StudentCrowd

Prifysgol Abertawe yw'r 15fed brifysgol orau yn y DU yng Ngwobrau Prifysgol StudentCrowd 2022, ac mae wedi cyrraedd yr 20fed safle yng nghategori Undeb y Myfyrwyr.

Gwobrau Prifysgol StudentCrowd yw'r unig wobrau annibynnol sy'n seiliedig yn llwyr ar adolygiadau gan fyfyrwyr ac maent yn adnodd pwysig ar gyfer darpar fyfyrwyr wrth benderfynu ar ba brifysgol i'w mynychu.

Dadansoddodd StudentCrowd gyfanswm o 15,871 o adolygiadau prifysgol i ddewis yr 20 orau ar draws 11 o gategorïau gwahanol.  Dewisir yr enillwyr yn seiliedig ar eu sgôr adolygu gyfartalog dros gyfnod o 24 mis o 1 Mehefin 2020 i 31 Mai 2022.

Meddai StudentCrowd: "Mae gwobrau StudentCrowd yn seiliedig yn llwyr ar adolygiadau myfyrwyr go iawn. Maen nhw'n dangos y gwerth y mae myfyrwyr yn ei roi ar yr hyn y mae prifysgolion yn ei wneud, i greu amgylcheddau dysgu gwych yn y byd ar ôl COVID. Mae llais myfyrwyr yn bwysicach nag erioed ac mae ymgysylltu ag adolygiadau myfyrwyr yn ffordd wych o ddangos bod prifysgolion yn gwrando ac yn ymateb i'r hyn y mae eu myfyrwyr yn ei ddweud".

Yn ogystal â'i pherfformiad cryf yng Ngwobrau StudentCrowd 2022, mae Abertawe hefyd wedi gwneud yn dda ar gyfer boddhad myfyrwyr a boddhad gyda chyrsiau mewn tablau cynghrair nodedig eraill:

  • 12fed safle am foddhad cyffredinol myfyrwyr yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2021.
  • 6ed yn y DU am foddhad â’r cwrs yn The Guardian University Guide 2022.
  • 24ain yn gyffredinol yn The Guardian University Guide 2022.

Meddai'r Athro Martin Stringer, Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Addysg: "Mae'r ffaith bod y gwobrau hyn yn cael eu beirniadu'n llwyr ar sail adolygiadau ein myfyrwyr yn eu gwneud yn arbennig iawn i ni ac rydym yn ddiolchgar i'n cymuned o fyfyrwyr am eu hadolygiadau cadarnhaol.

"Mae'r canlyniadau hyn yn dyst i waith caled ac ymrwymiad ein holl staff sy'n helpu Abertawe i ddarparu addysgu rhagorol, ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang a phrofiad arbennig i fyfyrwyr".

Rhannu'r stori