Ffotograff o John yn ei gap a’i ŵn wrth iddo raddio.

Mae athro 74 oed a fethodd ei arholiad 11+ wedi graddio o Brifysgol Abertawe gyda theilyngdod ac mae’n annog pobl eraill i ddal ati i ddysgu am byth.

Er i’w yrfa addysgol ddechrau ar y trywydd anghywir pan oedd yn yr ysgol, bu John Richard Wilsher, sydd wedi ymddeol bellach, yn athro ysgol gynradd am amser hir a hapus, gan feithrin brwdfrydedd gydol oes dros addysg.

“Pan oeddwn i’n addysgu, astudiais i am radd baglor gyda’r Brifysgol Agored, Diploma Ôl-raddedig mewn Addysg a dau ddiploma arall. Mae’n ymddangos bod astudio wrth weithio’n rhan o fy DNA,” meddai John, sy’n dod o Barnstaple yn wreiddiol.

Gan fod daearyddiaeth wedi mynd â’i fryd o’r cychwyn cyntaf, pan oedd John yn chwilio am ffordd newydd o gadw ei ymennydd yn brysur, roedd MSc Prifysgol Abertawe mewn Deinameg Amgylcheddol a Newid yn yr Hinsawdd yn benderfyniad hawdd.

“Hyfforddais i fel athro daearyddiaeth ac roedd gwyddoniaeth o ddiddordeb go iawn i fi hefyd.  Mae newid yn yr hinsawdd yn destun pryder i bawb, neu dylai fod, gan ei fod mor berthnasol,” meddai John.

“Serch hynny, ces i fy ngwers ddiwethaf mewn gwyddoniaeth ym 1964, fy narlith ddiwethaf mewn daearyddiaeth ym 1969 a fy arholiad diwethaf ym 1987 – wrth reswm, mae ambell beth wedi newid ers hynny!”

Dechreuodd John ei astudiaethau ym mis Medi 2021 ac roedd yn cael gwneud hynny ar y safle, diolch i fwrsari gan Lywodraeth Cymru i alluogi pobl dros 60 oed i astudio am radd meistr.

Mae’r grant hwn gwerth £4,000 nad oes rhaid ei ad-dalu’n helpu i dalu am gostau astudio a byw pobl 60 oed na allant gael gafael ar yr un cymorth ariannol â myfyrwyr iau.

“Heb y bwrsari hwn, fyddwn i ddim wedi gallu talu am y cwrs drwy fy mhensiwn bach, sefydlog,” meddai John.

“Roedd y cwrs yn heriol iawn ond yn afaelgar, gan fodloni fy holl ddymuniadau. Dysgais i gymaint am bwnc sydd, i rai pobl, yn dal i fod yn ddadleuol, ac rwy’n ddiolchgar fy mod i wedi cael y cyfle i wneud hynny.”

Er bod John yn fyfyriwr brwd, nid oedd dychwelyd i faes addysg uwch yn hawdd, ond mae’r cymorth sydd ar gael i’r rhai y mae ei angen arnynt wedi creu argraff fawr arno.

“A finnau’n ddyn oedrannus, roedd wynebu arholiadau ar y safle am y tro cyntaf ers 35 mlynedd, gan wybod bod fy nghof yn llai dibynadwy nag y bu yn ystod fy ieuenctid, yn destun pryder i fi,” cyfaddefodd John.

“Fodd bynnag, ar ôl i fi roi gwybod i fy nhiwtor am hyn, aeth yr asiantaethau cymorth ati i roi mesurau ar waith i liniaru fy mhryder."

Gan fod yr holl fyfyrwyr eraill ar ei gwrs ond dau o leiaf hanner canrif yn iau, roedd John yn disgwyl y byddai eu profiadau’n wahanol, ond roedd yn rhaid iddynt oll wynebu argyfwng Covid.

Gan weld sut roedd y pandemig yn cyfyngu ar gyfleoedd cyflogaeth, roedd John yn benderfynol o wneud popeth posib i helpu ei gyd-fyfyrwyr, gan ddefnyddio tiwtorialau’r cwrs i rannu ei brofiad fel cyflogwr.

“Ym Mhrifysgol Abertawe, roedd yn fraint i fi fod yng nghwmni pobl ifanc mor dalentog; yn bendant, cafodd yr effaith o adfywio fy ymennydd.

“Roedd yn bleser cael y cyfle i ad-dalu’r ffafr drwy rannu rhai o’r gwersi roeddwn i wedi’u dysgu dros y blynyddoedd."

Nid yw hyn yn rhywbeth newydd i John, sydd bob amser wedi ymdrechu i gefnogi’r cenedlaethau iau.

“Pan oeddwn i’n swyddog yn y Fyddin Brydeinig gyda Chadetiaid Byddin Dyfnaint yn y 1980au, roeddwn i’n gweithio yn fy amser hamdden gyda phobl ifanc rhwng 13 a 18 oed i sicrhau eu bod nhw’n cyflawni eu potensial ac yn gwneud y gorau o’r profiad,” esboniodd John.

“Yn ogystal, bues i’n gynghorydd lleol am 20 mlynedd yng Ngogledd Dyfnaint a’r cyflawniad sy’n destun y balchder mwyaf i fi hyd yn hyn oedd y tair blynedd pan oeddwn i’n gweithio gyda phobl ifanc Gogledd Dyfnaint i ariannu ac adeiladu parc sglefrfyrddio gwerth £400,000 at eu defnydd nhw.”

Mae John bellach yn byw yn Abertawe ac yn gwirfoddoli fel tywyswr teithiau i Gastell Ystumllwynarth.

Mae ef eisoes yn chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli ychwanegol sy’n cyd-fynd â’i sgiliau a’i ddiddordebau. O ganlyniad i’w radd meistr, mae’r rhain bellach yn cynnwys ecoleg.

Beth bynnag y bydd yn ei wneud nesaf, mae John yn gobeithio bod ei hanes yn profi, er y gall pethau fynd o chwith, na ddylech byth roi’r ffidl yn y to, hyd yn oed os cewch chi anawsterau.

“Rwyf wedi gorfod goresgyn digon o rwystrau, megis cyfleoedd a gollwyd ar ôl i fi fethu fy arholiad 11+, neu, yn fwyaf diweddar, Covid, ond does dim rhaid iddyn nhw ddiffinio eich bywyd,” meddai John.

“Un bywyd rydych chi’n ei gael. Rhaid achub ar gyfleoedd cadarnhaol pan fyddan nhw ar gael. Mae amser yn hedfan, yn enwedig i bobl dros 60 oed, felly os oes diddordeb gennych chi mewn rhywbeth, canolbwyntiwch ar y nod terfynol, yn hytrach na chaledi’r gorffennol. Ewch amdani nawr!”

Rhannu'r stori