Yr arfordir: gweld mwy o rywogaethau ar yr arfordir yn gwella lles - ymchwil newydd

Er mwyn deall sut gall bioamrywiaeth lywio barn pobl, ymgymerodd gwyddonwyr ag astudiaeth ymchwil. Gwnaethant recriwtio 937 o gyfranogwyr. Gwnaethant ofyn iddynt am eu barn ynghylch pa mor ddeniadol, diddorol a llonyddol oedd lluniau o forgloddiau â niferoedd gwahanol o rywogaethau gwymon ac anifeiliaid arnynt.

Mae gweld nifer mawr o rywogaethau ar arfordiroedd trefol – o anifeiliaid morol i wymonau – yn debygol o wella lles pobl leol ac ymwelwyr, yn ôl ymchwil newydd gan dîm ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r canfyddiadau'n darparu rhagor o dystiolaeth bod bioamrywiaeth yn creu buddion pellgyrhaeddol.

Mae astudiaethau o amgylcheddau ar y tir megis dolydd, coetiroedd a pharciau mewn dinasoedd wedi dangos bod pobl yn aml yn teimlo bod lleoedd sy'n cynnwys llawer o fathau gwahanol o blanhigion a bywyd gwyllt yn fwy dymunol a diddorol yn weledol, yn ogystal â bod yn fwy tebygol o liniaru straen.

Fodd bynnag, rydym yn gwybod llawer llai am rywogaethau glan môr ac a ydynt yn creu'r un teimladau cadarnhaol â bywyd gwyllt ar y tir, er bod bron hanner poblogaeth y byd yn byw'n agos at arfordir.

Mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu y gall pobl gysylltu bywyd morol megis gwymonau ag ansoddau ac aroglau annymunol neu gredu eu bod yn ychwanegiadau anniben at arfordiroedd. Felly, mae'n bosib na fydd amrywiaeth ehangach o rywogaethau arfordirol yn arwain at yr un effeithiau cadarnhaol ar les ag a welwyd ar y tir.

Mae hyn yn bwysig gan fod adeileddau arfordirol megis morgloddiau'n olygfeydd mwyfwy cyfarwydd a gallant fod yn gartref i lawer o rywogaethau morol gwahanol. Mae llawer ohonynt bellach yn ymgorffori mesurau i gadw neu hyrwyddo bioamrywiaeth, megis prosiect Sea Hive yn y Mwmbwls yn Abertawe, ond nid oes llawer o ddealltwriaeth o'r ffordd y gallai'r rhain effeithio ar ganfyddiadau a lles ymwelwyr â thraethau.

Er mwyn deall sut gall bioamrywiaeth lywio barn pobl, ymgymerodd gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe ag astudiaeth ymchwil.

Gwnaethant recriwtio 937 o gyfranogwyr o'r DU ac Iwerddon. Gwnaethant ofyn iddynt am eu barn ynghylch pa mor ddeniadol, diddorol a llonyddol oedd lluniau o forgloddiau â niferoedd gwahanol o rywogaethau gwymon ac anifeiliaid arnynt.

Roedd y lluniau'n cynnwys rhwng sero ac wyth rhywogaeth forol wahanol, gan gynnwys mathau gwahanol o wymonau, cregyn llong, ewinedd moch, cregyn gleision a physgod yr anemoni.

Er mwyn gweld a oedd y math o forglawdd roedd gwymonau ac anifeiliaid yn tyfu arnynt yn newid barn pobl, roedd y lluniau'n amrywio rhwng tri math gwahanol o adeiledd: o waliau concrit rheolaidd i amddiffynfeydd morol mwy afreolaidd â chlogfeini – neu “rip-rap”.

Roeddent hefyd yn cynnwys dangos golygfeydd o ddwy raddfa wahanol – o'r adeiledd cyfan i olygfeydd agos – i ddarganfod a oedd y ffordd roedd pobl yn gweld morgloddiau'n effeithio ar eu canfyddiadau.

Dyma ganfyddiadau'r arolwg:

  • Cafodd lluniau biolegol amrywiol ar adeileddau afreolaidd yr ymateb mwyaf ffafriol;
  • Cafwyd ymateb cryf a chadarnhaol i olygfeydd y gwelwyd eu bod yn amrywiol, gan y barnwyd eu bod yn fwy diddorol a llonyddol;
  • Gwelwyd bod y morglawdd hŷn a'r rhai rip-rap yn fwy “naturiol” ac felly roedd barn fwy cadarnhaol amdanynt na'r morglawdd rheolaidd mwy “artiffisial”;
  • Barnwyd mai amrywiaeth a naturioldeb oedd y nodweddion pwysicaf yn ôl sylwadau cyfranogwyr;
  • Roedd hyn yn arbennig o wir am luniau agos, sef y ffordd y mae pobl weithiau'n gweld cynefinoedd arfordirol, er enghraifft archwilio pyllau trai neu edrych arnynt

Meddai Dr Tom Fairchild, o Brifysgol Abertawe, y prif ymchwilydd:

“Roedd pobl yn canfod bod adeileddau â mwy o rywogaethau'n fwy deniadol, diddorol a llonyddol i edrych arnynt. Mae hyn yn awgrymu bod niferoedd uchel o rywogaethau'n cynnig amrywiaeth o fuddion i bobl, er gwaethaf teimladau negyddol achlysurol tuag at rywogaethau.

Roedd hyn yn deillio o'r farn bod adeileddau’n fwy “naturiol” a bod ganddynt “fioamrywiaeth” fwy pan oeddent yn gartref i amrywiaeth eang o fywyd morol, gan ddylanwadu'n gryf ar ein canfyddiadau ynghylch mannau naturiol.

Wrth i ymwybyddiaeth y cyhoedd am effeithiau pobl ar y byd naturiol gynyddu, mae prosiectau i gadw neu wella bioamrywiaeth yn fwy cyffredin bellach.

Mae ein hastudiaeth yn cefnogi'r syniad bod dylunio morgloddiau i gefnogi bioamrywiaeth yn cynnig buddion i fywyd gwyllt, yn ogystal â bod o fudd i fywydau pobl sy'n byw ger ein harfordiroedd trefol neu sy'n eu defnyddio.”

Cynhaliwyd yr ymchwil fel rhan o'r prosiect Ecostructure rhwng y DU ac Iwerddon ac mae wedi cael ei chyhoeddi yn People and Nature.

Biowyddorau - Prifysgol Abertawe

Dyfodol cynaliadwy, ynni a'r amgylchedd - ymchwil Abertawe

Rhannu'r stori