Ymweliad brenhinol â chyfleuster ymchwil sy'n newid bywydau yn Abertawe. Simon Weston, yr Athro Iain Whitaker gyda Ei Huchelder Iarlles Wessex.

Ymwelodd Ei Huchelder Iarlles Wessex, noddwr The Scar Free Foundation, â'r rhaglen ymchwil adlunio wynebau blaenllaw ym Mhrifysgol Abertawe, gan gwrdd â chleifion a allai elwa o'r astudiaethau arloesol hyn.

Y llynedd, lansiwyd y rhaglen ReconRegen gwerth £2.5 miliwn, a ariennir gan The Scar Free Foundation ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Ar hyn o bryd, mae’r fenter tair-blynedd yn ymchwilio i bioargraffu 3D arloesol o gartilag y trwyn a’r glust gan ddefnyddio celloedd dynol, yn ogystal ag astudiaeth fwyaf y byd o sut mae creithiau ar yr wyneb yn effeithio ar iechyd meddwl.

Aeth Ei Huchelder Iarlles Wessex, ynghyd â Llysgennad arweiniol The Scar Free Foundation, Simon Weston CBE, o amgylch y labordy ymchwil pwrpasol, cawsant arddangosiad o'r argraffydd 3D, a chwrdd â chleifion a allai elwa o'r ymchwil arloesol hwn, gan gynnwys Llysgenhadon Sefydliad Scar Free, Jaco Nel a oroesodd sepsis gyda chanlyniadau a newidiodd ei bywyd, Elizabeth Soffe a oroesodd losgiadau difrifol yn 6 mis oed, a Tina Morgan, o Ferthyr Tudful a oroesodd ganser y croen.

Mae gan Simon, prif Lysgennad The Scar Free Foundation greithiau dros 85-90% o’i gorff ar ôl i fom daro ei long yn rhyfel y Falklands. Meddai: “Mae’r cyfle i ailadeiladu hyder pobl sydd ag anffurfiadau wyneb a chorff yn aruthrol. Ni allwch newid yr hyn sy'n digwydd i bobl, ond trwy'r ymchwil a'r datblygiad hwn, gallwch newid sut y gall eu dyfodol edrych."

Yn fam i ddau o blant, cafodd Tina ddiagnosis o ganser y croen ar ei chlust chwith yn 2010. Roedd llawdriniaeth i dynnu'r canser yn llwyddiannus, ond roedd yn golygu bod Tina wedi colli'r rhan fwyaf o ran uchaf ei chlust a nawr dim ond y llabed sydd ganddi ar ôl.
Hoffai Tina gael rhywbeth i gymryd lle’r rhan uchaf o’i chlust, ac mae wedi edrych yn flaenorol ar driniaeth gan ddefnyddio cartilag o rywle arall yn y corff i ail-greu’r glust.

“Ond doeddwn i ddim eisiau cael llawdriniaeth mewn gwirionedd a chael gwared ar unrhyw un o'm hasennau, felly pan welais yr ymchwil yn cael ei gynnal yn Abertawe, roeddwn i'n meddwl ei fod yn ymddangos yn ffordd fwy ymarferol i helpu nid yn unig fi ond pobl eraill sy'n byw bob dydd gyda chreithiau difrifol ar yr wyneb. Gallai hyn newid ein bywydau.”

Bydd y rhaglen arloesol yn datblygu bioargraffu 3D gan ddefnyddio bôn-gelloedd/genedlyddol cartilag dynol penodol a nanocellwlos (sy’n deillio o blanhigion) fel ‘bioinc’ ar gyfer adlunio’r wyneb. Bydd y prosiect yn cynnwys astudiaethau gwyddonol i benderfynu ar y cyfuniad delfrydol o gelloedd i dyfu cartilag newydd, a fydd yn arwain at dreialon clinigol dynol ar gyfer adlunio wynebau.

Mae'r ymchwil yn cael ei arwain gan yr Athro Iain Whitaker - sy'n bennaeth y grŵp ymchwil llawfeddygaeth blastig mwyaf yn y DU - Cadeirydd Llawfeddygaeth Blastig yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, rhan o dîm Canolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru yn Ysbyty Treforys ac Arweinydd Arbenigedd Llawfeddygol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Dywedodd: “Roedd yn wych gallu arddangos yr ymchwil arloesol sy’n digwydd yma yn Abertawe ac roedd yn anrhydedd cael sgwrsio â’r Iarlles am y gwaith rydym yn ei wneud a sut y gallai newid bywydau rhai o’r cleifion a’r llysgenhadon sydd yma heddiw.

