Ar y chwith: celloedd gwaed gwyn (lliw gwyrdd a glas) wedi'u hynysu o waed dynol a gafodd eu bwydo â myelin dynol (coch) er mwyn dynwared ymddatod myelin a welir mewn sglerosis ymledol. Ar y dde: yr un celloedd ar ôl triniaeth gyda chyffur a allai gael effaith ar ocsysterolau.

Ar y chwith: celloedd gwaed gwyn (lliw gwyrdd a glas) wedi'u hynysu o waed dynol a gafodd eu bwydo â myelin dynol (coch) er mwyn dynwared ymddatod myelin a welir mewn sglerosis ymledol. Mae'r saethau'n pwyntio at gelloedd sydd wedi 'bwyta'r’ myelin. Ar y dde: yr un celloedd ar ôl triniaeth gyda chyffur a allai gael effaith ar ocsysterolau.  

Mae ymweliad gan arbenigwr o Abertawe, a hwyluswyd gan ysgoloriaeth a ddyfarnwyd gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, wedi cryfhau ymchwil i sglerosis ymledol yng Nghymru.

Mae Kristen Hawkins yn ymchwilydd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Nod ei hymchwil, a ariennir gan MS Society Cymru, yw meithrin dealltwriaeth well o'r fioleg sydd wrth wraidd sglerosis ymledol (MS).

Mae MS yn effeithio ar oddeutu 5,600 o bobl yng Nghymru a 2.3 miliwn ledled y byd. Ar hyn o bryd, nid oes modd iacháu pobl ac mae'r triniaethau sydd ar gael yn cael effaith gyfyngedig.

Nod prosiect Kristen yw deall rôl ocsysterolau mewn MS. Mae ocsysterolau'n rhan o weithrediad arferol ein cyrff. Cânt eu creu pan fydd y corff yn dadelfennu colesterol (sydd ynom ni i gyd ac sy'n angenrheidiol yn ein cyrff), ond mae'n bosib y gall rhai ocsysterolau gamweithio mewn achosion o MS.

Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Deithio i Kristen gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru yn dilyn cystadleuaeth a oedd yn agored i ymchwilwyr gyrfa gynnar o Brifysgol Abertawe.

O ganlyniad i'r ysgoloriaeth, cafodd gyfle i dreulio tri diwrnod ym Manc Meinweoedd Ymchwil Niwrowyddoniaeth Cymru yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. Mae'r banc yn storio miloedd o samplau biolegol a roddwyd gan gleifion a gwirfoddolwyr iach er mwyn galluogi ymchwilwyr i feithrin dealltwriaeth ddyfnach o glefydau a sut i'w diagnosio a'u trin.

Yn ystod ei hymweliad â'r banc meinweoedd, cyfarfu Kristen â'r tîm o ymchwilwyr, clinigwyr a staff cymorth a chafodd ei thywys o gwmpas y cyfleuster. Yn ogystal, rhoddodd hi gyflwyniad iddynt am ei hymchwil yn Abertawe.

Amlygodd Kristen ddwy enghraifft bendant o'r ffordd y bydd yr ymweliad o fudd i'w hymchwil:

“Mae'r banc meinweoedd yn dal samplau o hylif cerebrosbinol y mae eu hangen arna i at ddibenion fy ymchwil, felly mae'r tîm wedi trefnu'n garedig i'r rhain fod ar gael i mi.

Yn ogystal, dysgais i fod y banc meinweoedd yn cynnwys stoc o fath penodol o gell waed wen rwyf wedi bod yn ei hynysu ac yn ei dadansoddi. Mae gen i samplau gan roddwyr iach eisoes, ond bydd eu hangen arna i hefyd gan bobl ag MS. Felly, gobeithio yn y dyfodol y byddaf yn gallu defnyddio'r samplau sydd eisoes yn cael eu storio yng Nghaerdydd, gan gyflymu ein hymchwil.”

Gan sôn am yr ymweliad yn gyffredinol, ychwanegodd Kristen:

“Roedd yr ymweliad â'r banc meinweoedd yn eithriadol o fuddiol. Rwyf wedi dysgu mwy am brosesu a storio meinweoedd dynol, llywodraethu, ac rwyf wedi cael profiad o labordy ymchwil o fath gwahanol. Rwyf wedi creu cysylltiadau gwerthfawr ag ymchwilwyr eraill a gweithwyr meddygol sy'n gweithio ar MS.

Hoffwn i ddiolch i Dr Sam Loveless am fy nghroesawu yn ystod fy ymweliad a Chwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru am ei hwyluso drwy'r dyfarniad – rwy'n wirioneddol ddiolchgar.”

Meddai Sylvia Robert-Sargeant o Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru:

“Un o nodau'r cwmni yw annog a helpu myfyrwyr i fwrw ymlaen â phrosiect penodol. Rydyn ni'n codi arian drwy ddigwyddiadau elusennol amrywiol ac rydyn ni hefyd yn gofyn i'n haelodau am gymorth ariannol, yn ogystal â gofyn i’r gymuned ehangach yng Nghymru drwy wahodd cylchoedd busnes, ymddiriedolaethau a sefydliadau eraill sydd â diddordeb mewn hyrwyddo addysg, gwyddoniaeth, technoleg a'r celfyddydau yng Nghymru i gefnogi ein gweithgareddau.

Mae prosiect Kristen yn dangos sut gall gwaith arloesol o'r fath wneud cyfraniad hollbwysig at ymchwil feddygol yng Nghymru. Rydyn ni'n falch o allu cefnogi ymdrechion Kristen i feithrin a datblygu cysylltiadau ag arbenigwyr eraill yn ei maes.”

 

 

Rhannu'r stori