therapiwtig, ac yn y pen draw helpu i optimeiddio'r broses o ragnodi ymarfer corff er mwyn atal, trin a goroesi canser.”

Sefydlwyd Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru ym 1993 ac un o'i nodau yw “hyrwyddo addysg, gwyddoniaeth, technoleg a'r celfyddydau yng Nghymru”. Mae'n cyflawni hyn drwy helpu pobl ifanc ledled Cymru i feithrin eu doniau a'u sgiliau drwy raglen flynyddol i ddyfarnu ysgoloriaethau a bwrsariaethau i fyfyrwyr mewn ysgolion, prifysgolion a cholegau technegol, yn ogystal â phrentisiaid a phobl ifanc yn y lluoedd arfog.

Mwy o wybodaeth - Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru 

Meddai Sylvia Robert-Sargeant, un o feirniaid y gystadleuaeth hon, wrth roi'r dyfarniadau hyn i Rachael a Freja:

“Un o nodau'r Cwmni yw annog a helpu myfyrwyr i fwrw ymlaen â phrosiect penodol. Rydyn ni'n codi arian drwy ddigwyddiadau elusennol amrywiol ac rydyn ni hefyd yn gofyn i'n haelodau am gymorth ariannol, yn ogystal â gofyn i’r gymuned ehangach yng Nghymru drwy wahodd cylchoedd busnes, ymddiriedolaethau a sefydliadau eraill sydd â diddordeb mewn hyrwyddo addysg, gwyddoniaeth, technoleg a'r celfyddydau yng Nghymru i gefnogi ein gweithgareddau.

“Mae'r ddau brosiect cyffrous hyn yn dangos sut gall gwaith mor arloesol wneud cyfraniad hollbwysig at ymchwil yng Nghymru. Rydyn ni hefyd yn falch o allu cefnogi Freja a Rachael wrth fwrw ymlaen â'u prosiectau ymchwil.”

Rhannu'r stori