“Rwyf wedi datblygu’r Grŵp Ymchwil dros y ddegawd ddiwethaf, ac mae chwe mis wedi mynd heibio ers i ni lansio’r rhaglen. Yn dilyn recriwtio cyflenwad llawn o staff, mae ein hymchwil yn cyflymu.

"Rydym yn datblygu priodweddau mecanyddol y bioinc ac yn profi'r proffil biogydnawsedd a diogelwch i'w ddefnyddio wrth adlunio wynebau. Ochr yn ochr â'r ymchwil peirianneg meinwe a Bioargraffu 3D, rydym yn dadansoddi'n feirniadol llwybrau cleifion mewn rheoli canser y croen - a chan gofio’r costau personol, iechyd, economaidd ac amgylcheddol enfawr, rydym yn defnyddio technolegau blaengar fel prosesu iaith naturiol a deallusrwydd artiffisial i chwyldroi llwybrau cleifion. Bu’r buddsoddiad hwn yn chwyldroadol o ran sicrhau fod ein hymdrechion ymchwil yn bwrw ymlaen, gyda’r nod yn y pen draw o gynnig opsiynau triniaeth arloesol i gleifion a recriwtio rhagor o ymchwilwyr o safon fyd-eang i Gymru yn y dyfodol agos iawn.”

Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, dywedodd: “Mae ymweliadau fel heddiw yn amlygu pa mor bwysig yw’r gwaith hwn, nid yn unig yng Nghymru ond ar lwyfan cenedlaethol a byd-eang. Mae'r prosiect hwn yn unigryw nid yn unig o safbwynt mynd i'r afael ag effeithiau corfforol creithiau, ond hefyd yr heriau seicolegol, sydd yr un mor bwysig.

“Gan weithio gyda The Scar Free Foundation, bydd y buddsoddiad hwn yn darparu’r adnoddau i gyflymu’r ymchwil arloesol hwn, gan anelu at newid bywydau cannoedd o bobl yn y dyfodol.”

Yr Athro Syr Bruce Keogh o’r Scar Free Foundation, dywedodd: “Mae rhoi’r gallu i lawfeddygon yn y dyfodol i adlunio wynebau pobl drwy ddefnyddio eu celloedd eu hunain heb fod angen creithiau pellach yn chwyldroadol. Roedd yn anrhydedd cael y cyfle i gyflwyno ein hymchwil arloesol i Ei Huchelder Iarlles Wessex heddiw.

“Rydym yn gwybod y gall creithiau gael effaith emosiynol a chorfforol hirdymor ar bobl a bydd yr astudiaeth hon hefyd yn ein helpu i ddeall sut mae creithiau ar yr wyneb yn effeithio ar iechyd meddwl yn arbennig, gan arwain at driniaethau newydd. Mae’r ymchwil hwn sy’n newid bywydau yn rhan o’n hymrwymiad i gyflawni iachâd heb greithiau o fewn cenhedlaeth i’r miliynau o bobl sy’n byw gyda chreithiau yn y DU a ledled y byd.”

Yr Athro Ann John, Athro mewn Iechyd Cyhoeddus a Seiciatreg yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, dywedodd: “Mor aml mae'r corfforol a meddyliol yn cael eu gwahanu mewn gofal iechyd, er gwaethaf y ffaith ein bod ni'n gwybod bod y ddau yr un mor bwysig i adferiad. Rwy’n hynod falch o fod yn rhan o’r cydweithrediad ymchwil arloesol hwn sy’n pontio bylchau ar draws disgyblaethau i fynd i’r afael â’r heriau a brofir gan y rhai â chreithiau ar yr wyneb.

"Mae'r ganolfan wedi dod â llawfeddygon ac ymchwilwyr iechyd meddwl ynghyd o dan yr un to. Roedd yn anrhydedd cael trafod hyn gyda’r Iarlles, sydd wedi bod yn hyrwyddo lleihau’r stigma a deimlir gan y rhai ag anawsterau iechyd meddwl wrth iddynt ymdrin â rhwystrau i geisio cymorth, a sut rydym yn ymateb i’r rhai sy’n gwneud hynny.”

Rhannu'r stori