Logo'r 200 Uchaf yn Safleoedd Effaith y Times Higher Education.

Mae Prifysgol Abertawe ymysg y 200 prifysgol orau yn Safleoedd Effaith Times Higher Education 2022.

Mae Times Higher Education yn barnu perfformiad prifysgolion ar lwyfan byd-eang, gan gwmpasu tair prif genhadaeth gweithgarwch prifysgolion (ymchwil, addysgu ac effaith) mewn tablau unigryw. Nod y Safleoedd Effaith yw nodi effaith prifysgolion ar gymdeithas yn seiliedig ar lwyddiant sefydliadau i gyflawni nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.

Mae'r Safleoedd Effaith, sydd yn eu 4edd flwyddyn, yn asesu prifysgolion yn erbyn pob un o 17 nod datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, gan roi sgôr unigol am bob nod a sgôr gyfun gyffredinol am effaith. Mae'r tablau'n defnyddio amrywiaeth eang o fetrigau i asesu prifysgolion, gan gynnwys allbwn ymchwil, metrigau cynaliadwyedd, polisïau, allgymorth a gwaith partneriaeth. Barnwyd cyfanswm o 1,406 o sefydliadau yn y tablau ar gyfer 2022, ac roedd angen i brifysgolion gael eu rhestru am o leiaf bedwar o'r 17 o nodau datblygu strategol er mwyn cael eu cynnwys yn y tabl cyffredinol.

Mae Abertawe wedi cymryd rhan yn y tablau hyn am y tro cyntaf eleni ac mae'r Brifysgol wedi bod yn llwyddiannus iawn, gan gael ei rhestru ymysg y 200 prifysgol orau'n gyffredinol (rhwng 101 a 200) ac ymysg yr 20 prifysgol orau am dri nod datblygu cynaliadwy (NDC), gan amlygu ein cryfder yn y meysydd hyn:

NDC 12: Defnyddio a chynhyrchu’n gyfrifol – 14eg

NDC 16: Heddwch, cyfiawnder a sefydliadau cadarn – 14eg

NDC 11: Dinasoedd a chymunedau cynaliadwy – 18fed

Mae'r canlyniadau eraill yn cynnwys:

NDC 3: Iechyd a llesiant da: 66ed

NDC 6: Dŵr glân a glanweithdra: 34ydd

NDC 7: Ynni fforddiadwy a glân 63ydd

NDC 8: Gwaith teilwng a thwf economaidd: 101–200

NDC 9: Diwydiant, arloesi a seilwaith: 101-200

NDC 11: Dinasoedd a chymunedau cynaliadwy: 18fed

NDC 12: Treuliant a chynhyrchu cyfrifol: 14eg

NDC 13: Gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd: 41fed

NDC 15: Bywyd ar y tir: 37fed

NDC 16: Heddwch, cyfiawnder a sefydliadau cadarn: 14eg

NDC 17: Gweithio mewn partneriaeth i gyflawni’r nodau: 401-600

Meddai'r Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe ar gyfer Ymchwil, Arloesi ac Effaith:

“Mae'n wych gweld ein bod ni'n llwyddo yn ein her i fod yn sefydliad cynaliadwy yma yn Abertawe. Mae'r safleoedd hyn yn y flwyddyn gyntaf yn amlygu bod ymchwil Abertawe'n creu effaith yn lleol ac yn fyd-eang a bod ein harferion cyfrifol ym mhob rhan o'r sefydliad yn ein galluogi i fod yn fwy cynaliadwy. Mae'n fendigedig gweld bod y canlyniadau hyn yn cydnabod gwaith caled ein timau ym mhob rhan o'r Brifysgol.”

Rhannu'r stori