Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe

Bydd Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe eleni'n cynnwys rhaglen wythnos o hyd a fydd yn cynnwys sgwrs gan y cyflwynydd teledu a'r cadwraethwr arobryn Chris Packham, pan fydd hi'n dychwelyd yr hydref hwn.

Mae'r Ŵyl, a gynhelir gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, ar waith rhwng 31 Hydref a 6 Tachwedd a chynhelir digwyddiadau yn LC Abertawe, Canolfan y Celfyddydau Taliesin, Oriel Science ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. 

Thema’r ŵyl eleni yw 'ffiniau' a bydd ymwelwyr o bob oed yn gallu mwynhau arddangosiadau, sioeau a gweithdai'n seiliedig ar wyddoniaeth pob dydd i'r arloesiadau diweddaraf.

Cynhelir y Penwythnos i'r Teulu poblogaidd, sydd wedi denu bron 10,000 o ymwelwyr yn y gorffennol, ar 5 a 6 Tachwedd a bydd yn cynnwys mwy na 30 o arddangosiadau rhyngweithiol am ddim i fynd â meddyliau ymwelwyr ar daith ddarganfod. 

Ar 31 Hydref, bydd y biolegydd bywyd gwyllt a'r darlledwr, Lizzie Daly'n cynnal noson gwis Spooktacular Science i deuluoedd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, a fydd yn cynnwys cwestiynau am bopeth rhyfeddol a hyfryd yn y gwyddorau naturiol.

Yna gall ymwelwyr ddysgu am berfformiad athletwyr a phrofi eu cyflymder, eu cryfder, eu sgiliau ymateb a mwy yn y Parth Chwaraeon newydd yn yr LC ddydd Sadwrn 5 Tachwedd, a fydd yn cynnwys y Gweilch, sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, tîm gwyddor chwaraeon Prifysgol Abertawe a llawer mwy.

Bydd Chris Packham yn rhannu straeon am ei deithiau i ardaloedd bywyd gwyllt y byd a'r harddwch a welir ganddo mewn mannau annisgwyl yn ei sgwrs Pictures from the Edge of the World ddydd Sul 6 Tachwedd. 

Mae gostyngiad cynnar gwerth 22% ar gael ar gyfer digwyddiadau y gellir cadw lle ar eu cyfer tan ganol nos, nos Sul 9 Hydref. 

Meddai'r Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Abertawe: "Ers 2016, mae Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe wedi bod yn ddigwyddiad allweddol i'r ddinas, un sy'n dod â'r gymuned ynghyd drwy gariad at wyddoniaeth. 

"Mae llwyddiant parhaus yr Ŵyl yn golygu mai gŵyl eleni yw'r un fwyaf hyd yn hyn, a byddwn yn edrych ymlaen at groesawu pawb wyneb yn wyneb ar gyfer digwyddiad arbennig i bobl o bob oed".

Porwch raglen lawn yr Ŵyl. 

Rhannu'r stori